Yn ystod cyfnod diweddaraf datblygu’r cwricwlwm, mae ysgolion arloesi wedi bod yn gofyn ‘beth sy’n bwysig?’ o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae Ty Golding yn cyflwyno’r gwaith.
“Yn ystod tymor yr hydref, datblygwyd ‘beth sy’n bwysig’, sef cyfuniad o ddatganiadau pennawd lefel uchel a rhesymeg ategol, ac aethom drwy broses ar draws pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad o nodi beth sydd fwyaf pwysig. Yr hyn y dylai dysgwyr 16 oed fod wedi’i brofi, ac yn gwybod amdano, a’r sgiliau a ddylai fod ganddynt wrth adael eu hastudiaethau a Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Rydym yn datblygu ac yn mireinio ‘beth sy’n bwysig’ ymhellach, ar sail
arbenigedd mewn disgyblaethau ehangach a phenodol, a mewnbwn arbenigwyr o’n strwythur llywodraethu ein hunain a’n paneli arbenigwyr ein hunain hefyd. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n datblygu drafft cychwynnol o’r fframwaith cynnydd sy’n cynnwys cyfres o bwyntiau ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr o ddechrau’r cwricwlwm yn dair oed tan eu bod yn 16 oed.
Y camau nesaf i ni fydd symud ymlaen ym mis Ebrill i mewn i dymor yr haf i ddatblygu’r fframweithiau hynny yn fanylach o ran cynnydd dysgu.”