Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd y cwricwlwm newydd yn wahanol i ddisgyblion fel fi?

Read this page in English

bethan evans

Fel disgybl, yr hyn rwy’n gobeithio ei gael o gwricwlwm fy ysgol yw gwybodaeth y gallaf ei chymhwyso at fy mhrofiadau bywyd a’m gyrfa yn y dyfodol. Rwy’n cael hynny i ryw raddau, ond rwy’n teimlo hefyd mai’r hyn rwy’n ei wneud mewn gwirionedd yw dysgu gwybodaeth ar gof, dim ond i’w anghofio unwaith y byddaf yn gorffen fy arholiadau.

Nod y cwricwlwm newydd heriol a chynhwysol yw bod yn “gwricwlwm ar gyfer bywyd,” sy’n golygu y caiff rwy’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ei atgyfnerthu a’i ddatblygu. Yn y pen draw, bydd addysgu gwybodaeth werthfawr mewn modd cyffrous a diddorol yn rhoi hwb i allu meddyliol disgyblion a’u cymhelliant i gofio cynnwys a’i ddefnyddio yn eu bywydau.

Mae gan y cwricwlwm newydd 4 prif nod/diben:

1) Dysgwyr uchelgeisiol, galluog

2) Cyfranwyr mentrus, creadigol

3 Dinasyddion egwyddorol, gwybodus

4) Unigolion iach, hyderus

O’r dibenion hyn, gallaf weld y bydd disgyblion yn cael eu hannog i wynebu heriau newydd yn y dyfodol, a bydd eu gwybodaeth yn ehangu y tu hwnt i amgylcheddau dysgu traddodiadol fel yr ystafell ddosbarth. Bydd eu barn a’u syniadau yn berthnasol ac yn arwyddocaol a chaiff eu profiadau eu cyfoethogi drwy gyfleoedd fel gweithgareddau y tu allan i wersi traddodiadol.

Bydd y cwricwlwm newydd hefyd yn canolbwyntio’n bennaf ar 3 chymhwysedd: cymhwysedd digidol, llythrennedd a rhifedd. Mae’n amlwg bod y cwricwlwm newydd wedi symud gyda’r oes, gan wneud cymhwysedd digidol mor bwysig â llythrennedd a rhifedd. Rwy’n credu bod hwn yn ddatblygiad pwysig, oherwydd bydd athrawon yn defnyddio technoleg y mae disgyblion fel fi yn gyfarwydd â hi. Bydd yr addysgu yn fwy effeithlon, a’r cynnwys yn fwy cyfredol, yn haws ei ymchwilio ac yn hygyrch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig defnyddio cyfryngau ac adnoddau sy’n gyfredol i’r plant y byddant yn cael effaith arnynt.

O ran yr iaith Gymraeg, bydd y cwricwlwm newydd yn parhau i wneud y Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion hyd at 16 oed. Rwy’n angerddol am gadw’r Iaith Gymraeg yn fyw ac felly rwy’n credu bod hyn yn bwysig. Bydd y cwricwlwm newydd yn canolbwyntio mwy ar gyfathrebu (cyfathrebu a dealltwriaeth ar lafar yn benodol) yn hytrach na dysgu gwybodaeth a’i ailadrodd mewn arholiad. Rwy’n credu y bydd hyn yn llawer mwy defnyddiol i ddisgyblion fel fi sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

A fyddai’n well gennyf astudio o dan y cwricwlwm newydd?

Yn sicr. Rwy’n credu y bydd yn mynd i’r afael ag anghenion disgyblion ac yn eu paratoi yn well ar gyfer y dyfodol. Mae’n edrych yn fwy cytbwys a chynhwysol, a bydd yn cryfhau eu gwybodaeth drwy brofiadau y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Gadael ymateb