Mae’n bosib y daw pob math o bethau i’r meddwl wrth i chi ddarllen teitl y blog yma. Ond mae diben ehangach iddo – sef edrych yn ddyfnach ar ddamcaniaeth cynllunio cwricwlwm.
Mae ysgolion arloesi wrthi ar hyn o bryd yn datblygu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad ac yn edrych o’r newydd ar ffyrdd o fynd ati i gynllunio cwricwlwm. Yn ystod y tymor hwn mae grwpiau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn gweithio ar ‘beth sy’n bwysig’ – yr wybodaeth, y sgiliau a’r cysyniadau allweddol – ar gyfer eu Meysydd Dysgu a Phrofiad unigol. Ond sut yn union maen nhw’n mynd ati i gyflawni’r dasg yma?
Gall ‘Backwards Design’, ‘Syniadau Mawr’ a ‘Beth sy’n bwysig’ swnio braidd yn fawreddog ond maen nhw hefyd yn cyfeirio at rywfaint o’r gwaith ymchwil sy’n sail i’r cyfan. Mewn blog manwl mae James Kent o’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn crynhoi ac yn esbonio ymhellach. Dyma ei neges:
https://sewales.org.uk/Pioneer-Schools/James-Kent-Blog/21-September-2017.aspx?lang=cy-gb
Hysbysiad: ‘What Matters’ in building the new Curriculum for Wales? | Curriculum for Wales Blog