
1. Beth yw Medr, felly?
Medr yw’r rheoleiddiwr a’r ariannwr hyd braich newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Rydym yn goruchwylio addysg bellach, addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau, addysg oedolion, gwaith ymchwil, a dosbarthiadau chwech ysgolion.
Cymru yw’r lle cyntaf yn y DU i ddod â’r holl feysydd hynny at ei gilydd – rydyn ni’n arwain y ffordd!
2. Pam cafodd Medr ei greu?
Er i Medr fynd yn ‘fyw’ yn swyddogol ar 1 Awst eleni, dechreuodd y daith i gyrraedd y pwynt hwn bron i ddegawd yn ôl, pan gomisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Ellen Hazelkorn i gynnal adolygiad o’r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.
Edrychodd yr adolygiad ar fylchau yn y ddarpariaeth ar draws y sector trydyddol, a nododd yr angen am well cydlyniad a meddwl mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Argymhellodd sefydlu corff cenedlaethol newydd i fod yn gyfrifol am reoleiddio, goruchwylio a chydlynu’r sector ôl-orfodol. Rydym wedi archwilio systemau sydd â modelau tebyg (fel y rhai yn Seland Newydd a Norwy), ac rydym yn hyderus y bydd gweithredu’r dull hwn yng Nghymru yn arwain at well aliniad strategol ar draws y sector trydyddol.
Y nod cyffredinol yw system sy’n darparu ar gyfer dysgwyr ac ar gyfer Cymru, ac mae Medr wedi’i greu i gyflawni hynny drwy hwyluso llwybrau cliriach i ddysgwyr ac annog cydweithio ar draws y sector.
3. Sut rydych chi’n sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli? A fydd ganddynt gyfle i roi eu barn am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn eu cael?
Un o’r nodau yn ein Cynllun Strategol drafft (yr ydym yn ymgynghori arno ar hyn o bryd – mae gennych tan 25 Hydref i gyflwyno eich ymateb!) yw canoli sylw’r sector ar anghenion y dysgwr a sicrhau ei fod yn rhan o benderfyniadau. Rydym yn cydnabod bod rhoi cyfle i ddysgwyr rannu eu barn ar eu haddysg a’u hyfforddiant yn allweddol i sicrhau bod y system yn cyflawni drostynt, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn roi sylw i lais y dysgwr ar draws pob rhan o’r sector.
Ar hyn o bryd rydym yn sgwrsio â dysgwyr am ein cyfeiriad strategol, ac mae gennym gynrychiolydd dysgwyr ar ein Bwrdd. Ar lefel sefydliadol, rydym yn gweithio i ddatblygu cod ymgysylltu â dysgwyr ar gyfer darparwyr, a fydd yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt.
4. Beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod dysgwyr ôl-16 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn profi addysg o safon?
Rydym eisiau sicrhau bod dysgwyr yn dod o hyd i’r llwybr dysgu gorau iddyn nhw – beth bynnag yw hwnnw a ble bynnag. Rhan bwysig o hynny yw sicrhau bod unrhyw beth sy’n rhwystr i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddileu lle bynnag y bo modd.
Ochr yn ochr â’r gwaith sy’n digwydd mewn mannau eraill yn y sector, ac o fewn Llywodraeth Cymru, mae gan Medr waith i’w wneud i barhau i nodi a lleihau’r rhwystrau hynny. Mae hyrwyddo cyfle cyfartal yn un o’n dyletswyddau strategol fel y’i nodir mewn deddfwriaeth, ac mae’n ffocws allweddol inni yn ein Cynllun Strategol drafft. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn nodi ffyrdd y gallwn wella ein gwaith mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac y byddwn, drwy weithio mewn partneriaeth â’r sector, yn parhau i wella ein dealltwriaeth a’n cefnogaeth i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
5. Beth mae’r newid hwn yn ei olygu i ddisgyblion chweched dosbarth?
Ar yr olwg gyntaf, ni fydd unrhyw newidiadau sylweddol ar unwaith. Bydd dosbarthiadau chwech ysgolion yn derbyn cyllid gan Medr drwy eu hawdurdod lleol, a bydd Estyn yn parhau i fod yn gyfrifol am ansawdd ac arolygiadau.
Mae Medr yn ymgymryd â phwerau presennol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â threfniadau dosbarthiadau chwech. Gwyddom fod y chweched dosbarth yn rhan annatod o’r sector trydyddol ac yn rhan allweddol o’r daith addysg i lawer o ddysgwyr. Rydym am i’r llwybrau fod yn glir, yn gydlynol ac yn effeithiol, ac felly rydym yn falch iawn bod chweched dosbarth ysgolion o fewn ein cylch gwaith, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r sector i sicrhau bod y ddarpariaeth ar draws Cymru gystal ag y gall fod.
6. Beth yw eich cynlluniau i sicrhau bod dysgwyr yn gallu parhau â’u haddysg ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rydym yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y sefydliad dynodedig o dan y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil i gynghori Medr ar ein dyletswydd statudol i hyrwyddo a sicrhau darpariaeth ddigonol o addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.
Adlewyrchir ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn ein Cynllun Strategol; byddwn yn datblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ar draws y sector trydyddol ac yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod llwybrau ar gael i addysg ac asesiadau cyfrwng Cymraeg.
7. Beth sydd yn eich blwch ar gyfer y tymor hwn?
Ers lansio ar 1 Awst, rydym yn llawn egni ac yn mynd amdani y tymor hwn! Mae ein Cynllun Strategol cyntaf yn flaenoriaeth enfawr inni, ac yn un pwysig i’w gyflawni’n iawn wrth inni ystyried yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno dros y blynyddoedd nesaf. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y Cynllun drafft yn adlewyrchu’r sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda’n partneriaid am y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau, ac rydym yn edrych ymlaen at gasglu mwy o safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad ffurfiol.
Fel rhan o’n gwaith ymgynghori, rydym yn ymgysylltu â dysgwyr a chyflogwyr i gasglu eu barn wrth baratoi ar gyfer cyflwyno drafft terfynol o’r Cynllun i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr.
8. Pryd a sut y byddwn yn dechrau gweld yr effaith y mae Medr yn ei chael?
Heb or-gyffroi, rwy’n credu ein bod eisoes yn dechrau gweld sut mae sefydliadau a darparwyr yn meddwl. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers talwm bellach – mae’n wyth mlynedd ers adolygiad Hazelkorn i’n system drydyddol. Yn y sgyrsiau rydym wedi bod yn eu cael gyda’r sector, rydym wedi clywed pryderon pobl am yr heriau sydd o’n blaenau, ond rydym hefyd wedi synhwyro optimistiaeth go iawn am y posibiliadau ar gyfer y dyfodol.
Efallai y bydd yn gryn amser cyn inni ddechrau gweld effeithiau clir gwaith Medr. Mae ein dyletswyddau strategol yn uchelgeisiol a byddwn yn gweithio’n galed i’w cyflawni, ond nid ydym yn disgwyl gweld newidiadau ar unwaith. Yn ein Cynllun Strategol, rydym wedi amlinellu ein hymrwymiadau sylfaenol, yr ydym yn gobeithio eu cyflawni yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ynghyd â’n hymrwymiadau i dwf, i’w cyflawni erbyn diwedd oes y Cynllun yn 2030.
O fy safbwynt i, un o’r dulliau allweddol o fesur ein heffaith fydd sgyrsiau gyda dysgwyr i glywed eu sylwadau nhw ar eu taith addysgol, ac a yw ein system wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywyd bodlon – beth bynnag y mae hynny’n ei olygu.
Dysgwch fwy am Medr.
Dweud eich dweud ar ein Cynllun Strategol