Ni fu erioed yn adeg fwy cyffrous i addysgu! Rwy’n dweud hyn yn ddiffuant. Mae athrawon yn gweithio mewn cyfnod o newid mawr a phosibiliadau enfawr. Mae’r agenda genedlaethol o greu cwricwlwm wedi ei arwain gan ymarferydd yn newid sylweddol; ac er nad hon yw’r ffordd hawsaf efallai o greu cwricwlwm newydd, yn sicr mae’n un sy’n cydnabod mai athrawon yng Nghymru yw’r rhai sy’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i greu cwricwlwm sy’n rhoi’r deilliannau gorau posibl i’n dysgwyr. Fel aelod o ysgol arloesi, bu’n fraint bod yn rhan o’r broses.
Mae addysg, ers i mi fod yn rhan ohoni, wedi bod yn destun cyfres o newidiadau cyflym ond ni fu un erioed mor bwysig â datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Felly gallaf ddeall os yw cydweithwyr yn teimlo’n ofidus am y newid, ac yn meddwl a fydd rhywfaint o’r gwaith da y gwyddom rydym wedi bod yn ei wneud hyd yma mewn perygl o gael ei daflu allan gyda dŵr y bath! Wel ni fydd hynny’n digwydd: arfer da yw arfer da, a dylai cydweithwyr gael eu parchu am hynny.
Dyna pam roeddwn am ysgrifennu’r blog hwn. Er mwyn siarad am y datblygiadau newydd a cheisio lleddfu pryderon cydweithwyr am y newid hwn.
A dweud y gwir… rwy’n llawn cyffro!
Oherwydd, y gwir yw, mae’r holl newidiadau yn rhai cyffrous! I mi, y newid mwyaf arwyddocaol yw’r uniondeb a ddefnyddir i gyflwyno’r cwricwlwm. Er, pan wyf yn arbennig o frwdfrydig mewn HMS ar ddiwedd dydd Mercher gwlyb a gwyntog lle nad yw’r plant wedi gallu mynd allan i chwarae, caf fy atgoffa nad yw pawb yn rhannu fy mrwdfrydedd.
Mae’r realydd ynof yn gwybod nad ydym yn wynebu tasg hawdd, a bod gan bob un ohonom heriau o’n blaenau i wireddu’r cwricwlwm newydd. Byddai’n wirion anwybyddu’r ffaith, yn ogystal â’r newidiadau sydd ar droed o ganlyniad i ddiwygio, fod gan bob athro ac arweinydd garfan o ddysgwyr o’u blaenau, sydd yr un mor bwysig â’r rhai a fydd yn eu holynu pan gaiff y cwricwlwm i Gymru ei gyflwyno. Felly, mae’n bwysig ein bod yn gwneud yr un ymdrech ac yn rhoi’r un sylw iddyn nhw ag y gwnawn gyda charfanau yn y dyfodol.
I mi, mae’r cwricwlwm newydd yr un peth â diwallu anghenion y dysgwyr sydd o’n blaenau heddiw.
I ddechrau ar y dechrau, ystyriwch y 4 diben craidd. Rwy’n herio unrhyw ymarferydd yng Nghymru i anghytuno â hwy fel dyheadau ar gyfer ein dysgwyr presennol, ac nid dysgwyr y dyfodol yn unig. Mae rhoi ystyriaeth ofalus i’r rhain yn eich cyd-destun chi, sut y gellir eu defnyddio y tu hwnt i lefel slogan, sut y gallant lywio profiadau dysgu, sut y gallant lywio penderfyniadau polisi, mae hynny’n gysyniad hyderus y dylem fod yn ei ddathlu. Gallwn wneud newidiadau cadarnhaol nawr.
O ran addysgeg, a’r egwyddorion addysgegol, siawns nad yw hwn yn faes y mae pob athro yn gyfarwydd ag ef. Nid yw eu galw yn egwyddorion addysgegol (sef yr hyn ydynt wrth gwrs) yn newid eu cynnwys, a dyma gynnwys llawer, os nad pob un o’r egwyddorion addysgegol, y mae athrawon yn gyfarwydd â nhw. Bydd addysgu a dysgu o ansawdd da yn parhau i fod yn addysgu a dysgu o ansawdd da yn y cwricwlwm newydd.
Fel proffesiwn, rhaid i’r newid fod yn ein hagwedd tuag at addysgeg a diffinio’n glir yr hyn a olygwn wrth addysgu da. Nid rhestr o bethau i’w gwneud yw addysgeg. Mae mwy nag un fformiwla ar gyfer addysgu da. Rhaid i ni beidio â drysu strategaethau addysgu ag egwyddorion addysgegol. Gallai strategaeth olygu defnyddio lliw pen penodol i gyrraedd lefel uwch. Mae asesu ar gyfer dysgu yn egwyddor sy’n galluogi disgyblion i weithio gydag athrawon i fyfyrio ar eu gwaith a defnyddio eu gwybodaeth i wneud gwelliannau. Gall pen o liw gwahanol fod yn arwydd defnyddiol i ddysgwyr, ond ansawdd y rhyngweithio rhwng yr athro a’r disgybl fydd yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth hollbwysig. Dylem ystyried pa strategaethau sy’n symud dysgu ymlaen orau o fewn egwyddor, ond ni ddylem ddrysu rhwng y ddau beth. Dylai datblygu addysgeg, a myfyrio ar effaith ein hymarfer, fod yn rhywbeth y dylem ganolbwyntio arno drwy gydol ein gyrfa.
Gan ddychwelyd i’r cwricwlwm newydd, mae angen i ni ystyried yn ofalus yr hyn rydym yn meddwl amdano wrth gyfeirio at ‘gwricwlwm’. Ni fydd yn gyfres o gynnwys i’w gyflwyno; rhoddwyd cynnig ar hynny eisoes ac mae’n creu athrawon rhwystredig nad ydynt yn teimlo eu bod wedi rhoi’r profiadau dysgu gorau posibl i’w dysgwyr. Yn y dyfodol, bydd ein cwricwlwm ysgol, y byddwn yn ei ysgrifennu yn seiliedig ar gynnwys y Meysydd Dysgu a Phrofiad, yn diwallu anghenion ein dysgwyr a’n hysgol yn ein cyd-destun penodol. Sy’n golygu y bydd fy nghwricwlwm i, yn Ysgol Gynradd Whitchurch, yn edrych yn wahanol i’ch un chi. Bydd yn cyd-fynd â’r un wybodaeth, sgiliau a phrofiadau craidd, ond caiff ei deilwra i’r dysgwyr yn ein lleoliadau ni. Bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddysgwyr.
A gallaf dderbyn na fydd dim o hyn yn ‘hawdd’ ond heb os, mae’n gywir, ac yn fwy na hynny … mae’n gyffrous!
Louise Muteham,
Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gynradd Whitchurch.