Bydd gan ysgolion lawer mwy o ryddid i ddatblygu cwricwlwm ar lefel yr ysgol o dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd. Bydd pob ymarferwr yn cael ei annog i ailedrych ar ei sgiliau a’u diweddaru i helpu i gyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus i’r disgyblion.
Mae’r animeiddiad hwn yn disgrifio’r Dull Cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol sydd wedi’i lunio i gefnogi datblygiad ymarferwyr.
Yn ogystal, mae’r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i gefnogi’r gweithgarwch hwn, sef £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn cynyddu i £15 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf i gefnogi athrawon yng Nghymru ers datganoli.
Mae datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegu:
‘Bydd yr arian yn rhoi’r amser ac adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cwricwlwm newydd a sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu llesiant athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar ddysgu’r disgyblion. Bydd yr arian yn helpu i sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd.
O dan drefn y Dull Cenedlaethol, bydd Dysgu Proffesiynol yn hawl i bob ymarferwr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig.
Bydd ysgolion yn cael eu hannog i greu, rhannu a manteisio ar gyfleoedd i ddysgu gydag ysgolion a sefydliadau eraill wrth iddynt weithio gyda’i gilydd mewn clystyrau.
Un o nodweddion mwyaf trawiadol y Dull Cenedlaethol fydd dull cwbl newydd o ymdrin â’r ffordd y mae athrawon yn dysgu. Bydd cymysgedd lawer mwy hygyrch o ddysgu ar gael drwy ranbarthau a phrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn cwmpasu dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, dysgu ar-lein, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddi.’