Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Ysgol Pentrehafod ydym ni. Mae gennym ddiwylliant llawn gofal, rydym yn gwella ein canlyniadau yn gyson ac yn defnyddio’r Safonau Addysgu Proffesiynol newydd (2018) fel sail i weledigaeth ein hysgol, sef sicrhau’r ddarpariaeth orau bosibl i bob un o’n dysgwyr.
Dechreuodd ein taith gyda’r Safonau newydd o ddifrif yn ystod Tymor yr Haf 2017, drwy sefydlu gweithgor i ystyried safbwyntiau a chyfraniadau gan ymarferwyr a oedd ar wahanol gamau o’u gyrfa, o athrawon newydd gymhwyso (ANG) i Arweinwyr Canol ac Uwch Arweinwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o bob rhan o’n clwstwr, ynghyd ag Ysgol Uwchradd leol arall, gwnaethom fabwysiadu dull gweithredu cydweithredol a cholegol i fireinio ac atgyfnerthu ein systemau presennol er mwyn sicrhau bod ein hathrawon yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i weithio gyda’r safonau er mwyn parhau i wella deilliannau dysgu i bob un o’n myfyrwyr.
Rydym wedi ceisio sicrhau y caiff y pum Safon Addysgu Broffesiynol eu hymgorffori’n llawn ym mhob rhan o’r cwricwlwm, ac y cânt eu hystyried yn rhan annatod o ddiwylliant dysgu ein hysgol. Er enghraifft, mae cyfarfodydd proffesiynol a HMS ar y cyd i’r clwstwr wedi rhoi blaenoriaeth i wella sgiliau staff mewn perthynas â’r 12 Egwyddor Addysgegol, gan annog iaith sy’n canolbwyntio ar y pedwar Diben Craidd ac ar rannu arferion effeithiol sy’n defnyddio dulliau gweithredu arloesol mewn perthynas â dysgu cyfunol.
Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod ein gwaith gyda phartneriaid allanol yn cael cymaint o effaith â phosibl drwy roi “Cyd-destun Gwirioneddol a Dilys” i’r hyn y mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu, gan ddefnyddio’r Gyfnewidfa Addysg a Busnes Gyrfaoedd a ddarperir gan Gyrfa Cymru.
Ym Mhentrehafod, mae gennym ddiwylliant o gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill i ddatblygu a mireinio arferion proffesiynol, ac mae’r Safonau Addysgu Proffesiynol wedi atgyfnerthu ein barn gadarn fod y dull gweithredu hwn yn helpu i wella safonau. O ganlyniad, rydym wedi cyflwyno rhaglen “Teach-Meet” traws-gyfnod, lle y daw staff addysgu o bob rhan o’r clwstwr ynghyd i rannu arfer gorau a syniadau arloesol. Cafodd y rhaglen groeso cynnes gan y clwstwr.
Rwyf wrth fy modd bod arferion arloesol o’r fath bellach yn gyffredin yng nghymuned ein hysgol a bod ein staff addysgu yn deall bod “mentro” yn rhan bwysig o ddatblygiad proffesiynol ac y dylid croesawu cyfleoedd i wneud hynny. Mae ein gwaith fel ysgol greadigol arweiniol yn esiampl o hyn, lle y caiff diwylliant o greadigrwydd ac ymchwil ei annog a’i rannu drwy ddigwyddiadau traws-glwstwr sy’n dathlu doniau a chyflawniadau myfyrwyr ac athrawon.
Drwy egluro’r Safonau, mae’r ysgol hefyd wedi gallu meithrin dealltwriaeth ddyfnach o botensial ei staff fel arweinwyr, gan arwain at ffocws cryfach ar feithrin sgiliau staff er mwyn monitro ac olrhain deilliannau addysgu a dysgu yn fanylach, yn ogystal â chynnydd y myfyrwyr, eu llesiant a’u hagweddau at ddysgu. Mae hyn wedi arwain at iaith ddysgu gyffredin drwy gymuned gyfan yr ysgol, gan gynnwys y myfyrwyr, y rhieni a’r Llywodraethwyr.
Mae gweithredu’r Safonau Addysgu newydd wedi helpu ein hysgol i ailddiffinio ei hun fel sefydliad proffesiynol sy’n dysgu, gyda ffocws ar drafod agweddau ar ddysgu ac agweddau proffesiynol. Mae ein cred gadarn y gall addysgu a dysgu o ansawdd uchel wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc yn greiddiol i bopeth a wnawn. Er mwyn arddangos gwerthoedd craidd ein hysgol fel cymuned gynhwysol, rydym wedi datblygu gweledigaeth ar gyfer dysgu a llesiant sy’n ymgorffori’r safonau addysgu proffesiynol ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu dysgwyr o CA2 hyd at CA4 a thu hwnt.
Mae gwahodd gweithgor sy’n cynnwys aelodau o wahanol gyfnodau addysg a gwahanol ysgolion i ymchwilio i’r broses o weithredu’r safonau hefyd wedi helpu ein staff i gymryd perchenogaeth dros y safonau a’u derbyn fel fframwaith cefnogol i’w hannog i feddwl am eu harferion beunyddiol a myfyrio arnynt a’r effaith a gaiff yr arferion hyn ar y bobl ifanc a addysgir ganddynt a’r gymuned a wasanaethir ganddynt.
Gan Jennifer Ford, Pennaeth