Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwricwlwm ysgol newydd yn gofyn am ddiwylliant dysgu newydd. Mae’n dechrau yma.

Read this page in English

SLO pic - trimmedMae creu diwylliant dysgu ffyniannus mewn ysgolion ar draws Cymru yn hanfodol er mwyn cyflwyno ein cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Mae grŵp o ysgolion, gyda chefnogaeth yr OECD, wedi bod wrthi’n datblygu model i gyflawni hyn.

Cynlluniwyd y model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ er mwyn helpu ysgolion i addasu i newid drwy weithio gydag ysgolion eraill a chonsortia i archwilio ffyrdd newydd o wella dysgu a deilliannau ar gyfer dysgwyr. Mae nodi anghenion dysgu proffesiynol athrawon a chydweithio i ddarparu atebion fel rhan o system hunanwella yn rhan hanfodol o’r dull gweithredu hwn.

Y man cychwyn ar gyfer ysgolion yw hunanwerthuso yn erbyn saith dimensiwn o arfer da a defnyddio’r canlyniadau i gynllunio gwelliannau a datblygiadau. Mae pob dimensiwn wedi’i gysylltu â’r pedwar diben, a llesiant yn ganolog iddynt i gyd.

Mae’r model yn darparu cyfarwyddyd ymarferol ar sut all staff ysgol ddysgu’n unigol a gyda’i gilydd wrth i ysgolion ddatblygu’n sefydliadau sy’n dysgu.

O’r tymor hwn ymlaen, bydd y consortia rhanbarthol a’r ysgolion a nodwyd fel y rhai cyntaf i weithredu’r model yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth ohono o fewn y rhwydwaith ysgolion ehangach.

Bydd ysgolion yn cael eu hannog i ddechrau archwilio’r dimensiynau er mwyn eu helpu i ddeall y cwricwlwm newydd a’i gyflwyno o fewn yr ysgol a thu hwnt.

Dyma saith dimensiwn y model:

  • datblygu a rhannu gweledigaeth sy’n canolbwyntio ar ddysgu pob myfyriwr;
  • creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bob aelod o staff;
  • hybu dysgu fel tîm a chydweithio ymhlith yr holl staff;
  • sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio;
  • sefydlu systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth at ddibenion dysgu;
  • dysgu drwy’r amgylchedd allanol a’r system ddysgu ehangach;
  • modelu a meithrin arweinyddiaeth ddysgu.

Gellir gweld y model llawn yma.

Bydd y model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ yn gysylltiedig ag ymrwymiad cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ddysgu proffesiynol parhaus, a adlewyrchir yn y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu a dysgu, a bydd yn ategu’r fframwaith asesu a gwerthuso newydd.

O fis Medi 2017, mae trefniadau arolygu newydd Estyn yn ystyried i ba raddau y mae arweinwyr wedi creu diwylliant ac ethos i gefnogi dysgu proffesiynol pob aelod o staff. Bydd y model hunanwerthuso yn helpu ysgolion i werthuso eu cynnydd o ran datblygu fel sefydliad sy’n dysgu.

Caiff y model ei lansio’n ffurfiol yn nhymor yr haf 2018 a bydd yr achlysur yn gyfle i ddangos enghreifftiau o arferion da ar draws Cymru.

Gadael ymateb