Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Ysgolion Fel Sefydliadau sy’n Dysgu – Cydweithio i gynhyrchu animeiddiad

Read this page in English

SLO pupil explainer large CYMFel grŵp o ysgolion, oedd wedi ymrwymo yn llwyr i ddatblygu fel sefydliadau sy’n dysgu roeddem yn teimlo’i bod hi’n bwysig datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ysgolion eraill o’r saith dimensiwn. Er ein bod ni fel ysgolion yn deall beth yw bod yn ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu, oedd pawb arall yn deall? Yn bwysicach fyth, oedd ein disgyblion ni, y bobl bwysicaf un o fewn ein sefydliadau… oedden nhw yn deall beth oedd bod yn rhan o ysgol fel sefydliad sy’n dysgu yn ei olygu?

Cydweithiodd grŵp o ysgolion, gyda chefnogaeth ein Consortiwm i gynhyrchu animeiddiad syml. Y gobaith oedd y byddai’n ffordd o gyflwyno ac esbonio beth mae bod yn Ysgol fel sefydliad sy’n dysgu yn ei olygu i’n disgyblion. Braf oedd cael trawstoriad o ysgolion na fyddai byth yn gweithio gyda’i gilydd fel arfer yn cael cyfle i weithio ar y prosiect cyffrous yma – o ysgolion cynradd bach, un o ysgolion cynradd mwyaf Gwynedd ac ysgol uwchradd.

Ein cam cyntaf oedd symleiddio’r olwyn saith dimensiwn gan adnabod geirfa a fyddai’n fwy addas i’r gynulleidfa gan fynd ymlaen i gynhyrchu sgript syml.

Roedd un peth yn bwysig iawn i ni fel grŵp o ysgolion oedd yn gweithio ar y prosiect yma – Llais y disgybl. Roedd rhaid cael y plant yn ganolog i’r broses datblygu a chynhyrchu. Bu cyfarfodydd gyda chynghorau a phwyllgorau plant ein hysgolion gan ganfod eu syniadau cychwynnol ar beth yw Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, a hefyd canfod eu camsyniadau! Proses hynod o werthfawr.

Bu’r tîm animeiddio wrthi’n brysur gan gynhyrchu fersiwn drafft mewn dim. Dyma ble roedd llais y disgyblion yn y prosiect ar ei orau! Mae plant yn gallu bod yn fwy na pharod i leisio barn, yn enwedig ar rywbeth cyfoes fel animeiddiad. Roedd ymateb y plant yn wych gan gwestiynu a phrocio’r hyn yr oedd wedi ei gynhyrchu, o’r lliwiau ar y sgrin, i’r gerddoriaeth a’r cymeriadau oedd yn cael eu defnyddio. Ond yn fwy na hynny, beth oedd yn hynod o braf ei glywed wrth i’r plant drafod, oedd eu bod wedi deall beth mae ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu yn ei olygu. Yn wir, dyna oedd nod y prosiect.

Roedd angen trosleisio’r animeiddiad, a phwy well i wneud hynny ond y disgyblion eu hunain. Cyfle i glywed eu lleisiau nhw yn cyfleu’r saith dimensiwn. Mae’r animeiddiad bellach yn cael ei ddefnyddio yn genedlaethol er mwyn hyrwyddo YSD i blant a phobl ifanc.

Yn ddiamheuaeth, mae bod yn rhan o’r prosiect animeiddio, ynghyd â chynllunio’r ffordd ymlaen yn dilyn derbyn y ciplun, wedi bod yn gymorth i ysgolion baratoi ar gyfer yr hinsawdd drawsnewidiol sy’n bodoli ym myd addysg ar hyn o bryd. Mae’n golygu fod rhaid cydweithio a rhannu arbenigeddau gan fynd o dan groen dysgu ar bob lefel o fewn cymuned ysgol.

Yn sicr, mae ymateb yn effeithiol i’r saith dimensiwn yn gosod sylfaeni cadarn ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru. Mae wedi cynnig cyfleoedd cyfoethog i ni fel ysgolion o ran rhwydweithio a chydweithio gydag ysgolion ar draws y Gogledd. Mae wedi gweddnewid diwylliant yr ysgol gyda phawb yn rhannu’r un weledigaeth a chreu hinsawdd o ymchwilio ac arloesi sydd wedi rhoi hyder i staff fentro ac arbrofi.

Gadael ymateb