Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol Jiwbilî – sut rydym yn cyflwyno ein cwricwlwm newydd

Read this page in English

Jubilee Park CK Learning Journal.pngYm mis Medi gwnaethom ysgrifennu ein blogiad cyntaf, ‘Datblygu ein Cwricwlwm Ffynnu yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî’ er mwyn rhannu dechrau ein taith gwricwlaidd. Mae’r blogiad hwn yn disgrifio’r ffordd rydym wedi symud ymlaen i gynllunio a threialu ein dull gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Gwnaethom ddechrau drwy ystyried adborth gan ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr a chydweithwyr a defnyddio dogfennau o broses ddiwygio Cwricwlwm i Gymru, y gwnaethom eu defnyddio i barhau i ymchwilio, datblygu a chynllunio ein Cwricwlwm Ffynnu. Nid oeddem yn rhan o’r broses Arloesi ond rydym wedi treulio’r deunaw mis diwethaf yn treialu ffyrdd newydd o gynllunio ac rydym yn gyffrous iawn o ystyried y cyfleoedd sydd o’n blaenau.

Fel ysgol newydd sy’n tyfu, rydym yn myfyrio’n gyson ar ein datganiad cenhadaeth a’n hegwyddorion gweledigaeth er mwyn cynnal eu lle fel sylfeini ar gyfer ein diben strategol a’n proses o ddatblygu’r cwricwlwm. Gyda’i gilydd, mae egwyddorion ein gweledigaeth, ein gwaith i gynllunio’r cwricwlwm a dysgu a datblygiad proffesiynol yn triongli i’n helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae pob elfen yn rhyngddibynnol ac yn hyblyg wrth ymateb i anghenion ein cymuned sy’n tyfu a’r wybodaeth sy’n deillio o’r broses ddiwygio.

Mae gan y Tîm Arwain weledigaeth glir ar gyfer cynllun y cwricwlwm, yn ogystal â’r wybodaeth i arwain a helpu’r athrawon. Mae staff wedi nodi bod mwy o hyblygrwydd a mwy o ymddiriedaeth broffesiynol, a heb hyn ni fyddai tîm yn gallu mynd ati o ddifrif i herio ffordd o feddwl a normau.

Mae rôl Dysgu Proffesiynol yn hanfodol i’n datblygiad. Mae sesiynau Dysgu a Datblygiad Proffesiynol Wythnosol a diwrnodau HMS wedi canolbwyntio ar argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus a dogfennau’r Cwricwlwm drafft. Rydym wedi treulio amser yn siarad, yn trafod, yn cydweithredu ac yn gweithio drwy’r MDPhau a’r hyn y mae’r fframwaith cenedlaethol yn ei gynnig.

Mae athrawon yn defnyddio ein model cynllunio Cwricwlwm Ffynnu fel canllaw cynllunio ac mae’n esblygu er mwyn diwallu anghenion ein hysgol. Mae ein proses gynllunio yn canolbwyntio ar y dysgu drwy’r Pedwar Diben, Yr Hyn sy’n Bwysig ac mae’n ymwneud â’r Deilliannau Cyflawniad sy’n angenrheidiol cyn i athrawon hyd yn oed ystyried gweithgareddau ar lefel ystafell ddosbarth a fydd yn hwysluo’r dysgu. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn hyder staff i dreulio amser yn sicrhau bod plant yn cael mwy o ymdeimlad o ddyfnder a dealltwriaeth yn eu dysgu, yn hytrach na symud ymlaen yn rhy gyflym. Mae ‘arafwch’ i ddysgu yn ein hysgol ac rydym yn gweld bod plant yn dangos dealltwriaeth ddyfnach o gysyniadau allweddol, eu bod yn gallu cymhwyso eu sgiliau at amrywiaeth o brofiadau, eu bod yn greadigol ac yn mwynhau eu dysgu!

Ers tymor y gwanwyn rydym wedi bod yn treialu’r cwricwlwm newydd, gan ddefnyddio pob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh). Gwelsom ar unwaith bod angen neilltuo amser i drafod a chydweithio er mwyn datblygu cynllun cydlynol ar gyfer dysgu.

Mae defnyddio’r MDPhau newydd wedi golygu bod ein staff mewn sefyllfa gryfach, ond maent hefyd yn parhau i ddefnyddio’r hyn maent yn gwybod ei fod yn gweithio. Un o’r canlyniadau yw dealltwriaeth ddyfnach o MDPhau a’r ffordd y gall athrawon a phlant greu cysylltiadau rhwng yr hyn a ddysgir. Rydym wedi dechrau cydnabod bod y broses o werthuso a choethi yn prysur ddod yn graidd i’r gydberthynas rhwng y cwricwlwm cenedlaethol a’r cwricwlwm ar lefel ysgol.

Barn Athro ar y Thema ‘Gwlad Fach: Effaith Fawr?’  a gynlluniwyd gan ddefnyddio dogfennaeth y Cwricwlwm newydd

Mae cynllunio yn y ffordd hon wedi newid fy meddylfryd am y cwricwlwm. Er enghraifft, roeddwn bob amser yn meddwl bod ‘byw’n iach’ yn rhywbeth a gaiff ei gwmpasu ym Mlwyddyn 3 neu ym Mlwyddyn 4. Ond drwy ganolbwyntio ar hyn ym Mlwyddyn 6, cyflwynir lefel ddyfnach o drafodaeth a dysgu wrth i blant ddatblygu flogiau byw’n iach er mwyn trafod effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd. Ni fyddwn wedi meddwl am hyn o’r blaen oherwydd y byddai wedi cael ei ‘gwmpasu’ gan rywun arall.

Mae’r dull newydd o gynllunio yn y tymor canolig wedi golygu y gellir meddwl mewn ffordd hyblyg am ddysgu yn hytrach na gweithgareddau. Nid wyf yn meddwl am lenwi blychau. Yn hytrach, rwy’n meddwl mewn wythnosau bellach. Mae’n fwy cyfannol ac yn canolbwyntio mwy ar sgyrsiau a deialog dysgu yn hytrach na gweithgarwch. Mae’r defnydd o ‘Archwilio a Phrofi’, ‘Creu a Mynegi’, ‘Ymateb a Myfyrio’ yn ffordd wych o strwythuro gwaith cynllunio.

Myfyrio ar y Cwricwlwm Ffynnu gan Erin, Disgybl Blwyddyn 6

Ers bod yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî rwyf wedi sylwi ar effeithiau’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn ein hysgol, rydym yn siarad llawer am y Pedwar Diben a’r effaith a gaiff y rhain arnom nawr ac yn y dyfodol. Llwyddais i siarad â mam am y Pedwar Diben hyd yn oed a’r hyn maen nhw’n ei olygu i mi yn fy Adolygiad Dysgu (Ymgyngoriadau â Rhieni)! Yma yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî rydym yn cael llawer o gyfleoedd cyffrous newydd. Er enghraifft, mae ein Diwrnodau Cyfoethogi a’n Diwrnodau Trochi yn fy ngalluogi i fynegi fy syniadau a’m creadigrwydd ac rwyf wrth fy modd â’n themâu unigryw sy’n ffurfio rhan o ymchwiliad e.e. ‘Beth yw Celf?’. Rwyf hefyd wrth fy modd gyda’n cofnodlyfrau dysgu am fy mod yn cael cyfle i ddehongli ein thema mewn ffordd greadigol!

Drwy gydol y daith hon, rydym yn ailymweld â’r Pedwar Diben yn rheolaidd. Rydym wedi cael sesiynau Dysgu a Datblygiad Proffesiynol sy’n trafod beth yw nodweddion allweddol y Pedwar Diben unigol ar adegau gwahanol, sut y gallwn ddangos cynnydd a sut y gallwn gefnogi dealltwriaeth ymysg cymuned ein hysgol.

Beth rydym yn ei wneud er mwyn datblygu ein dealltwriaeth o’r Pedwar Diben?

  • Dysgu a Datblygiad Proffesiynol i drafod cynnydd ac i gefnogi dealltwriaeth gyffredin pob aelod o staff (Athrawon a Chynorthwywyr Addysgu)
  • Roedd Cyfarfodydd Cynnydd Disgyblion yn canolbwyntio ar blant unigol a’r ffordd maent yn dangos cynnydd (Athro, Dirprwy Bennaeth a Phennaeth)
  • Adolygiadau Dysgu Disgyblion er mwyn cefnogi sgyrsiau rhwng plant ac athrawon am safbwyntiau plant ynghylch y ffordd maent yn gwneud cynnydd tuag at y Pedwar Diben, eu hagweddau at ddysgu a sut maent yn teimlo y gellir eu cefnogi ymhellach (Athro a Phlentyn, Plentyn a Phlentyn)
  • Gweithdai Cwricwlwm i Rieni er mwyn datblygu dealltwriaeth rhieni o’r Pedwar Diben a hwyluso deialog am y sgiliau a’r profiadau sydd gan blant i gefnogi eu cynnydd yn yr ysgol a’r tu allan (Athro a Rhiant)
  • Adolygiadau Dysgu i Rieni er mwyn trafod cynnydd, agweddau at ddysgu, cyflawniadau a chytuno ar ffyrdd o gefnogi plant ar y cyd (Athro, Rhiant a Phlentyn)

Sut rydym yn datblygu ein Cwricwlwm Ffynnu?

  • Trafodaethau rheolaidd ynghylch diben ein cwricwlwm
  • Datblygu dealltwriaeth o’r Pedwar Diben, Yr Hyn sy’n Bwysig, Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiadau a Deilliannau Cyflawniad
  • Sesiynau Dysgu a Datblygiad Proffesiynol sy’n trafod yr effaith ar ymarfer gan ddefnyddio’r canlynol fel ffocws:
    • Diben
    • Proses
    • Cynnydd
    • Addysgeg
    • Dysgu Proffesiynol
  • Amser wedi’i strwythuro ar gyfer cydweithio mewn grwpiau bach ac amser i rannu a myfyrio fel staff ysgol gyfan
  • Dadansoddiad systemataidd o Gwricwlwm i Gymru wrth iddo ddatblygu, gan sicrhau bod gan ein model a’n dull gweithredu integredd yn erbyn y cwricwlwm cenedlaethol a’i fod hefyd yn gwasanaethu fel dull o werthuso a choethi ein model yn unol â datblygiadau sy’n dod i’r amlwg

Cwestiynau rydym yn gofyn i’n hunain eu hystyried yn rheolaidd:

  • Sut y gallwn ddangos cynnydd tuag at y Pedwar Diben? Sut y gallwn osgoi bod hyn yn troi yn broses olrhain neu fesur syml?
  • Sut y gallwn ddefnyddio’r datganiadau Yr Hyn sy’n Bwysig er mwyn dangos bod y dysgu wedi digwydd?
  • Sut y gallwn ddangos dealltwriaeth o Wybodaeth, Sgiliau a Phrofiadau?
  • Myfyrio ar feysydd/elfennau a all fod yn peri pryder/yn herio eich ffordd o feddwl?

 Beth rydym wedi’i ddysgu, 18 mis yn ddiweddarach…

  • Nid beth rydych yn ei wneud sy’n bwysig, ond ‘Pam’ rydych yn ei wneud
  • Mae model cynllunio ein cwricwlwm, sy’n gysylltiedig â’n gweledigaeth, wedi helpu dealltwriaeth y staff
  • Rydym yn datblygu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion ein plant ac sy’n berthnasol i’n cyd-destun lleol
  • Mae ein gwaith i gynllunio’r cwricwlwm yn golygu bod staff yn rhydd i arloesi, dilyn diddordebau’r plant a datblygu’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau angenrheidiol er mwyn datblygu’r dysgu
  • Mae’n hanfodol cael amser i drafod, datblygu dealltwriaeth, cydweithio a chynllunio
  • Mae dealltwriaeth ddyfnach o’r Pedwar Diben yn effeithio ar y broses o gynllunio ar gyfer dysgu
  • Yr Hyn sy’n Bwysig i’n plant a’n staff
  • Mae plant yn gwneud cynnydd ardderchog, yn mwynhau ac yn ymgysylltu â’u dysgu
  • Mae datblygu ein dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru yn golygu:
    • Gwybod am y Cwricwlwm
    • Gwybod sut ‘i wneud’ y Cwricwlwm

Mae’r staff wedi’i chael hi’n anodd datblygu’r cwricwlwm, ond maent wedi cael cefnogaeth i gymryd risgiau. Mae amgylchedd yr ysgol yn gadarnhaol ac yn canolbwyntio ar ddysgu. Yn ôl y staff, mae popeth y maent yn ei wneud yn ystyrlon ac yn berthnasol, sydd wedi arwain at gydbwysedd gwaith/bywyd gwell. Mae gan y Tîm Arwain weledigaeth glir ar gyfer cynllun y cwricwlwm, yn ogystal â’r wybodaeth i arwain a helpu’r athrawon. Mae staff wedi nodi bod mwy o hyblygrwydd a mwy o ymddiriedaeth broffesiynol, a heb hyn ni fyddai tîm yn gallu mynd ati o ddifrif i herio ffordd o feddwl a normau. I ni, nid yw hyn yn golygu mwy o waith na gwaith anoddach. Yn hytrach mae’n golygu bod y tîm yn gweithio mewn ffordd wahanol ac yn blaenoriaethu yr hyn sy’n bwysig yn ein barn ni.

 Mae’r plant yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio eu profiadau dysgu, ac mae ganddynt yr hyder i drafod eu taith dysgu. Maent yn cydnabod yr holl gyfleoedd cyfoethog a dilys sydd ar gael, a gallant drafod y rhain yn fanwl. Mae ein hiaith ddysgu yn galluogi’r plant i drafod yn hyderus y ffordd y maent yn dysgu a’r ffordd y mae ein galluoedd dysgwyr yn eu helpu.

Beth nesaf?

Mae gweledigaeth, y gwaith i gynllunio’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn hollbwysig i greu diwylliant o ddysgu yn ein hysgol. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys fframwaith lefel genedlaethol ac yn galluogi cynllunio ar lefel ysgol. I mi, o ystyried bod ‘Cwricwlwm’ yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu a gynllunnir wrth anelu at ddibenion addysg y cytunwyd arnynt, ein diben moesol fel arweinwyr ysgol yw cyflawni’r her hon, datblygu diwylliant o ddysgu yn ein hysgolion a chydweithio i ddatblygu ein cwricwlwm ar lefel ysgol.

Mae’n fraint cefnogi’r broses o ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru ym Mharc Jiwbilî a gweld y brwdfrydedd ar gyfer dysgu ymysg y staff a’r plant. Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at gam nesaf y broses o ddatblygu ein Cwricwlwm Ffynnu – sef ei roi ar waith yn llawn.

Gadael ymateb