Neidio i'r prif gynnwy

Lleihau’r Bwlch Cyrhaeddiad: Dysgu gan eraill ond gweithredu yn eich ffordd eich hun – Neges oddi wrth Syr Alasdair McDonald

Read this page in English

Multiethnic children in a circleWrth i Arloeswyr gynllunio a datblygu’r cwricwlwm newydd gan nodi’r cymorth proffesiynol y mae’r gweithle ei angen, mae penaethiaid cynradd ac uwchradd wedi bod yn cydweithio â’r Llywodraeth, arbenigwyr a phartneriaid er mwyn creu model newydd ar y cyd ar gyfer atebolrwydd ysgolion.

Yn y model newydd, bydd pob dysgwr yn cyfrif, sy’n rhoi cyfleoedd sylweddol o ran canolbwyntio ar gynnydd ein dysgwyr sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng grwpiau o ddysgwyr yn bwysig ar hyn o bryd, felly mae camau gweithredu eisoes ar waith i wella cyfleoedd mewn bywyd ar gyfer disgyblion mewn llawer o’n hysgolion heddiw; bydd y gwaith hwnnw yn cael ei gefnogi gan ein rhaglen o ddiwygio addysg yng Nghymru.

Bydd yr ysgolion hynny sy’n dysgu gwersi a mabwysiadu arferion da ar sail yr hyn sy’n gweithio, ac yn eu rhoi ar waith o fewn cyd-destun eu hysgolion eu hunain yn gweld eu bod yn barod erbyn 2022, pan fydd y cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd yn dechrau cael eu gweithredu.

Mae hyn yn fater pwysig o frys. Roedd effaith andwyol ar ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim oherwydd newidiadau i arholiadau TGAU yn ystod yr haf y llynedd a’r symudiad i ffwrdd oddi wrth gymwysterau galwedigaethol, er gwaethaf ymdrechion y disgyblion hynny a’u hathrawon. Oherwydd hyn, rwyf yn fwy penderfynol nag erioed fod rhaid i ysgolion ddod o hyd i strategaethau a fydd yn ‘lleihau’r bwlch’, a dyma bwrpas y Grant Datblygu Disgyblion (PDG).

Ble rydym ni arni ar hyn o bryd?

Yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, gymeradwyo penodi Ymgynghorydd Strategol y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer pob un o’r consortia rhanbarthol.   Bydd yr Ymgynghorwyr yn ein helpu i sicrhau bod y Grant yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol a bod gwersi’n cael eu dysgu fel ein bod yn parhau i wella a datblygu.

Mae pob ysgol yn monitro cyrhaeddiad a phresenoldeb ei disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim; mae ystod o ddulliau ymyrryd yn cael eu defnyddio i gefnogi’r disgyblion hyn – sef barn broffesiynol wedi’i hategu gan ymchwil a thystiolaeth, gan gynnwys syniadau o Becyn Cymorth Addysgu a Dysgu y Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF); mae ymwybyddiaeth yn cynyddu hefyd fod defnyddio dulliau addysgu a dysgu sy’n dda yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae ein dulliau gweithredu o ran llythrennedd a rhifedd hefyd yn cefnogi’r flaenoriaeth hon, ac mae’r arferion gorau yn cael eu rhannu ar draws clystyrau a grwpiau eraill o ysgolion.

Symud ymlaen â’r gwaith hwn

Rwyf am annog pob ysgol i ddefnyddio strategaethau rydym eisoes yn gwybod eu bod yn llwyddiannus, er mwyn peidio â gwneud pethau nad ydynt yn ychwanegu gwerth, yn ogystal ag ymchwilio i syniadau newydd a’u rhannu. Dywedodd rhywun wrthyf mewn ysgol yn ddiweddar: “rydym yn rhoi cynnig ar strategaeth newydd, nid yw’n gweithio ond dim ond 3 wythnos sydd gennym i fynd” – ni all hynny fod yn iawn.

Mae tystiolaeth a dealltwriaeth gadarn ar gael sy’n arf hanfodol i’ch cefnogi. Mae lleihau’r bwlch cyrhaeddiad yn fater rhyngwladol ac erbyn hyn, mae mwy o dystiolaeth ar gael o wledydd eraill o gwmpas y byd am strategaethau sy’n gwneud gwahaniaeth. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr EEF adroddiad byr ar 15 o wersi y mae wedi’u dysgu yn ystod ei chwe blynedd gyntaf. Byddwch yn gyfarwydd â llawer ohonynt. Maent yn cadarnhau llawer o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru, ond dylem ystyried rhai ohonynt yn benodol, yng nghyd-destun ein hysgolion ni:

  • mae nifer cynyddol o bobl yn derbyn mai’r ffactor pwysicaf yw’r hyn sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth;
  • mae yna risg o hyd wrth bontio rhwng cyfnodau; a
  • gall Cynorthwywyr Addysgu sydd wedi’u hyfforddi ac wedi’u defnyddio’n dda wneud gwahaniaeth enfawr.

Nid oes ateb hawdd. Rwyf bob amser yn amheus iawn o restri o strategaethau a all gael eu defnyddio, yn enwedig o ran mater sydd mor gymhleth â lleihau’r bwlch cyrhaeddiad. Ond mae’n ymddangos bod yr ysgolion sy’n llwyddo yn gwneud hynny drwy gyfuno gwersi ac arferion gorau sy’n dod o’r dystiolaeth a’r ymchwil allanol â’u gwybodaeth nhw o’r ysgol a’r gymuned.

Rwyf yn argymell dogfen ddiweddar arall sydd hefyd yn ystyried ‘yr hyn sy’n gweithio’ a all fod o ddiddordeb ichi hefyd; fe welwch fod nifer o bethau ynddi sy’n debyg i brofiad yr EEF.

Gallai’r naill ddogfen neu’r llall, neu hyd yn oed y ddwy, fod yn fan cychwyn diddorol ar gyfer cyfarfod arweinyddiaeth neu gyfarfod staff llawn er mwyn nodi pa strategaethau allai fod yn flaenoriaethau ar gyfer eich ysgol yn y flwyddyn i ddod – gan sicrhau, fel yr awgrymir yn y ddwy ddogfen, fod gwerthuso’n rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

Gall eich Ymgynghorydd Strategol ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion roi cymorth ichi yn hyn o beth. Eich Ymgynghorwyr yw:

  • Sharon Williams, GwE;
  • Kathryn Bevan, Gwasanaeth Cyflawni Addysg;
  • Dylan Williams, ERW; a
  • Siriol Burford, CSC.

Syr Alasdair McDonald yw Eiriolwr Codi Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru

Gadael ymateb