A ninnau ar gyrraedd carreg filltir gyffrous yn y broses o greu ein cwricwlwm newydd, hoffwn ddiolch i chi am eich rhan chi yn y broses hon.
Mae ymarferwyr ar draws Cymru wedi ymrwymo i’r gwaith arloesol hwn ers ryw dair blynedd. Maent wedi ystyried y meddylfryd rhyngwladol diweddaraf, wedi cael eu herio gan arbenigwyr allanol ac wedi profi’r syniadau diweddaraf gyda chydweithwyr.
Ar 30 Ebrill, byddwn yn cyhoeddi canlyniad yr adborth – cwricwlwm drafft i Gymru 2022. Rwy’n annog pawb i edrych arno, ei ystyried a rhoi adborth arno cyn y dyddiad cau, sef 19 Gorffennaf. Mae’r llun isod yn rhoi amserlen i chi o’r camau nesaf.
(Gweler fersiwn ehangiadwy yma)
Ar drothwy’r cam nesaf yn y broses o ddatblygu’r cwricwlwm, gofynnaf i bob ysgol ymroi’n llwyr i’r adnoddau drafft a dechrau meddwl am sut y gellir defnyddio Cwricwlwm Cymru 2022 yn eu cyd-destun nhw.
Bydd nifer o gyfleoedd ym mis Mai a Mehefin i ymarferwyr ar draws Cymru ymwneud â’r cwricwlwm drafft. Mae’r consortia rhanbarthol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau hygyrch. Rwy’n annog unrhyw un sydd ddim yn ymwybodol o’r datblygiadau, neu wedi ymwneud â nhw eto, i fanteisio ar un o’r cyfleoedd hyn, gan obeithio y bydd y digwyddiadau yn eich cyffroi ac yn eich hysgogi.
Wrth i ni nodi’r garreg filltir bwysig hon, byddwn yn mynd ati nawr i wrando ar adborth a mireinio’r cwricwlwm.
I’n helpu, yn hyn o beth, rydym wedi sefydlu rhwydwaith o grwpiau gwella ansawdd. Bydd y grwpiau hyn yn llai na’r gweithgorau arloesi presennol ond byddant yr un mor effeithiol o ran cyfraniad a phrofiad yr ymarferwyr. Mae ail grŵp o ysgolion braenaru hefyd wedi’i benodi, a fydd yn ystyried y Cwricwlwm drafft i Gymru fel cyfanwaith, ac yn ein cynorthwyo yn ystod y cyfnod o gasglu adborth a gwerthuso’r fframwaith llawn y cwricwlwm.
Bydd y ddau grŵp yn ein helpu i fireinio’r cwricwlwm, a bydd y fersiwn honno yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2020.
I gloi felly, diolch i chi am eich gwaith caled a gwerthfawr dros y tymor hwn. Rydych yn gwneud gwaith gwirioneddol wych. Mwynhewch eich gwyliau Pasg.
Kirsty
Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams
Ysgolion arloesi – y restr:
Mae un ar bymtheg o ysgolion arloesi – 4 o bob ardal consortiwm rhanbarthol – wedi’u penodi i ystyried y cwricwlwm i Gymru 2022 ddrafft a chefnogi Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod adborth i werthuso’r fframwaith.
Rhanbarth | Enw’r ysgol | Sector |
ERW | Ysgol yr Olchfa | Uwchradd |
Ysgol Gymraeg Ystalyfera | Uwchradd | |
Ysgol gynradd parcdir | Cynradd | |
Ysgol Penboyr | Cynradd | |
GWE | Ysgol Bryn Gwalia | Cynradd |
Ysgol Y Gogarth | Arbennig | |
Ysgol David Hughes | Uwchradd | |
Ysgol Uwchradd Bodedern | Uwchradd | |
EAS | Ysgol Gymraeg Casnewydd | Cynradd |
Ysgol Gynradd Garnteg | Cynradd | |
Ysgol Bassaleg | Uwchradd | |
Ysgol Crownbridge | Arbennig | |
CSC | Ysgol gynradd Gatholig St Joseph’s | Cynradd |
Esgob Hedley Eglwys Gatholig Uchel Ysgol | Uwchradd | |
Ysgol arbennig Tŷ Gwyn | Arbennig | |
Ysgol Uwchradd Fitzalan | Uwchradd |