Roedd ein Tîm Arwain yn Ysgol Eirias yn awyddus i gael gafael ar strategaethau effeithiol er mwyn meithrin gallu yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd. Felly, roeddem yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio saith dimensiwn model SLO ar gyfer Cymru i’n helpu i symud ymlaen.
Pan gawsom ein cyflwyno gyntaf i SLO fel ysgol arloesi gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, roedd yn dipyn o agoriad llygad: roedd yn cysylltu â’r holl weithgarwch diwygio addysg! Roeddem bellach yn gallu gweld y thema gyffredin yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson, adroddiad yr Athro Furlong ar ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon a’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu ac Arwain.
Roedd dimensiynau’r model SLO yn gwneud synnwyr perffaith, ac roedd yn rhoi’r cyfle i dargedu dysgu a chydweithredu proffesiynol er mwyn creu athroniaeth ysgol gyfan apelgar.
Gwnaethom ddefnyddio’r saith dimensiwn fel sail i’r targedau ysgol gyfan eleni yn ein Cynllun Gwella Ysgol a phennu targedau er mwyn ymchwilio i bob dimensiwn yn llawn.
Dimensiwn 1 y model SLO: datblygu gweledigaeth a rennir sy’n rhoi sylw i’r hyn y mae pob dysgwr yn ei ddysgu:
Dyfeisiodd y pennaeth newydd ei benodi weledigaeth yn unol â phedwar diben yr Athro Donaldson; mae’r weledigaeth wedi llywio a dylanwadu ar bolisïau’r ysgol, gan gynnwys rheoli perfformiad.
Dimensiwn 2 y model SLO: creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bob aelod o’r staff; A Dimensiwn 7 y model SLO: modelu a datblygu arweinyddiaeth ym maes dysgu:
Fel rhan o’r ymgais i wella dysgu proffesiynol yn barhaus, dyfeisiwyd Llwybr Datblygu Gyrfa er mwyn galluogi pob aelod o staff i gynllunio ei gynnydd ac i ymchwilio i lwybrau priodol. Gall llwybrau fynd i gyfeiriadau gwahanol, a chânt eu defnyddio i helpu athrawon i wella eu haddysgeg. Mae staff wedi bod yn defnyddio’r dull hwn i lywio trafodaethau rheoli perfformiad. Mae pecyn o ‘lwybrau’ hefyd ar gael i’r rhai sydd am fynd ymlaen i swydd arwain. Mae’r Llwybr Datblygu Gyrfa hefyd yn cynnwys addysgu staff cymorth a gweinyddol.
Dimensiwn 3 y model SLO: hyrwyddo dysgu mewn tîm a chydweithio ymhlith pob aelod o’r staff; A Dimensiwn 4 y model SLO: sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio; A Dimensiwn 6 y model SLO: dysgu drwy’r amgylchedd allanol a’r system ddysgu ehangach:
Mae system ‘arsylwi’ yr ysgol wedi bod yn esblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn gwella ‘myfyrio’ cefnogol. Mae hyfforddwr ar gael i bob aelod o staff sy’n ei helpu i ‘fyfyrio ynghylch’ gwersi, ar sail targedau addysgegol. Mae’r safonau newydd yn canolbwyntio ar fyfyrio – mae staff yn dewis o amrywiaeth o safonau sy’n cyd-fynd â gweledigaeth ein pennaeth ar gyfer yr ysgol. Mae’r broses fyfyrio yn ceisio hyrwyddo cydweithredu ac annog ‘ffrwd fyw’ yn ystod y wers.
Mae grwpiau ymchwil gweithredu newydd wedi gwella dysgu mewn tîm ymhlith staff. Drwy gydweithredu â’r Brifysgol leol, mae pob aelod o staff yn gwneud ymchwil gweithredu mewn maes penodol. Mae’r ysgol wedi sefydlu saith grŵp ar sail egwyddorion addysgegol yr Athro Donaldson ac wedi neilltuo amser i’r ymchwil. Mae’r Brifysgol wedi rhoi gwybodaeth i staff am strategaethau ymchwil gweithredu effeithiol, ac mae hefyd yn cefnogi rhywfaint o’r ymchwil, sy’n amrywio o brosiectau bach yn yr ystafell ddosbarth i’r hyn a allai droi allan yn Raddau Meistr!
Fel ysgol bartner arweiniol ym maes darparu addysg gychwynnol i athrawon mewn sefydliadau addysg uwch, mae gennym gysylltiadau cryf â’r system ddysgu ehangach – bydd y rhain yn cael eu hatgyfnerthu ymhellach drwy’r grwpiau ymchwil gweithredu. Rydym wedi gwneud ‘Cymuned’ yn darged ysgol gyfan, ac edrychwn ymlaen at well ein cysylltiadau â phob agwedd ar y gymuned.
Dimensiwn 5 y model SLO: ehangu defnydd o systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth at ddibenion dysgu:
Eir i’r afael â’r dimensiwn hwn drwy ail-werthuso ein dull o gasglu ac adolygu data ar draws pob Cyfnod Allweddol er mwyn mabwysiadu dull mwy ‘meistrolgar’.
Mae’n ddyddiau cynnar ar lawer o’n syniadau, ond maent eisoes yn ailgyflwyno cydweithredu ac ymchwil i athrawon, hyd yn oed os mai dim ond camau bach ydynt ar y dechrau.
Yn yr un modd ag Ysgol Eirias, mae dros 30 o ysgolion peilot wedi cyfrannu at ddatblygiad ein dull i drosglwyddo Ysgolion Cymru i fod yn sefydliadau sy’n dysgu.
Ysgol Gynradd Aberteifi, Aberteifi
Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe
Ysgol Gynradd Christchurch Primary, Abertawe
Ysgol Gyfun Pontarddulais, Abertawe
Ysgol Gymunedol Pembroke Dock, Doc Penfro
Ysgol Uwchradd Crughywel, Crughywel
Ysgol Gynradd Craigfelen, Abertawe
Ysgol Uwchradd y Trallwng, Powys
Ysgol Gyfun Tredegar, Tredegar
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Coed duon
Ysgol Cil-y-Coed, Cil-y-Coed
Ysgol Gynradd Glan Usk, Casnewydd
Ysgol Gynradd George Street, Pont-y-pwl
Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, Blaenafon
Ysgol Gynradd Deighton, Tredegar
Ysgol Gynradd Risca, Casnewydd
Ysgol Uwchradd Esgob Hedley, Merthyr Tudful
Fern Federation (Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ac Ysgol Gynradd Cefn)
Ysgol Uwchradd Caerdydd, Caerdydd
Ysgolion Cynradd Romilly/Rhws, y Barri
Ysgol Gynradd Oldcastle, Pen y Bont
Ysgol Gynradd Llanishen Fach, Caerdydd
Ysgol Heronsbridge, Pen y Bont
Ysgol Uwchradd Cardinal Newman, RCT
Ysgol Uwchradd Y Pant,
Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn
Ysgol Sant Christopher, Wrecsam
Ysgol Gynradd Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn
Ysgol Uwchradd, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy
Ysgol Gwynedd, Sir y Fflint
Ysgol Dyffryn Ogwen, Bangor
Ysgol Bryn Gwalia, Yr Wyddgrug
Ysgol San Sior, Conwy
Ysgol Emrys Iwan, Yr Wyddgrug
Hi thanks forr sharing this