Neidio i'r prif gynnwy

Creu cymwysterau’r dyfodol

Read this page in English

Quals Wales Emyr_George 2 - blogMae’r myfyrwyr sy’n sefyll eu harholiadau yr haf hwn yn rhan o Genhedlaeth Z. Cawsant eu geni ar droad y ganrif, ac iddyn nhw, y byd rhyngysylltiedig yw’r norm. Llai na deng mlynedd o nawr, tro Cenhedlaeth Alpha fydd hi – plant y ‘Millennials’.

Pa sgiliau a gwybodaeth fydd eu hangen arnynt i fod yn barod ar gyfer eu dyfodol? Ac ym mha ffyrdd y bydd angen iddynt allu dangos yr hyn y maent wedi ei ddysgu a’r hyn y gallant ei wneud?

Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn newid pwysig mewn addysg, rydym eisoes yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer plant rhwng 14 ac 16 oed yn y dyfodol. Mewn geiriau eraill, yr arholiadau y byddant yn eu sefyll o 2027 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o blant 16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau TGAU, yn ogystal ag amrywiaeth o gymwysterau eraill. Unwaith y bydd y cwricwlwm newydd ar waith, bydd angen i ni gael arholiadau a chymwysterau o hyd. Ond bydd rhaid eu haddasu er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr hyn y bydd y bobl ifanc a fydd yn eu hastudio wedi ei ddysgu.

Mae’r cwricwlwm newydd, a’r diwygiadau ehangach i berfformiad ysgolion a threfniadau atebolrwydd, yn rhoi cyfle prin i ni ailystyried pam mae myfyrwyr yn astudio cymwysterau yn 16 oed. Mae’n gyfle i greu system gymwysterau sy’n cefnogi pobl ifanc i sylweddoli dibenion y cwricwlwm newydd a mynd yn eu blaenau i gael dyfodol llwyddiannus.

Rydym am weld cymwysterau blaengar sy’n cynnig dewis cydlynol, hyblyg a dwyieithog, sy’n gyfredol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, sy’n galluogi dysgwyr i barhau â bywyd, ac sy’n ysbrydoli hyder y cyhoedd.

Ni fydd yn hawdd gweithio allan beth fyddai hynny’n ei olygu yn ymarferol. Er mwyn helpu i wneud hyn yn gywir, bydd angen i ni glywed gan nifer o bobl a sefydliadau gwahanol.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gofyn cwestiynau mawr i amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn ein helpu i feddwl am yr hyn sydd ei angen. Dyna ein man cychwyn. Rydym am glywed beth yw barn pobl am sut y dylai cymwysterau fod yn y dyfodol.

Yn ogystal â chymwysterau TGAU, rydym yn ystyried sut y gall amrywiaeth o gymwysterau ddiwallu anghenion pob dysgwr. Mae hynny’n golygu edrych ar gymwysterau amgen yn lle cymwysterau TGAU yn ogystal â chymwysterau lefel mynediad. O ran brand TGAU, ceir dadl gref dros ei gadw, ond rydym yn agored o hyd i safbwyntiau eraill. Hyd yn oed os byddwn yn dal i alw rhai cymwysterau’n TGAU, byddant yn wahanol i’r rhai sydd gennym heddiw.

Byddwn yn siarad â chynifer o wahanol grwpiau â phosibl gan gynnwys: plant a phobl ifanc, ysgolion, rhieni, cyflogwyr, prifysgolion a nifer o sefydliadau eraill.

Rydym am archwilio a thrafod y canlynol:

  • Beth ddylai’r prif ddibenion fod ar gyfer cymwysterau a astudir yn 16 oed? Sut y gallai eu dibenion ddylanwadu ar y ffyrdd y caiff cymwysterau eu haddysgu a’u hasesu?
  • Sut y dylai cymwysterau gysylltu â’r cwricwlwm newydd?
  • A ddylai fod cymysgedd o wahanol fathau o gymwysterau a dulliau asesu?
  • A oes pethau na ddylem geisio eu hasesu fel cymwysterau? A oes ffyrdd eraill o ddangos cyflawniadau a phrofiadau?
  • Pa ystod o bynciau a meysydd dysgu y dylai cymwysterau eu cwmpasu?
  • Beth ddylai maint cymwysterau fod a thros ba gyfnod y dylid eu hastudio?
  • Faint o gymwysterau y dylai myfyrwyr anelu at eu cael wrth adael yr ysgol, a pha ystod o gymwysterau?

Dros yr haf byddwn yn cael sgyrsiau cynnar er mwyn ein helpu i lywio ein barn ar y cwestiynau mawr hyn. Gan ddefnyddio’r hyn rydym wedi ei ddysgu byddwn yn datblygu cynigion ar gyfer sut y gallai’r ystod o gymwysterau edrych yn y dyfodol. Yn ystod yr hydref, byddwn yn cynnal ymgynghoriadau ffurfiol ar y cynigion hynny, er mwyn rhoi cyfle i bawb leisio eu barn. Gweler y llinell amser yma

I gael rhagor o wybodaeth am ein barn ar gymwysterau a’r cwricwlwm newydd, ewch i’n gwefan a dilynwch ni ar Twitter, Facebook a LinkedIn.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech eu rhannu gyda ni, cysylltwch â ni, hoffem glywed gennych: Cwricwlwm@cymwysteraucymru.org

Gadael ymateb