Mae’r datganiadau drafft diweddaraf o’r hyn sy’n bwysig bellach ar gael fel rhan o gyflwyniadau cryno.
Bydd y datganiadau’n allweddol i ddatblygu’r cwricwlwm ar lefel yr ysgol. Penawdau a seiliau rhesymegol ydynt – a fydd, gyda’i gilydd, yn sail i’r wybodaeth, sgiliau a’r profiadau sydd i gael eu darparu i ddisgyblion. Mae’r datganiadau’n gysylltiedig â’r Pedwar Diben, sy’n hollbwysig, ac mae cynnydd a dilyniant yn seiliedig arnynt.
Hefyd, rydym wedi cynhyrchu fideos cryno gydag aelodau o’r grwpiau’r meysydd dysgu a phrofiad yn trafod y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a syniadau am sut gellir eu gwireddu.
Mae’r cyflwyniadau a’r fideos, ynghyd â chyflwyniad mwy cyffredinol, sef ‘Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm Newydd’, oll ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru. Maent wedi’u cyhoeddi i gefnogi cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ar gyfer penaethiaid, sy’n cael eu cynnal i gyflwyno ac esbonio’r newidiadau sydd i ddod.