Mae tîm Tregatwg yn defnyddio technoleg fel rhan gynhenid o’n dulliau addysgu a dysgu ac wedi gwneud ers blynyddoedd lawer. Pan lansiwyd y Fframwaith, roeddem yn teimlo ein bod mewn sefyllfa dda i dderbyn y sgiliau newydd a gwella’r dulliau dysgu a oedd eisoes ar waith.
Rydym yn ysgol arloesi ddigidol ac roeddem wedi bod drwy brofion rheolaidd ar y Fframwaith cyn ei gyhoeddi, gan helpu i’w fireinio a’i wella. Felly, pan gafodd ei lansio ar 16 Medi, roeddem yn edrych ymlaen at ddefnyddio pob rhan ohono. Ond, fel arfer, nid oedd popeth yn syml.
Dechreuodd yr athro arweiniol gyda sesiwn HMS i gyflwyno’r Fframwaith gorffenedig ac amserlen o ran pa feysydd y canolbwyntid arnynt yn ystod y flwyddyn. Yna, anogodd y staff i gymryd amser i ddod i’w adnabod a’i ddefnyddio yn eu gwaith cynllunio. Ond, erbyn hanner tymor mis Hydref, nid oedd y staff yn siŵr sut i’w gynnwys ac, fel sy’n digwydd yn rheolaidd pan gyflwynir technoleg neu systemau newydd, roedd rhai’n colli hyder ac nid oeddent yn mynd yn agos ato! Daeth yn amlwg bod angen dull gweithredu gwahanol.
Dechreuodd yr arweinydd digidol gefnogi staff yn ystod sesiynau Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA), gan eu hannog i ddeall bod llawer o’r gweithgareddau roeddent yn eu haddysgu eisoes yn cwmpasu elfennau o’r Fframwaith. Hefyd dangosodd iddynt y byddai’r Fframwaith yn cael ei gwmpasu’n llwyr drwy wneud mân newidiadau i rai meysydd, er enghraifft, yn ogystal â chreu neu gynhyrchu gwaith digidol, sicrhau bod plant yn cynllunio gwaith ac yn ei werthuso.
Erbyn mis Ionawr, roedd yr athrawon yn magu hyder wrth ei ddefnyddio yn eu gwaith cynllunio, ond nid oedd rhai meysydd yn cael eu cwmpasu’n naturiol gan nad oedd y wybodaeth gan athrawon na chynorthwywyr cymorth dysgu i’w haddysgu. Yn nhymor y gwanwyn, bu i ni ganolbwyntio ar y Llinyn Data a Meddwl Cyfrifiadurol. Cyflwynodd yr arweinydd digidol sesiwn HMS ar y llinyn hwn a rhoddodd amser i athrawon gynnwys data yn eu gwaith cynllunio. Hefyd, cyflwynodd grid i gynllunio gweithgaredd a oedd yn gweddu i thema’r tymor, ond yn cwmpasu pob llinyn, gan barhau i gefnogi yn ystod sesiynau CPA.
Fel staff, penderfynwyd y dylid addysgu’r Llinyn Dinasyddiaeth drwy gydol y flwyddyn, gan ddewis elfennau gwahanol dros hanner tymhorau gwahanol ac yn yr un modd, pan edrychwyd ar y Llinyn Meddwl Cyfrifiadurol, roeddem i gyd yn teimlo y byddai darparu gweithgareddau rheolaidd drwy bob hanner tymor yn llawer mwy rhagweithiol na ffocws bob hanner tymor.
Flwyddyn ar ôl cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, rydym yn teimlo ein bod mewn sefyllfa well o lawer. Rydym yn dal i wella ac yn gwneud mân newidiadau i’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio fel y gallwn gefnogi ein gilydd a gwella dulliau dysgu digidol i’n plant.
Louise Williams,
Ysgol Gynradd Tregatwg