Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy’n achosi problemau TG eich ysgol?

Read this page in English

wifi receiver in a hotel room

“Mae fy llechen wedi rhewi” ac “Mae fy ngliniadur wedi crasio” yn gwynion mae fy nhîm wedi’u clywed lawer gwaith wrth ymweld ag ysgolion i ddatblygu strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru.

“Mae’n fy ngyrru i’n benwan” medden nhw. Ac rwy’n deall hynny. Ond weithiau gall clywed pethau fel hyn fod yn rhwystredig hefyd, gan fod llawer o broblemau yn gallu cael eu trwsio’n weddol hawdd.

Ac â dysgu digidol a chymhwysedd digidol mor bwysig nawr fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, rwy’n gwybod cymaint o flaenoriaeth yw hyn. Dyna pam mae fy nhîm wedi llunio canllawiau ar addysg ddigidol i’ch helpu i weld beth y gallwch chi ei wneud.

Dydw i ddim am frwsio’r problemau o dan y carped. Ond rwyf am roi ychydig o gyd-destun ichi.

Prin y bydd ein dyfeisiau yn defnyddio gwifrau gweladwy i gysylltu, felly rydyn ni’n gallu anghofio weithiau bod yna rwydwaith ‘cudd’ o geblau, blychau a switshys yn gwneud i’r cyfan weithio. Ond heb y seilwaith rhwydwaith iawn, a hwnnw wedi’i osod yn iawn, bydd yn anodd cael technoleg i weithio – gan arwain at annibynadwyedd a rhwystredigaeth.

Man hiding under laptopFel arfer, cysylltiad araf â’r rhyngrwyd yw’r prif reswm dros eich problemau TG, ond yn aml gall y problemau hyn godi am nad yw rhwydwaith lleol (mewnol) yr ysgol yn gallu ymdopi, neu am nad yw wedi’i osod i allu ymdopi â’r gofynion sydd arno. Yn benodol, gall y dyfeisiau di-wifr diweddaraf roi gofynion newydd ar rwydwaith ysgol nad ydynt wedi’u rhagweld ac sy’n anodd eu rheoli, yn enwedig pan nad yw’r pwyntiau mynediad Wi-Fi sy’n “cysylltu” y ddyfais â’r rhwydwaith wedi’u cynllunio i ddelio â’r technolegau mwy newydd.

Mae’n hynod bwysig gwneud yn siwr ar unwaith, felly, bod seilwaith eich rhwydwaith yn iawn – a bod yna strategaeth i’w adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd – gan y bydd hyn yn sylfaen gadarn i’ch holl wasanaethau digidol, ac yn sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf o’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd.

Meddyliwch am rwydwaith eich ysgol (yn enwedig eich Wi-Fi) fel eich cyflenwad dŵr gartref – os ydych chi’n troi’r gawod ymlaen ac yn gweld bod y llif yn isel, mae’n eithaf tebygol bod yna rywun arall yn yr adeilad yn defnyddio ‘eich’ dŵr, neu fod yna bibell yn gollwng. Mae’n eithaf annhebygol bod pwysedd y dŵr yn eich tŷ wedi gostwng yn sylweddol.

Os ydych chi’n cael problemau yn rheolaidd wrth gysylltu â’r rhyngrwyd, gofynnwch i’ch cyswllt yn yr awdurdod lleol neu i ddarparwr gwasanaeth arall am gyngor ar rwydwaith eich ysgol. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor ichi ar ffyrdd o ddatrys neu leihau eich problemau.

Wrth inni fynd yn fwyfwy dibynnol ar wasanaethau digidol mewn ysgolion, gan ddefnyddio asesiadau personol ar-lein, a gwasanaethau rhwydwaith a chwmwl, mae’n hollbwysig sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio i chi.

Efallai y bydd y blog hwn gan Bennaeth Ysgol Gynradd Mount Pleasant o gymorth ichi.

Ruth Meadows, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfathrebu Digidol a Strategol

Gadael ymateb