Ein pobl ifanc yw ein dyfodol. Felly, beth allai fod yn fwy pwysig yn yr ysgol na’r cwricwlwm rydym yn ei ddewis ar eu cyfer? Yr her barhaus yw i bawb sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru gydweithio er mwyn datblygu cwricwlwm ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn sicrhau bod gan bob person ifanc y sgiliau, y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r rhinweddau personol sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Mae dwy elfen allweddol i’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm; yn gyntaf, ei greu ac, yn ail, wneud iddo weithio. Rhaid sicrhau bod y cwricwlwm a gyhoeddir sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn un o’r radd flaenaf. Ond, wrth ddod i gysylltiad â’r dysgwr yn yr ysgol y gwelir ei werth gwirioneddol.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, credir yn gryf fod athrawon yn fodd i ddatblygu’r cwricwlwm ac mae grwpiau o bobl o ysgolion yn gweithio’n ddiwyd i gyrraedd y nod.
Pan gaiff ei gyhoeddi, ceir y cyffro arferol sy’n cyd-fynd â chyhoeddi cwricwlwm cenedlaethol newydd. Beth sydd ynddo a beth sydd wedi’i hepgor? Pa arlunwyr, llenorion, brwydrau neu anturwyr? Pa gysyniadau allweddol sydd ar goll neu pa elfennau newydd y bydd angen i athrawon fynd i’r afael â nhw ym maes dysgu strwythuredig? A oes gormod o gynnwys, neu ddim digon? A yw’r dilyniant yn iawn o ystyried aeddfedrwydd a datblygiad disgwyliedig y dysgwr?
Fel o’r blaen, yr her sy’n dilyn cyhoeddi cwricwlwm cenedlaethol newydd yw sicrhau ei fod yn cael ei addysgu’n dda.
Mae bron pob cwricwlwm cenedlaethol ym mhob gwlad yn ei chael hi’n anodd gwneud hyn. Ac mae yna batrwm: mewn cyfnod byr iawn, ychydig fisoedd yn unig, bydd ysgolion yn rhoi’r gorau yn raddol i addysgu’r hyn a geir yn y cwricwlwm cenedlaethol gan addysgu’r hyn y maent yn credu sydd ynddo. Gydag amser, byddant yn addysgu’r hyn a brofir ac a archwilir, a arolygir, beth maent yn ei wybod fel athrawon, beth mae’r dysgwyr yn ei fwynhau, beth y gall dysgwyr ei wneud heb fawr ddim trafferth a beth maen nhw eu hunain yn mwynhau ei addysgu.
Nid yw’n fwriadol ond caiff ystod gyfan o ddysgu a fwriadwyd ei hesgeuluso wrth i ysgolion fynd ar drywydd yr hyn a fesurir ac sy’n atebol, gan geisio cydbwyso hynny â’r hyn sy’n dwyn pleser. Felly, o’r blynyddoedd cynnar i gyfnod allweddol 4, anwybyddir penodau cyfan mewn hanes, mae’r byd barddonol yn un estron i lawer o ddysgwyr, ceir llai o wyddoniaeth arbrofol na’r hyn a fwriadwyd, ac nid yw llawer o ddysgwyr yn teithio’n bell mewn daearyddiaeth. Ac eto i gyd, mae hen ddigon o gynnwys i lenwi’r amser!
Yng Nghymru mae cyfle i dorri’r cylch cythreulig hwn. Mae credu yn y proffesiwn addysgu yn ymestyn i gydnabod mai dim ond rhan o’r broses yw creu cwricwlwm: mae gweithio allan y ffordd orau o ddiwallu anghenion y dysgwr yn rhan arall.
Am y rheswm hwnnw, mae Arloeswyr Dysgu Proffesiynol yn dechrau gweithio allan sut i ddod â’r Meysydd Profiad Dysgu yn fyw a’u defnyddio i helpu i sicrhau twf proffesiynol athrawon ledled y wlad. Drwy sefydlu prosiectau penodol sy’n archwilio dysgu yng nghyd-destun eu hysgolion ac yn cysylltu’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm â’r safonau proffesiynol newydd, maent yn mynd i’r afael â’r bwystfil sydd wedi bod yn gyfrifol am ddifetha nodau cwricwlaidd yn y gorffennol.
Felly ni ddylai’r gwaith o gyflwyno cwricwlwm newydd ddioddef y tro hwn! Caiff y cysylltiad rhwng addysgeg a’r cwricwlwm ei ystyried mewn treialon a chynlluniau peilot er mwyn llunio modelau sy’n helpu i sicrhau mai’r cwricwlwm a gafodd ei greu yw’r un y mae dysgwyr yn ei brofi mewn gwirionedd. Ar bob cam o’r broses gynllunio ac addysgu, maent yn mynd i’r afael â’r cymhlethdodau er mwyn iddo weithio.
Mae’n waith caled. Mae cynifer o berlau i’w cael o fewn y cwricwlwm fel ei bod yn hawdd ymgolli’n llwyr neu ganolbwyntio ar un elfen yn benodol. Felly, mae gwaith yr Arloeswyr o ran sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith ac yn cael ei brofi gan ddysgwyr yn hanfodol i ddyfodol y wlad. Fel unrhyw ddatblygiad arloesol, mae’n ansicr, yn heriol, ac mae dilyn y llwybr cywir yn gamp. Ond bydd y gwaith yn dechrau helpu eraill i gamu ymlaen â hyder a goresgyn unrhyw ansicrwydd. Fel athrawon dylem groesawu’r cymhlethdod a mwynhau’r her.
Mae’r cwricwlwm yn rhywbeth i’w drysori. Dylid ymfalchïo yn ‘ein’ cwricwlwm; yr hyn y mae’r genedl wedi penderfynu y dylai ein pobl ifanc ei ddysgu. Dylai athrawon, rhieni, y gymuned addysg ehangach, y cyfryngau a’r cyhoedd i gyd weld y cwricwlwm fel rhywbeth y maent yn ei groesawu, yn ei gefnogi ac yn ei ddathlu. Yn fwy na dim, dylai pobl ifanc achub ar y cyfle i ddefnyddio’r cwricwlwm i ddarganfod a chyflawni.
Mick Waters