Amser darllen o 4 munud.
Mae helpu plant ledled Cymru i wella eu gallu i ddarllen, ysgrifennu, gwrando, siarad, a’u sgiliau iaith yn gyffredinol, yn fater o bwys mawr i rieni, athrawon ac arweinwyr addysg o bob cwr o’r wlad. Mae hyn hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, sydd wedi gosod gwella safonau llythrennedd wrth wraidd eu gwaith ar addysg yn gyffredinol.

Fel rhan o’r ymdrech honno, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Egwyddorion y cytunwyd arnynt gan y Panel Arbenigol Llythrennedd ar gyfer Iaith a Llythrennedd yng Nghymru, a’r Datganiad o Fwriad ar gyfer Darllen Cynnar. Dyma’r egwyddorion hynny:
- Mae sylfaen gref mewn iaith lafar yn hanfodol er mwyn datblygu llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus ar bob cam.
- Dylai’r dull addysgu llythrennedd fod yn systematig, yn strwythuredig ac yn benodol.
- Mae creu cysylltiadau rhwng gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddysgu, cyfathrebu a chreu ystyr.
- Mae addysgu iaith a llythrennedd yn effeithiol yn galluogi dysgwyr i brofi mwynhad, llwyddiant a chymhelliant.
- Mae asesu pwrpasol yn hanfodol i gefnogi addysgu iaith a llythrennedd mewn ffordd wybodus ac ymatebol.
Mae rhagor o fanylion am egwyddorion y Panel, y Datganiad o Fwriad cysylltiedig ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gael ar-lein.
Beth yw’r Panel Arbenigol Llythrennedd?
Mae’r Panel Arbenigol Llythrennedd yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o Gymru a’r DU sy’n cynnig ystod eang o wybodaeth am addysgu a dysgu llythrennedd, yn ogystal â phrofiad amrywiol mewn ymchwil academaidd ac addysgu yn uniongyrchol.
Sefydlwyd y Panel gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Tachwedd 2024 i lywio ffordd o feddwl Llywodraeth Cymru ar ganllawiau’r dyfodol, dysgu proffesiynol, a blaenoriaethau ehangach ar gyfer cryfhau llythrennedd ledled Cymru, ac i sicrhau bod y dull hwn yn drylwyr ac wedi’i seilio ar dystiolaeth go iawn.
I gael rhagor o wybodaeth am gefndir aelodau’r Panel, gwyliwch y fideo isod:
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau llythrennedd?
Mae’r egwyddorion hyn eisoes yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru. Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw prosiect CAL:ON Cymru sydd werth £8.2 miliwn, sy’n sefydlu canolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer addysgu llythrennedd. Mae’r rhaglen yn tynnu ar y dystiolaeth ryngwladol orau, gan gynnwys elfennau o’r dulliau a ddefnyddir mewn llefydd fel Mississippi a Seland Newydd. Drwy CAL:ON Cymru, bydd ysgolion yn cael cymorth dwyieithog, cenedlaethol sy’n cynnwys cymorth i gryfhau sgiliau iaith lafar dysgwyr, ochr yn ochr â chymorth sydd wedi’i dargedu i ddysgwyr sydd angen help ychwanegol i feithrin sgiliau darllen mewn adrannau uchaf ysgolion cynradd a hefyd mewn ysgolion uwchradd.
Bydd CAL:ON Cymru yn cyhoeddi canllawiau ar addysgu ffoneg yn effeithiol, gan gynnwys cyngor ar ddefnyddio rhaglenni ffoneg synthetig systematig ac ar ddewis pecyn ffoneg sy’n briodol i gyd-destun pob ysgol. Bydd y prosiect hefyd yn darparu offer asesu a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n helpu ysgolion i ddeall anghenion llythrennedd penodol dysgwyr.
Ochr yn ochr â hyn, mae grantiau llythrennedd ehangach yn parhau i hyrwyddo llythrennedd drwy greadigrwydd a meithrin cariad at ddarllen, yn ogystal â darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer sgiliau darllen a llafaredd yn y Gymraeg. Eleni, mae Cymru’n ymuno â gwledydd eraill y DU i nodi’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Mae’r ymgyrch Ymgolli – a lansiwyd yn gynharach y mis hwn – yn ychwanegu at waith sydd eisoes ar y gweill i gefnogi ysgolion, dysgwyr a theuluoedd, i feithrin yr arfer parhaol o fwynhau darllen ac i wella safonau llythrennedd. Mae’r ymgyrch genedlaethol hon yn ategu ymdrechion Estyn i ganolbwyntio’n fanylach ar ddarllen, a bydd arolygwyr yn gweithio gyda phob darparwr addysg i sicrhau bod gwella sgiliau darllen ymhlith pob dysgwr yn flaenoriaeth.
Bydd gan Dysgu, y corff dysgu proffesiynol newydd, rôl allweddol wrth symud y gwaith dysgu proffesiynol cenedlaethol yn ei flaen, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd pob ysgol. Mae gwaith agos gydag Awdurdodau Lleol yn parhau fel y gall ysgolion fanteisio ar gynnig cydlynol sy’n seiliedig ar y gefnogaeth genedlaethol hon.
Mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei gyflawni i safon uchel. Mae arbenigwyr ac athrawon wedi cyfrannu’n helaeth at ddatblygu’r dull gweithredu hwn. Bellach mae gan Gymru ddull clir sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth, a fydd yn cefnogi pob ysgol i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar eu dysgwyr i fanteisio’n llawn ar eu haddysg ac i ffynnu trwy gydol eu bywydau.