“Gwnaethom gymryd ymagwedd ysgol gyfan tuag at godi cymhwysedd digidol: athrawon yn dysgu wrth ochr disgyblion, adrannau’n rhannu arfer. Dyma grynodeb o’r hyn a wnaethom:’’
Fel rhan o baratoi at y cwricwlwm newydd, gwnaethom fuddsoddi mewn caledwedd a meddalwedd fel y gallem ddefnyddio technoleg symudol ar draws y cwricwlwm, gan fynd â TGCh allan o ystafelloedd TGCh ac i mewn i adrannau. Er mwyn sicrhau bod Hwb yn gweithio i’r holl staff, roedd angen i ni eu hyfforddi ar ei nodweddion, ei adnoddau a’i apiau.
Dysgu ochr yn ochr
Mae staff wedi bod yn datblygu eu sgiliau digidol wrth ochr disgyblion, gyda chymorth ein tîm TGCh i gyflwyno’r holl enwau defnyddwyr ac ymgorffori Hwb yn y Cynllun Gwaith adrannol.
Rhannu arfer da rhwng adrannau
Mae gennym ymagwedd ysgol gyfan at sesiynau hyfforddiant lle mae adrannau’n arddangos eu cyflawniadau digidol ac yn rhannu sgiliau rhwng y staff addysgu.
Mae’r adran Daearyddiaeth yn achub y blaen ar ddatblygu defnydd J2data ar gyfer ymchwiliadau trin data.
Dangosir gwybodaeth Hanes a Daearyddiaeth drwy gyflwyniadau a grëwyd ar y cyd gan ddisgyblion sy’n cael mynediad at eu gwaith gartref drwy’r cwmwl ar Office 365.
System storio Cwmwl, cydweithredu a diogelwch ar-lein
Mae Hwb yn gadael i ni gael mynediad at system storio Cwmwl a nodweddion cydweithredol drwy Office 365 a J2E. Gall disgyblion lanlwytho fideos sgrîn werdd, a rhannu a dangos eu gwaith llyfr, drwy ddefnyddio codau QR.
Mae’r disgyblion yn dysgu ar eu cyflymdra eu hunain, gan ddod yn ddysgwyr annibynnol llawn ysgogiad wrth ddefnyddio cymhwysiad OneNote i greu llyfrau nodiadau digidol amlgyfrwng â fideos cymorth wedi’u hymgorffori; ym maes Addysg Grefyddol, maent yn defnyddio taflenni gwaith rhyngweithiol wedi’u hymgorffori mewn Llyfrau Nodiadau dosbarth OneNote.
Rhoddir adborth ar unwaith ar bynciau trafod, ac adnoddau, gan adrannau drwy ‘Ddosbarthiadau Hwb’.
Yn olaf, y rheswm pennaf dros lwyddiant datblygu llythrennedd digidol yw diogelwch disgyblion ac yn ganolog i hyn mae ein defnydd o adnodd Diogelwch 360 Gradd Cymru er mwyn sicrhau bod olion traed digidol disgyblion yn ddiogel ar bob adeg.
Yr effaith fwyaf ar draws y cwricwlwm
Yr effaith fwyaf ar draws y cwricwlwm? Defnyddio Hwb er mwyn datblygu llafaredd yn ein hadrannau ieithoedd. Mae sain, cyfieithu a chodau QR yn rhan o J2E ac yn datblygu sgiliau llafaredd yn Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol – mae athrawon a dysgwyr yn cael sgwrs ddysgu ac yn rhoi adborth ar unwaith. Rhoddwyd prawf ar J2e5 o fewn yr adran Ffrangeg er mwyn annog disgyblion Blwyddyn 7 i estyn eu dulliau ysgrifennu drwy ddefnyddio cronfeydd geiriau.
Hysbysiad: How Hwb helped teachers and pupils with the Digital Competence Framework, at St John Lloyd Catholic School, Llanelli | Curriculum for Wales Blog