Mae’r Cwricwlwm i Gymru 2022 Drafft bellach ar gael ichi ei archwilio.
Mae wedi’i gyhoeddi ar Hwb, y wefan sy’n ganolbwynt i addysgu a dysgu yng Nghymru. Mae fframwaith y cwricwlwm ar-lein ar gael am adborth tan 19 Gorffennaf.
Caiff digwyddiadau ymgysylltu eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd i ddod, er mwyn i ymarferwyr gael adolygu a thrafod y cwricwlwm newydd drafft.
Mae croeso i bawb, boed yn rhieni neu’n fusnesau hyd yn oed – yn wir, unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysg yng Nghymru – roi adborth cyn i’r fersiwn wedi’i fireinio gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020.
Mae creu’r cwricwlwm fel y mae wedi bod yn dipyn o her i athrawon arloesi, athrawon a secondiwyd, arbenigwyr allanol, swyddogion, a llawer mwy. Braf yw gweld pethau’n dechrau dwyn ffrwyth.
Ond mae adborth nawr yn hollbwysig: mae’r cwricwlwm hwn yn seiliedig ar bedwar diben addysg, ond un diben sydd mewn gwirionedd: sef paratoi plant Cymru, gymaint â phosib, i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Efallai yr hoffech hefyd weld:
Gwefan Mae Addysg yn Newid, sy’n darparu gwybodaeth hawdd iawn ei defnyddio i’r cyhoedd