Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn i bawb gael dweud eu dweud

Read this page in English

Blog - EAS engagement eventBydd digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir ledled Cymru dros y misoedd nesaf yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb ystyried Cwricwlwm drafft i Gymru 2022 a chynnig adborth.

Bydd sesiynau briffio ar gael i ymarferwyr a drefnir gan eu consortiwm rhanbarthol lle y caiff y cwricwlwm ei esbonio. Dechreuodd y rhaglen drwy gynnal digwyddiadau am wythnos gyfan yng nghonsortiwm rhanbarthol Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-Ddwyrain Cymru wedi eu mynychu gan dros 800 o bobl. Gweler y rhaglen lawn isod.

I’r ymarferwyr na allent fynd i’r sesiynau hyn, mi fydd pecyn gweithdy ar gael i benaethiaid ei ddefnyddio yn eu hysgolion. Mae adnoddau a digwyddiadau wedi’u hanelu at y Sector Nas Cynhelir hefyd ar y gweill.

Fel rhan o’r cynllun ymgysylltu, ymunodd Kirsty Williams, y Gweinidog dros Addysg, ag athrawon mewn sesiwn holi ac ateb yn Ysgol Tregatwg yr wythnos diwethaf, a gafodd ei ffrydio’n fyw drwy Twitter. Yn ystod y cyfnod ymgysylltu, croesewir sylwadau drwy twitter a facebook,  neu’r e-bost mwy traddodiadol yn CwricwlwmiGymru2022@llyw.cymru , er y dylid cyflwyno adborth ffurfiol drwy dudalennau’r cwricwlwm drafft ar Hwb. 

Ond mae angen i’r gweithgarwch ymgysylltu ar y cwricwlwm drafft fynd y tu hwnt i’r  gweithlu addysgu a’r ymarferwyr addysg, felly mae Kirsty Williams yn cychwyn ar sioe deithiol i gwrdd â rhieni, busnesau a rhanddeiliaid eraill i geisio eu barn.

Bydd hyn yn cael ei ategu gan gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid yng Nghaerdydd a Llandudno.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn cyhoeddi pecyn ymgysylltu i weithwyr ieuenctid ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal â chynnal cyfres o grwpiau ffocws ledled Cymru.

Yn ogystal â fforymau a thrafodaethau ar-lein, y gobaith yw y bydd pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i ddeall y newidiadau, cynnig syniadau, a dechrau rhannu perchnogaeth o’n cwricwlwm newydd.

Mae gwefan sy’n rhoi darlun llawn o’r newidiadau sydd ar y gweill ar gyfer addysg yng Nghymru ar gael yma – byddwn yn annog ysgolion a sefydliadau sydd am roi trosolwg o’r hyn sy’n newid ac erbyn pryd i gynnwys dolen iddi ar eu gwefannau .

Yn y cyfamser, gallwch ddod i adnabod rhai o’r bobl sy’n gyfrifol am lunio’r cwricwlwm drafft –  mae fideos ar gael ar Hwb.

Ac os ydych am gynnal digwyddiad neu ddysgu sut y gallwch gymryd rhan, anfonwch neges i CwricwlwmiGymru2022@llyw.cymru .

Tabl digwyddiadau ymarferwyr:

 

Dyddiad Consortia Lleoliad
07 Mai 2019 GCA Gwesty Parkway, Cwmbrân
08 Mai 2019 GCA Canolfan Christchurch, Casnewydd
09 Mai 2019 GCA Canolfan Christchurch, Casnewydd
10 Mai 2019 GCA Gwesty Parkway, Cwmbrân
13 Mai 2019 ERW Parc y Scarlets
15 Mai 2019 ERW Gwesty’r Metropole, Llandrindod
03 Mehefin 2019 ERW Neuadd y Frenhines, Narberth
04 Mehefin 2019 ERW Neuadd y Frenhines, Narberth
05 Mehefin 2019 CCD Stadiwm Dians Caerdydd
06 Mehefin 2019 CCD Cyrchfan Dyffryn, Hensol
06 Mehefin 2019 ERW Parc y Scarlets
07 Mehefin 2019 ERW Parc y Scarlets
07 Mehefin 2019 CCD Gwesty Parc Treftadaeth, RhCT
11 Mehefin 2019 CCD Gwesty Parc Treftadaeth, RhCT
11 Mehefin 2019 ERW Gwesty’r Village, Abertawe
12 Mehefin 2019 CCD Cyrchfan Dyffryn, Hensol
13 Mehefin 2019 CCD Novotel Caerdydd
13 Mehefin 2019 ERW Gwesty’r Village, Abertawe
14 Mehefin 2019 ERW Stadiwm Liberty, Abertawe
17 Mehefin 2019 ERW Aberystwyth
18 Mehefin 2019 ERW Aberystwyth
19 Mehefin 2019 ERW Gwesty’r Village, Abertawe
20 Mehefin 2019 ERW MRC Cymru, Llandrindod
21 Mehefin 2019 ERW MRC Cymru, Llandrindod
W/C 17 Mehefin 2019 GwE Gogledd Orllewin
W/C 17 Mehefin 2019 GwE Gogledd Ddwyrain
W/C 3  Mehefin 2019 GwE Gogledd Orllewin
W/C 3 Mehefin 2019 GwE Gogledd Canol
W/C 3 Mehefin 2019 GwE Gogledd Ddwyrain
20 Mai 2019 GwE Gwesty Carreg Bran
14 Mai 2019 GwE Galeri Caernarfon
17 Mai 2019 GwE Canolfan Gynadledda Glasdir
13 Mai 2019 GwE Optic Technium
16 Mai 2019 GwE Canolfan Catrin Finch
15 Mai 2019 GwE Parc Beaufort

Gall ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ddefnyddio’r dolenni isod i archebu lle ar sesiynau.

CSC – https://www.smartsurvey.co.uk/s/CSCevents/

ERW – https://www.smartsurvey.co.uk/s/ERWEvents/

GwE – https://www.smartsurvey.co.uk/s/GwEEvents/

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, cwricwlwm ac asesu

 

Gadael ymateb