Neidio i'r prif gynnwy

Edrych ar ddysgu ieithoedd, ymreolaeth athrawon a chydbwysedd rhwng chwarae a gweithio yn y Ffindir!

Read this page in English

Finland 1Plant yn dringo twmpathau eira, yn sglefrio ac yn chwarae hoci iâ – amser chwarae mewn ysgol gynradd arferol yn y Ffindir. Mae’r plant wedi bod mewn gwers ers wyth y bore ‘ma ac erbyn chwarter i naw maen nhw’n barod am bymtheg munud o hwyl gyda ffrindiau … y tu allan yn yr eira!

Mae pymtheg munud o chwarae ar ôl pob gwers 45 munud yn eithaf cyffredin yn y Ffindir. Yn ddiweddar mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyflwyno Finland on the move, rhaglen genedlaethol i gynyddu gweithgarwch corfforol a lleihau amser segur ymhlith plant ysgol. Mae’r holl blant yn bwyta cinio ysgol iach am ddim yn yr ysgol hefyd.

Mae’r rhan fwyaf ohonom sy’n gweithio ym maes addysg wedi clywed rhywbeth am addysg yn y Ffindir; bod plant ddim plant yn dechrau’r ysgol nes fyddant yn saith oed ac (oherwydd neu er gwaethaf hyn) eu bod nhw’n gwneud yn dda iawn yn y Rhaglen ar gyfer asesu rhyngwladol (PISA). Ond ni cheir da o hir gysgu. Cyflwynwyd cwricwla lleol newydd yno, yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol craidd, o Awst 2016. Cyhoeddodd  Gweinyddiaeth Addysg a Diwylliant y Ffindir hefyd Multilingualism as a Strength ym mis Rhagfyr 2017, sy’n cynnig amrywiaeth o fesurau i ddatblygu sgiliau iaith pobl y Ffindir. Mae hon yn thema gyfarwydd gyda chynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru ar gyfer ieithoedd tramor modern ac uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nid yw’n anarferol yn y Ffindir i bobl wybod pedair iaith (neu hyd yn oed yn fwy). Mae rhai plant yn dysgu ail iaith cyn iddynt ddechrau’r ysgol. Defnyddir cawodydd iaith mewn canolfannau gofal dydd i ddatblygu ymwybyddiaeth gynnar a diddordeb mewn ieithoedd eraill. Defnyddir dysgu integredig cynnwys iaith (CLIL) o’r flwyddyn cyn i blant ddechrau addysg ffurfiol. Yn yr ysgol cynigir yr iaith ddewisol gyntaf fel arfer yng ngradd 5 (11/12 oed). Mae Saesneg yn ddewis poblogaidd (yn rhannol oherwydd ei defnydd mewn gemau ar-lein a diwylliant poblogaidd). Fodd bynnag, mae cynnydd yn y bobl sy’n ystyried bod hyfedredd yn yr iaith Ffineg a Saesneg yn ddigon. Mae diddordeb mewn  ieithoedd eraill yn dirywio a gostyngiad yn y sawl sy’n astudio ieithoedd eraill.

Swedeg yw iaith genedlaethol arall y Ffindir; mae 5.4% o boblogaeth y Ffindir yn siarad Swedeg. Ceir rhywfaint o ddarpariaeth cyfrwng Swedeg yn yr ardaloedd lle mae mwy o bobl yn ei siarad. Mae disgyblion eraill yn dysgu Swedeg yn yr ysgol o radd 7 (13/14 oed). Sefydlwyd prosiectau megis e-gefeillio i helpu’r disgyblion hyn i werthfawrogi perthnasedd a gwerth dysgu Swedeg.

Cefnogir ieithoedd cartref disgyblion, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol megis Sami a Roma, gan system addysg y Ffindir. Mewn cyferbyniad â rhaglenni ledled y byd sy’n canolbwyntio ar integreiddio drwy hyfedredd mewn ieithoedd cenedlaethol y wlad yn unig, mae’r Ffindir yn cydnabod bod datblygu llythrennedd mewn ieithoedd cartref plant yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer datblygu hyfedredd yn y Ffineg ac ar gyfer ieithoedd eraill. Mae hyn hefyd yn datblygu adnodd gwerthfawr sydd ddim bob amser yn cael ei gydnabod gan systemau addysg a’r gymdeithas.

O’n hymweliadau ysgol a’r gwersi a gwelsom, nid yw’n ymddangos bod yr addysgu a dysgu yn y Ffindir yn wahanol iawn i Gymru. Siaradodd yr athrawon yno am newidiadau mewn cymdeithas sy’n cynnig mwy a mwy o heriau i athrawon ac ysgolion – trafodaeth gyfarwydd iawn! Yr hyn oedd yn drawiadol oedd yr ymddiried mewn athrawon ac ymreolaeth yr athrawon. Caiff disgyblion profion, wrth gwrs; defnyddir asesu ffurfiannol, a bydd graddau rhifol yn cael eu rhannu gyda disgyblion a rhieni. Mae Canolfan gwerthuso addysg y Ffindir (FINEEC) yn casglu data sampl i lywio gwelliannau system ond nid yw’n enwi nac yn cymharu ysgolion/dosbarthiadau/athrawon/disgyblion unigol. Nid oes system arolygu ysgolion ychwaith.

Felly beth wnaethon ni ddysgu yn y Ffindir? Hoffem i’n disgyblion fod yn iach; i weld mwy o ymddiried ym mhroffesiynoldeb ein hathrawon; a gwerthfawrogiad o’n holl ieithoedd. Rydym hefyd am i bawb ddathlu popeth sy’n dda am ysgolion yng Nghymru.

Trefnwyd a chyllidwyd yr ymweliad i Helsinki a Jyväskylä, y Ffindir, ym mis Mawrth 2018 gan y Cyngor Prydeinig ar gyfer athrawon o ysgolion arloesi sy’n gweithio ar ddylunio a datblygu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu y cwricwlwm newydd i Gymru.

Yr arloesywr oedd yn rhan o’r ymweliad oedd:

Brett Gillett, Ysgol Gynradd Crynallt (Erw)

Bethan Moore, Ysgol Arbennig Crownbridge (EAS)

Dilys Ellis-Jones, Ysgol O.M. Edwards (GwE)

Rebecca Spiller, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni (EAS)

Suzi Smith, Ysgol Arbennig Crug Glas (Erw)

Gyda:

Maija Evans, y Cyngor Prydeinig

Eleri Goldsmith, Llywodraeth Cymru

Gadael ymateb