Neidio i'r prif gynnwy

Y Cwricwlwm i Gymru – Chwalu’r Mythau – Rhan 1.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Myth buster image cymCyn cyhoeddi fersiwn ddrafft y Cwricwlwm i Gymru, ac yn fwyfwy ers hynny, mae sawl myth a chamddehongliad wedi dod i’r amlwg sy’n groes i fwriadau’r rheini sy’n rhan o ddylunio a datblygu’r cwricwlwm newydd.  Dros ddau flogiad, byddwn yn ymdrechu i chwalu rhai o’r mythau hyn a chynnig rhywfaint o gydbwysedd lle mae deuoliaethau di-fudd wedi dechrau ymddangos.

Myth #1 – Ni fydd unrhyw beth wir yn newid – gellir ei gyflwyno yn yr un ffordd rydym yn ei wneud nawr.

Os yw’n gweithio’n iawn, pam mae angen ei newid?  Mae hwn yn wrthwynebiad cyffredin i wneud rhywbeth newydd.  Ond, a oes angen i rywbeth beidio â gweithio o gwbl cyn i ni ymdrechu i’w wella, ei ddatblygu a’i ddiwygio?

Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn fath gwahanol o gwricwlwm i’n un presennol ni – wedi’i seilio ar y 4 diben.  Ni waeth pa mor effeithiol yw eich darpariaeth cwricwlwm bresennol yn eich tyb chi, bydd angen i chi ymgysylltu â’r hyn y mae cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yn ei olygu i ddysgwyr ac ystyried eich cwricwlwm yng ngoleuni’r 4 Diben, y Meysydd Dysgu a Phrofiad, yr Hyn sy’n Bwysig a Deilliannau Cyflawniad.  Bydd hyn yn golygu mwy nag ôl-osod yr elfennau hyn yn y ddealltwriaeth bresennol a’r ffyrdd presennol o weithio. Fframwaith cenedlaethol yw’r cwricwlwm newydd i Gymru, a dim ond drwy ddatblygu cwricwlwm a threfniadau asesu yn yr ysgol y gellir ei wireddu. Yn ogystal, mae’n hanfodol ein bod yn deall bod y term cwricwlwm yn cyfeirio at yr holl brofiadau dysgu a’r gweithgareddau asesu sydd wedi’u cynllunio wrth i ni anelu at ein dibenion addysg cytûn.

Bydd angen newid, a bydd angen mwy o newid mewn rhai lleoliadau nag eraill.  Ydy hi wir yn mynd i fod yn bosibl (neu’n ddoeth) cael cwricwlwm newydd, safonau proffesiynol newydd, trefniadau asesu ac atebolrwydd newydd, cymwysterau newydd, a’r Bil Cwricwlwm ac Asesu arfaethedig, a pheidio â newid unrhyw beth yn eich lleoliad o gwbl?

 

Myth #2 – Cwricwlwm ‘sgiliau’ yw hwn.

Yn ein gwaith gydag ysgolion a rhanddeiliaid addysg eraill, mae’r camsyniad bod y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm ‘sgiliau’ wedi codi o bryd i’w gilydd.  Yn Dyfodol Llwyddiannus, eglurodd Graham Donaldson fod cael cydbwysedd rhwng gwybodaeth, datblygu sgiliau a phrofiadau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael addysg gyflawn. Yn ystod pob cam o’r gwaith datblygu, mae’r rheini sydd wedi bod yn rhan o’r broses wedi gwneud ymdrech i sicrhau bod y cydbwysedd hwn yn cael ei flaenoriaethu.

Yn wir, dim ond edrych ar y pedwar diben sydd angen i weld bod angen i ddisgyblion ‘[d]datblygu corff o wybodaeth’ a meddu ar y ‘sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso at wahanol gyd-destunau’ er mwyn iddynt fod ‘yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes’.  I fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol dylent fod ‘yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion’.  I fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus dylai dysgwyr fod ‘yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol’.

Yn yr adran ‘cynllunio ar gyfer dysgu’ yn ein cwricwlwm newydd, ceir esboniad manwl o’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd wedi’u cwmpasu ym mhob datganiad ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’.

Rydym hefyd wedi clywed a darllen bod agenda Sgiliau’r 21ain Ganrif a gwaith y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn ddylanwad allweddol ar ddyluniad y cwricwlwm. Er bod gwaith yr OECD wedi cael ei ystyried wrth ddatblygu’r cwricwlwm, mae safbwyntiau ystod eang o gyfranwyr ac arbenigwyr o bob ochr i’r ddadl ar ddatblygiad y cwricwlwm wedi cael eu hystyried hefyd.

Yn ddiddorol, wrth edrych yn fanylach ar Brosiect Addysg a Sgiliau’r Dyfodol 2030 OECD, mae’n glir iawn ynghylch lle gwybodaeth yn y cwricwlwm. Er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi’r canlynol:

Disciplinary knowledge, or subject specific knowledge, continues to be an essential foundation for understanding, and a structure through which students can develop other types of knowledge. The opportunity to acquire disciplinary knowledge is also fundamental to equity.’

Felly dylai hyn fod yn sail i ddealltwriaeth disgyblion yn y lle cyntaf, ond mewn cwricwlwm sydd wedi’i gynllunio’n dda, caiff y wybodaeth hon ei datblygu ymhellach, er enghraifft:

‘Interdisciplinary knowledge can be integrated into curricula: by transferring key concepts, identifying connectedness, through thematic learning; by combining related subjects’

Felly dylai meddwl rhyngddisgyblaethol gryfhau dealltwriaeth disgyblion, unwaith y bydd ganddynt sylfaen wybodaeth gadarn yn eu meysydd astudio.

Mae OECD hefyd yn amlygu pwysigrwydd gwybodaeth epistemig, y gallu i feddwl fel mathemategydd neu hanesydd (er enghraifft), a gwybodaeth weithdrefnol neu ddealltwriaeth o’r ffordd y caiff tasg ei chyflawni, a sut i weithio a dysgu drwy brosesau strwythuredig.

Dylid datblygu pob un o’r mathau hyn o wybodaeth yn y cwricwlwm; o’r herwydd, bydd canllawiau’r cwricwlwm i gefnogi datblygiad y cwricwlwm mewn ysgolion yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth ymarferwyr o’r cysyniadau hyn gydag enghreifftiau ategol. Y rhain fydd ffocws rhaglenni cefnogi dysgu proffesiynol rhanbarthol hefyd.

 

 

 

Myth #3 – Nid oes disgyblaethau na phynciau yn y cwricwlwm newydd

Yn ogystal â’r uchod, mae rhai penawdau diddorol wedi ymddangos yn y cyfryngau yn cyfeirio at golli nifer o ddisgyblaethau traddodiadol o fframwaith y cwricwlwm.

Er bod yr ysgolion arloesi wedi mynd ati i lunio cysylltiadau rhwng disgyblaethau, mae syniadau canolog a gwybodaeth a sgiliau hanfodol disgyblaethau allweddol yn parhau yn fframwaith y cwricwlwm.

Yn wir, mae llawer o feysydd pwnc newydd yn y cwricwlwm – sy’n adlewyrchu’r ffordd y mae’r byd wedi newid ers 1988 – megis astudiaethau busnes, astudiaethau cymdeithasol a ffilm a’r cyfryngau digidol. Mae pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cwmpasu ystod o feysydd pwnc – nid yw’r pynciau wedi’u colli, maent wedi’u grwpio i feysydd dysgu a phrofiad, gan adlewyrchu’r dyhead i ddysgu mewn ffordd sy’n fwy cysylltiedig ac yn llai tameidiog.

Wrth ddylunio’r cwricwlwm, roedd Ysgolion Arloesi bob amser yn gofyn y cwestiwn – ‘Sut mae’r Maes Dysgu a Phrofiad yn helpu i ddatblygu’r pedwar diben ymhlith pobl ifanc?’ Yn hytrach na ‘Sut mae’r cwricwlwm yn cefnogi astudiaeth ffyddlon o wybodaeth a sgiliau disgyblaethol?’

Yn ogystal, wrth i ddysgwr symud tuag at gam cynnydd 5, mae dyluniad adran ‘dysgu’ y cwricwlwm yn dechrau darparu ar gyfer llwybrau i feysydd astudio mwy arbenigol, er enghraifft yn natganiad ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg nodir:

Mae grymoedd ac egni yn pennu strwythur a deinamig y bydysawd.

Yn ogystal ag ystyriaethau cyffredin ymholi, mae ystyriaethau ychwanegol ar gyfer astudiaethau disgyblaethol wedi cael eu hychwanegu. Er enghraifft, mewn perthynas â ffiseg:

  • Gallaf ymchwilio i weld sut a pham y mae cyrff yn symud, gan gyfeirio at ddeddfau ffisegol perthnasol.

Mae strwythuro’r cwricwlwm ar ffurf meysydd dysgu a phrofiad wedi gwneud i lawer dybio y bydd yn rhaid i ysgolion ddylunio cwricwla integredig ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ceisio lleihau profiadau dysgu ‘tameidiog’ a helpu i gysylltu dysgu, o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a rhyngddynt.  Ond nid yw hyn yn gofyn am ddull gweithredu integredig o reidrwydd. Efallai y bydd ysgolion am ddatblygu dulliau integredig, amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu ddisgyblaethol o ddylunio’r cwricwlwm o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad a rhyngddynt. Gall gwerthuso dulliau gwahanol o ddylunio’r cwricwlwm fod yn gam cyntaf da i athrawon ac arweinwyr ysgolion.

Yn ogystal â hyn, mae angen datblygu dull trawsgwricwlaidd o ddatblygu’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol, ynghyd â sgiliau ehangach.

Myth #4 – Dylai’r cwricwlwm hwn gael ei arwain gan ddysgwyr

Fel mewn elfennau eraill o’r ddadl sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, mae llawer o drafod wedi bod ynghylch i ba raddau y caiff dysgwyr eu cynnwys yng nghyfeiriad eu dysgu. Mae dryswch wedi bod y dylai ‘sybsidiaredd’ o ran dewis ymarferydd gyfateb i ddull cwbl ‘adeileddol’ o lunio’r cwricwlwm lle mae diddordebau’r plant yn cael eu defnyddio fel man cychwyn i ddatblygu’r cwricwlwm yn yr ysgol. I’r gwrthwyneb, mae rhai pobl o’r farn y dylai’r cwricwlwm gael ei drefnu a’i gynllunio’n hynod fanwl gan athrawon ac arweinwyr, heb fawr ddim cyfraniad gan y plant.

Mae bwriad y timau dylunio yn syrthio rhywle yn y canol rhwng y ddau safbwynt hyn. Mae’n hanfodol bod gan ein pobl ifanc gwricwlwm strwythuredig sydd wedi’i gynllunio’n dda, gyda chyfleoedd i ddysgu ar draws meysydd pwnc o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a rhyngddynt. Dylid datblygu hyn mewn ffordd sy’n datblygu eu gwybodaeth ac yn cysylltu eu dysgu (rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad) er mwyn cryfhau eu dealltwriaeth, ond dylid hefyd gynnwys cynllun tymor hwy sy’n mapio’r dysgu hwn mewn ffordd resymegol a dilynol.

Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig bod gan ddysgwyr lais er mwyn llywio’r profiadau a’r meysydd ymholi a fydd yn helpu i sicrhau bod eu profiad dysgu yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u profiadau blaenorol, gan roi cwricwlwm dilys a pherthnasol iddynt.

Ni ddylid ystyried y cwricwlwm newydd fel rhywbeth cwbl agored lle gellir gwneud unrhyw beth. Mae athrawon a staff cymorth yn chwarae rôl hanfodol wrth benderfynu pa gynnwys y dylid ei astudio a’r ffordd orau o’i addysgu, a’r cyfan wedi’i wreiddio, wrth gwrs, yn natganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ a Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiadau. Mae gan fyfyrwyr ddewis, ond o fewn ffiniau. Mae athrawon yn penderfynu ar gynnwys/pynciau sy’n sicrhau ehangder a pherthnasedd a gall myfyrwyr leisio barn ar hynny. Byddai’n gwneud synnwyr petai’r cwricwlwm yn cael ei ddisgrifio fel un sydd wedi’i ddylanwadu gan ddysgwyr yn hytrach na’i arwain ganddynt.

Post gan James Kent, Nicky Hagendyk a Daniel Davies (Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg  I Dde Ddwyrain Cymru)

 

 

Gadael ymateb