Mae gwefan newydd wedi’i chreu ar gyfer y rhieni a’r cyhoedd i esbonio’r newidiadau sydd ar droed ym maes Addysg yng Nghymru. Cafodd y wefan ei lansio i gyd-fynd â’r Papur Gwyn ar y Cwricwlwm, a’r ymgynghoriad cysylltiedig, ac mae’n cynnwys fideo gyda golygfeydd ysbrydoledig – animeiddiad y cwricwlwm – a dolen at yr ymgynghoriad.
Wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch iawn, dros amser bydd yn tyfu i gynnwys gwybodaeth am newidiadau arwyddocaol eraill.