Neidio i'r prif gynnwy

Asesu a’r cwricwlwm newydd

Read this page in English

Assessment image - infographic CymraegBydd cynigion asesu’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru 2022 drafft, i’w gyhoeddi ar 30 Ebrill 2019. Gan fod y cwricwlwm newydd wedi cael ei adeiladu ar gynnydd, mae cefnogi cynnydd dysgwyr yn ganolog i’r cynigion.

Cynnydd a’r Cwricwlwm i Gymru 2022

Argymhellodd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ y dylid newid o’r cyfnodau a’r cyfnodau allweddol presennol i gontinwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed. Mae’r continwwm newydd yn cynnwys camau cynnydd, sef pwyntiau cyfeirio sy’n ymwneud yn fras â disgwyliadau yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Nodir y camau cynnydd hyn fel cyfres o ddeilliannau cyflawniad, sef disgwyliadau eang o’r dysgu dros gyfnodau o ddwy i dair blynedd.

Amlinellodd erthygl ddefnyddiol ar y blog hwn ym mis Mehefin 2018 yr egwyddorion sy’n sail i gynnydd, ac ym mis Medi, cyhoeddwyd animeiddiad ar gynnydd hefyd er mwyn egluro’r dull gweithredu.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr asesiadau athrawon a ddefnyddir ar hyn o bryd a’r cynigion ar gyfer asesu sy’n ategu’r cwricwlwm newydd?

Byddwn yn newid o’r system bresennol lle y gwneir dyfarniad ar gyrhaeddiad cyffredinol dysgwr mewn pwnc ar oedran penodol drwy ddyrannu lefel ar sail ‘ffit orau’. Ni ddefnyddir y deilliannau cyflawniad newydd ar gyfer pob cam cynnydd i wneud dyfarniadau ‘ffit orau’. Yn lle hynny, fe’u defnyddir ar sail barhaus er mwyn helpu ymarferwyr i benderfynu p’un a yw dysgwr ar y ‘trywydd cywir’ o ran ei gynnydd dysgu.

Y nod yw helpu ymarferwyr i lunio darlun clir o gyflawniadau dysgwr, cynllunio’n briodol, nodi a dod o hyd i gymorth ychwanegol os oes ei angen, a chyflwyno adroddiadau i rieni. Rhoddir blaenoriaeth i asesiadau ffurfiannol* o dan y trefniadau newydd, gyda’r ffocws ar sicrhau bod dysgwyr yn deall sut y maent yn gwneud cynnydd a beth y mae angen iddynt ei wneud nesaf.

Mae’r cynigion yn nodi’n glir bod asesu yn rhan annatod o ddysgu ac addysgu ac na ddylid ei gyfuno ag atebolrwydd allanol a gweithgareddau monitro cenedlaethol.

Pwy sydd wedi datblygu’r cynigion asesu?

Bu Gweithgor Asesu yn greiddiol i’r gwaith o ddatblygu’r cynigion newydd. Daw’r aelodau o ysgolion arloesi, ynghyd â chynrychiolwyr o Gonsortia Rhanbarthol, Estyn a Cymwysterau Cymru.

Gan ddefnyddio cyngor gan arbenigwyr, mae’r grŵp wedi datblygu egwyddorion lefel uchel i ddarparu cyfeiriad eang i’r trefniadau asesu ar lefel genedlaethol. Wrth wneud hynny, mae wedi sicrhau hyblygrwydd i leoliadau ac ysgolion nas cynhelir a ariennir i gynllunio trefniadau asesu mewn ffordd briodol er mwyn ategu eu cwricwla ar lefel leol.

Mae’r cynigion yn ymdrin â chwe egwyddor allweddol fel yr amlinellir yn y ffeithlun isod:

Assessment image - infographic Cymraeg

Beth sy’n digwydd ar ôl cyhoeddi’r cynigion asesu ar 30 Ebrill?

Bydd cyfnod pwysig o ymgysylltu ag ymarferwyr yn dechrau, a gwahoddir adborth tan 19 Gorffennaf. Fel rhan o’r ymarfer, gofynnir i chi gyflwyno eich sylwadau ar y cynigion eu hunain, sut y gellir eu mireinio, a’r cymorth y bydd ei angen arnoch, yn eich barn chi, er mwyn rhoi’r egwyddorion lefel uchel ar waith.

Bydd y cynigion, a gaiff eu datblygu ymhellach yn dilyn yr adborth, yn sail ar gyfer canllawiau statudol y bydd yn rhaid i ysgolion roi sylw iddynt wrth ddatblygu a chyflawni asesu fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Cyhoeddir y canllawiau ym mis Ionawr 2020.

 

*Caiff asesu ffurfiannol ei gynnal, yn bennaf, yn ystod y broses ddysgu, drwy fynd ati gyda’r dysgwyr i wirio eu cynnydd a nodi’r hyn a gyflawnwyd ganddynt, yn ogystal â nodi’r meysydd lle y gallent ddatblygu eu dysgu ymhellach. Yna, caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio gan ddysgwyr ac ymarferwyr er mwyn pennu’r camau nesaf y mae angen i’r dysgwyr eu cymryd i wella eu dysgu ymhellach a llywio gwaith cynllunio’r ymarferydd.

Gadael ymateb

Discover more from Addysg Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading