Neidio i'r prif gynnwy

Ail-lunio map y cwricwlwm yng Nghymru

Read this page in English

Mark PriestleyRoedd cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus yn 2015 yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm arfaethedig newydd yn newid mawr o bolisi o’r brig i’r bôn diweddar nad oedd yn rhoi fawr o ryddid i athrawon. Mae’n symud ysgolion i ffwrdd o ddulliau addysgu penodol a arweinir gan gynnwys, ac yn rhoi rhyddid sylweddol i athrawon ac ysgolion ddatblygu cwricwlwm ysgol i ddiwallu anghenion lleol.

Mae Cwricwlwm newydd Cymru yn nodweddiadol, mewn nifer o ffyrdd, o bolisi byd-eang diweddar ‘cwricwlwm newydd’. Mae’n rhoi pwyslais ar ganologrwydd y dysgwr, a phwysigrwydd datblygu’r hyn a elwir yn sgiliau’r 21ain ganrif, i arfogi pobl ifanc i ffynnu mewn cymdeithasau democrataidd modern cymhleth ac yn y gweithle. Mae’n cydnabod y ffaith efallai nad pynciau, y dull hollbresennol o rannu’r cwricwlwm uwchradd, yw’r ffordd orau bob amser o drefnu’r maes addysgu er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen i ffynnu yn y byd modern.

Ymhellach, yn debyg i’r ‘cwricwla newydd’ mewn gwledydd megis yr Alban a Seland Newydd, mae’r cwricwlwm newydd yn agored i feirniadaeth ac mae heriau sylweddol i’w hwynebu o ran ei roi ar waith mewn ysgolion. Mae’r cwricwla hyn wedi cael eu beirniadu’n gryf am israddio gwybodaeth gan wneud y ffiniau sefydledig rhwng gwybodaeth arferol a gwybodaeth ddisgyblaethol yn llai amlwg. Mae beirniaid wedi gwawdio eu ffocws honedig ar sgiliau aneglur a dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Maent yn aml wedi cael eu labelu’n ddifrïol fel cwricwla ‘blaengar’ neu ‘progressive’ yn Saesneg. Ymhellach, mae’r cwricwla yn yr Alban ac mewn mannau eraill wedi dioddef problemau gweithredu. Ym mis Rhagfyr 2016, dywedodd Andreas Schleicher o’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er bod yr Alban wedi datblygu cwricwlwm beiddgar yn llawn gweledigaeth, roedd angen iddo newid o fod yn gwricwlwm bwriadedig i fod yn gwricwlwm gweithredol. Mae ein hymchwil yn awgrymu mai un o’r prif broblemau yw’r bwlch rhwng arferion a chredoau cyffredin athrawon am addysg, a’r amcanion sydd ymhlyg yn y cwricwlwm newydd.

Er gwaethaf y pryderon hyn, rwy’n credu bod Cymru’n wahanol. Yn gyntaf, mae Cymru’n rhoi ystyriaeth i’r gwersi y gallwn eu dysgu o wledydd eraill, gan ofyn am gyngor gan ymchwilwyr mewn rhai o’r gwledydd sydd eisoes yn datblygu’r math hwn o gwricwlwm. Yn ail, mae datblygwyr y cwricwlwm yng Nghymru wedi mynd ati’n weithredol i roi egwyddorion a phrosesau ar waith sy’n mynd i’r afael â’r feirniadaeth. Caiff pwysigrwydd gwybodaeth ei bwysleisio yng nghanllawiau’r cwricwlwm. Mae proses fanwl o ddatblygu’r cwricwlwm ar sail dibenion addysg – a gaiff eu cyfleu yn y Pedwar Diben a’r datganiadau ‘Beth sy’n bwysig?’ ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad – wedi’i nodi’n glir. Bydd rôl yr Athrawon Arloesi yn arwyddocaol – fel awduron datganiadau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, ac fel hwyluswyr i ddatblygu’r cwricwlwm mewn ysgolion wrth iddo gael ei roi ar waith dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn achos llawer o’r cwricwla newydd, caiff y cwricwlwm ei ddiffinio drwy filoedd o ddeilliannau dysgu, sy’n achosi cryn dipyn o densiwn. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd yng Nghymru, gan fod Fframwaith Beth sy’n Bwysig? yn ddull llawer mwy adeiladol o ddatblygu arfer mewn ysgolion.

Ni ddylai’r uchod dynnu sylw oddi ar yr heriau sy’n wynebu ysgolion wrth iddynt fentro i ddyfodol ansicr. Serch hynny, dylai rhai egwyddorion helpu i’w tywys ar hyd y ffordd. I gychwyn, nid y cynnwys (na’r pynciau) i’w haddysgu yw’r man cychwyn ar gyfer datblygu cwricwlwm, ond yn hytrach y dibenion addysg a nodir yn y cwricwlwm. Mae gwneud synnwyr – drwy ddeialog proffesiynol helaeth – yn rhan hanfodol o’r broses hon; os nad yw athrawon yn deall y cwricwlwm newydd, yna ni fyddant yn datblygu arferion sy’n addas at y diben. Dylid addysgu gwybodaeth a sgiliau – gwybodaeth bwerus – gan gadw’r dibenion hyn mewn cof. Yn yr un modd, mae angen i ddulliau addysgol fod yn addas at y diben. Mae dulliau addysgeg pwerus yr un mor bwysig er mwyn datblygu gallu deallusol â gwybodaeth bwerus. Bydd rôl yr athrawon Arloesi a’r consortia rhanbarthol yn hollbwysig er mwyn datblygu’r seilwaith i helpu i ddatblygu’r cwricwlwm. Yn arwyddocaol, bydd angen i Gymru ddatblygu dulliau i fynd i’r afael ag atebolrwydd a chymwysterau sy’n gwasanaethu arferion ysgolion yn hytrach na’u rheoli.

Os eir i’r afael â’r materion uchod – ac rwy’n hyderus bod parodrwydd i wneud hynny – yna gall Cwricwlwm newydd Cymru arwain at ddyfodol llwyddiannus. Mae’r cwricwlwm newydd yn wahanol i’w ragflaenydd, a bydd angen mabwysiadu dulliau a phatrymau gwaith gwahanol. Gan ei fod yn cynnig mwy o hyblygrwydd a phŵer lleol, bydd angen i holl athrawon Cymru ymgysylltu’n weithredol. Mae profiad yr Alban yn awgrymu mai’r athrawon a’r ysgolion hynny a wnaeth ymgysylltu yn ystod camau cyntaf y broses, gan wneud synnwyr o’r Cwricwlwm Rhagoriaeth a datblygu gweledigaeth ar ei gyfer, oedd yr athrawon a’r ysgolion a wnaeth y gorau o’i botensial. Mae’n werth cofio geiriau ysgolhaig y cwricwlwm Lawrence Stenhouse – sef nad yw’n bosibl datblygu cwricwlwm heb ddatblygu athrawon. Bydd angen gwneud y ddau er mwyn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan Dyfodol Llwyddiannus.

Yr Athro Mark Priestley

Prifysgol Stirling

Priestley, M. & Minty, S. (2013). Curriculum for Excellence: ‘A brilliant idea, but. . .’, Scottish Educational Review, 45 (1), pp. 39-52.
Stenhouse, L. (1975). An Introduction to Curriculum Research and Development (London, Heinemann).

Gadael ymateb