Pan ofynnwyd i mi gyntaf ym mis Ionawr 2016 i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, roeddwn yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i chwarae rhan mewn tasg mor ddylanwadol, ond nid oedd gennyf unrhyw syniad o faint y dasg.
Fel ysgol arloesi dysgu proffesiynol, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r newidiadau niferus a oedd yn digwydd ym maes addysg yng Nghymru. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ‘Cymwys am Oes’ (2014), sef rhaglen gwella addysg chwe blynedd i Gymru. Cyhoeddwyd ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn fuan ar ôl hyn a oedd yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd i Gymru ac ‘Addysgu Athrawon Yfory’ a oedd yn ystyried sut y byddai addysg gychwynnol athrawon yn sicrhau bod gweithlu Cymru yn addas at y diben (y cyntaf ym mis Chwefror a’r ail ym mis Mawrth 2015).
Roedd rhywbeth ar goll, darn o waith ynghylch sicrhau bod athrawon Cymru yn cael digon o gymorth i fod yn ymarferwyr rhagorol gyda dealltwriaeth gref o addysgeg a’r hyn sy’n gweithio’n dda i ddysgwyr ledled Cymru. Nid oedd y ‘Safonau Addysgu’ presennol yn addas at y diben mwyach yng nghyd-destun tirwedd addysg Cymru sy’n newid o hyd. Roedd angen safonau proffesiynol newydd er mwyn helpu ymarferwyr i ddatblygu’n broffesiynol ac i ymdrechu i sicrhau ymarfer rhagorol, o hyfforddiant cychwynnol hyd at arweinyddiaeth ysgolion, yn enwedig nawr bod y cwricwlwm newydd ar ei ffordd. Roedd y safonau’n hollbwysig i’r gwaith o gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru a byddai hefyd angen iddynt adlewyrchu’r diwygiadau ym maes addysg gychwynnol athrawon, y fframwaith cymwysterau datblygol a lansio’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Roedd fy nghyfarfod cyntaf oll yn rhan o grŵp bach lle gwnaethom gyfarfod â’r Athro Mick Waters sef yr ymgynghorydd ar gyfer y gwaith o ddatblygu’r safonau newydd. Dywedodd Mick wrthym ei fod yn athro yn gyntaf oll, ac roedd yn falch o hynny. Fi oedd yr unig gynrychiolydd ar gyfer ysgolion cynradd ar y pryd ac roedd cynrychiolydd Pennaeth uwchradd yno hefyd. Y dasg oedd llunio safonau proffesiynol i athrawon a fyddai, yn y lle cyntaf, yn canolbwyntio ar elfennau hanfodol gwaith pob athro ac yn disgrifio’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n nodweddiadol o ymarfer rhagorol ac sy’n cefnogi twf proffesiynol. Ac felly y dechreuodd deunaw mis o waith dwys ac iteraidd ledled y Dywysogaeth. Cafodd pob agwedd ar y safonau addysgu, y dimensiynau a’r disgrifyddion eu pennu drwy broses o weithdai helaeth ag ymarferwyr presennol.
Cytunwyd ar y dimensiynau allweddol yn gymharol gyflym gan ei bod hi’n glir bod addysgeg yn hollbwysig fel man cychwyn. Roedd yr angen i gydweithio yn hanfodol er mwyn caniatáu i addysgeg ledu ac roedd hyn yn amlwg o waith cynnar yr ysgolion arloesi. Roedd dysgu proffesiynol yn hanfodol i sicrhau yr eir i’r afael yn ddyfnach ag addysgeg drwy ymchwil ac ymholiadau. Ystyrir bod dau gyfrifoldeb ar athrawon o ran datblygu eu dysgu eu hunain a chyfrannu tuag at ddysgu eu cydweithwyr. Cydnabuwyd bod arloesedd yn allweddol i’r gwaith o ddatblygu addysgeg ac yn olaf, bod arweinyddiaeth yn hanfodol i’w helpu i ffynnu.
Cydnabuwyd yn gynnar hefyd, yn ogystal â’r pum dimensiwn, bod angen chwe gwerth a disgrifyddion cyffredinol a fyddai’n berthnasol i bob oedolyn sy’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth gyda dysgwyr yng Nghymru.
Roedd y gwaith o ddatblygu’r disgrifyddion yn fwy cymhleth o lawer. Y ddadl gyntaf oedd pa ‘gerrig milltir’ oedd eu hangen. Roedd llawer o gydweithwyr yn ymwybodol o’r SAC (Statws Athro Cymwys) ar y pryd, diwedd y cyfnod sefydlu/ ANG (Athro Newydd Gymhwyso) a’r cerrig milltir throthwy a oedd ar waith. Gwnaed y penderfyniad nad oedd angen datblygu hyn. Byddai SAC yn gweithredu fel disgrifyddion lefel mynediad, a byddai disgrifydd diwedd y cyfnod sefydlu (ANG) ac yna ddisgrifydd ‘ymarfer effeithiol iawn a gynhelir’, a fyddai’n uchelgeisiol ac yn ddyheadol. Y llinell sylfaen ar gyfer perfformiad fyddai’r disgrifyddion ANG ac roedd yn rhesymol disgwyl na ddylai athrawon ddisgyn yn is na’r hyn a ddisgwylid gan ANG.
Dyma ble gwnaeth dwysedd y gwaith gynyddu wrth i’r disgrifyddion drafft gael eu llunio gan athrawon i ddisgrifio eu hymarfer proffesiynol a’u dysgu a’u haddysgu ar lefel y disgrifydd is ac uwch. Cafodd y disgrifyddion eu hysgrifennu er mwyn cysylltu’r dimensiynau, ac yna cynhaliwyd gweithdai trylwyr, dwys a helaeth ag ymarferwyr gan gynnig cyfle i’w hysgrifennu, eu hailysgrifennu, i gytuno arnynt fel disgrifyddion drafft, rhoi adborth arnynt, eu mireinio a rhoi adborth arnynt eto. Llwyddodd y broses i sicrhau bod gan yr Athro Waters gonsensws o bob cyfnod addysg ledled Cymru cyn ymgynghori.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Safonau yn 2017, cyn eu cyhoeddi ym mis Medi 2017. Yn ychwanegol i’r ymgynghoriad cafwyd ‘sioeau teithiol’. Gwahoddwyd uwch arweinwyr ac athrawon i leoliadau ledled Cymru i wrando ar gyflwyniad manwl gan yr Athro Waters am y rhesymeg dros y safonau newydd, eu datblygiad drwy eu cyd-greu ag athrawon ac arweinwyr ledled Cymru, a’r gwaith o fireinio ar bob cam hyd nes eu bod wedi cyrraedd y safonau drafft a oedd yn destun yr ymgynghoriad. Ym mhob ‘sioe deithiol’, soniodd gweithwyr proffesiynol a fu’n rhan o’r broses ysgrifennu, gan gynnwys fi, hefyd am ein profiadau hyd yn hyn. Roedd neges gyffredin, sef bod y safonau wedi’u hysgrifennu gan athrawon ar gyfer athrawon! Yna, cafodd y safonau drafft eu haddasu yn dilyn dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn eu cyhoeddi.
Mae’n ddyddiau cynnar i’r safonau addysgu newydd o hyd ond maent wedi rhoi neges glir iawn am yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan bob athro ledled Cymru, ni waeth beth yw’r sector neu’r arbenigedd. Mae rhai pethau y mae’n glir na ellir eu negodi er mwyn sicrhau ein bod yn esblygu’n gyson er mwyn diwallu anghenion y plant a’r oedolion ifanc yn ein gofal. Mae’r Safonau Arweinyddiaeth a’r drafft Safonau Athrawon Cynorthwyol eisoes wedi’u hysgrifennu, gan adlewyrchu’r un pum dimensiwn a gwerthoedd a rhagdueddiadau cyffredinol gan sicrhau tegwch a datblygiad i’r gweithlu.
Mae ein dyheadau i’n hathrawon yn adlewyrchu ein dyheadau i’n dysgwyr ac mae hyn yn amlwg yn nibenion y cwricwlwm newydd. Mae’n adeg gyffrous i addysg yng Nghymru; bydd y safonau proffesiynol newydd yn helpu pob un ohonom i fwynhau heriau’r llwybr o’n blaenau.
Beverley Cole
Pennaeth, Ysgol Gynradd Langstone, Casnewydd