Rydym wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2020.
Mae’n golygu y bydd y cohort cyntaf o unigolion 16 oed i ddilyn y cwricwlwm newydd yn sefyll eu harholiadau diwedd ysgol yn ystod haf 2027.
Nid oes amheuaeth y bydd diwygio’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru yn arwain at newidiadau i gymwysterau – ond mae’n rhy gynnar i ddweud yn union faint y bydd angen iddynt newid.
Y farn bresennol yw y bydd y brand TGAU hirsefydledig a dibynadwy yn parhau, ond y gall fod angen i gymwysterau unigol newid er mwyn adlewyrchu gofynion y cwricwlwm newydd. Mae angen i ni hefyd gynnwys cymwysterau galwedigaethol er mwyn adlewyrchu ehangder y cwricwlwm newydd a sicrhau bod y cynnig mor gyfoethog a diddorol â phosibl.
Mae hefyd yn bwysig symud pethau yn eu blaen yn raddol ac osgoi, hyd y gellir, newid llawer o bethau ar unwaith.
Rydym yn ymwybodol bod y system addysg yng Nghymru wedi wynebu cyfnod diwygio maith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dyna pam y byddwn yn ymgynghori ar y manylion ac yn caniatáu digon o amser i athrawon a dysgwyr baratoi pan fyddwn yn cyflwyno newidiadau yn y dyfodol.
Gan fod y broses o ddiwygio’r cwricwlwm ar gam cynnar, nid yw’n bosibl eto weld beth fydd y goblygiadau llawn i gymwysterau unigol. Mae’r effaith yn debygol o amrywio yn ôl pwnc. Rydym yn disgwyl na fydd llawer o newidiadau i rai, ond gall fod angen newid cynnwys a strwythur eraill.
Rydym yn cydnabod y bydd angen i unrhyw gymwysterau newydd fod ar waith ymhell cyn eu dyddiad cyhoeddi, sef mis Medi 2025.
Felly, byddwn yn sicrhau eu bod yn barod mewn digon o amser er mwyn i ysgolion ac athrawon baratoi i’w haddysgu, a threfnu bod adnoddau dwyieithog ar gael i gefnogi athrawon a dysgwyr.
Mae diwygio’r cwricwlwm a chymwysterau ar yr un pryd bob amser yn mynd i fod yn heriol, ond drwy gynllunio’n ofalus a thrafod ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd, rydym yn hyderus y gall y cyfnod pontio fod mor ddidrafferth â phosibl.
Gan Kate Crabtree, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi ac Ymchwil Cymwysterau Cymru
Hysbysiad: Will Qualifications Change to Respond to the New Curriculum in Wales? | Curriculum for Wales Blog