Mae diwygio addysg ar frig agendâu llywodraethau ledled y byd. Mae’r patrwm cyffredinol yn un o arloesi o’r brig i’r bôn lle mae tîm canolog yn datblygu pecyn newid sydd wedyn yn cael ei gyflwyno i awdurdodau lleol ac ysgolion. Er bod yr enghreifftiau gorau o ddulliau gweithredu o’r brig i’r bôn yn ystyried goblygiadau o ran hyfforddiant ac adnoddau’r diwygio arfaethedig yn llawn, mae tuedd i fwlch cynyddol fodoli rhwng amcanion uchelgeisiol a realiti profiad yn yr ystafell ddosbarth i athrawon a disgyblion. Mae’r bwlch hwnnw yn aml yn adlewyrchu diffyg perchenogaeth a dealltwriaeth yn y man pwysicaf — yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r dull o weithredu yng Nghymru yn wahanol iawn. Un o brif nodweddion y rhaglen diwygio addysg yng Nghymru yw’r graddau y mae’n adeiladu o’r ystafell ddosbarth tuag allan. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael y fraint o weld y dull gweithredu yng Nghymru ar waith. Mae ysgolion arloesi, consortia, Estyn a swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â’r dasg hynod gymhleth o drosi cyfeiriad eang Dyfodol Llwyddiannus yn fframwaith cwricwlwm gweithredol. Wrth wneud hynny, maent yn gwerthuso tystiolaeth o ddulliau gwahanol o bob rhan o’r byd, gan archwilio canfyddiadau ymchwil ac, yn hollbwysig, fyfyrio ar eu profiadau eu hunain a phrofiad cydweithwyr mewn ysgolion partner.
Mae’r arloeswyr hefyd yn profi eu gwaith meddwl gydag ‘arbenigwyr’, ac yn dysgu ganddynt, yn y Grŵp Cwricwlwm ac Asesu (CAG) sy’n cael ei gadeirio’n effeithiol gan Carl Sherlock, pennaeth ysgol gynradd yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, bu’r arloeswyr yn trafod eu syniadau cychwynnol am y 6 Maes Dysgu a Phrofiad gydag aelodau’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu. Trafodwyd materion cymhleth iawn yn ymwneud â natur a chwmpas pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan roi trefn ar egwyddorion, addysgeg a dilyniant. Gwnaeth ddyfnder a natur agored a chydweithredol y drafodaeth honno argraff fawr arnaf.
Cefnogir yr arloeswyr hefyd gan brosiect ymchwil weithredu pwysig iawn sy’n cynnwys cydweithredu rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow. Mae’r prosiect hwnnw’n edrych yn fanwl ar ddilyniant dysgu pobl ifanc. Mae ymchwilwyr yn gweithio’n uniongyrchol gydag arloeswyr Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan ddarparu tystiolaeth ymchwil fel y bo’n briodol a chymryd rhan mewn trafodaethau am ffyrdd ymlaen. Ni ddylid diystyru cymhlethdod y gwaith hwn. Er mwyn sicrhau dilyniant mewn dysgu, mae angen cyfuno 4 diben Dyfodol Llwyddiannus â phenderfyniadau ynghylch pa wybodaeth a sgiliau yw’r pwysicaf, dealltwriaeth o ddatblygiad gwybyddol ac emosiynol a chydnabod ffactorau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd llwyddiant yn y dasg heriol hon yn ganolog i effaith y cwricwlwm newydd ar ddysgu yn y pen draw.
Nodwedd bwysig arall o’r rhaglen ddiwygio yma yng Nghymru yw ei hymrwymiad i werthuso ffurfiannol a all ddylanwadu ar y datblygiad mewn amser real. Bydd Estyn yn chwarae rhan hanfodol yn y broses ffurfiannol ac rwy’n ymhyfrydu yn y ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Prif Arolygydd ar y cyd, wedi gofyn i mi i gynnal adolygiad annibynnol ar sut y gellir cyflawni hyn orau. Fel enghraifft arall o’r ymrwymiad hwn, rwy’n cadeirio Grŵp Cynghori Annibynnol sy’n gweithredu fel cymorth a chyfaill beirniadol i’r broses wrth iddi ddatblygu. Bydd y Grŵp Cynghori Annibynnol yn gweithio gydag arloeswyr y cwricwlwm er mwyn helpu i fireinio a datblygu’r gwaith meddwl wrth symud at ystyriaethau manylach o’r fframwaith. Yr her fydd dysgu o waith pob grŵp arloesi a chytuno ar ganllawiau a fydd yn cefnogi’r cam nesaf ac yn helpu i sicrhau cysondeb heb gyfyngu ar greadigrwydd.
Mae’r cynnydd gyda’r rhaglen ddiwygio yn galonogol ond mae angen datrys llawer o broblemau anodd yn llawn o hyd. Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar brofiad a chreadigrwydd athrawon ac arweinwyr ledled Cymru, nid y rhai mewn ysgolion arloesi yn unig. Rwyf wedi gweld gwaith rhagorol a chyffrous mewn nifer o ysgolion nad ydynt yn cymryd rhan yn ffurfiol fel arloeswyr. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gynnwys cyfraniadau ehangach o’r fath yn y broses ddatblygu.
Graham Donaldson
Mehefin 2017