Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
O fis Medi 2026, bydd pob dysgwr 3-16 oed yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r cwricwlwm newydd yn ceisio sicrhau bod pob dysgwr yn gadael addysg yn 16 oed gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Yn dilyn yr ymgynghoriad yn gynharach eleni, bydd canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi yn nodi’r gofynion cyfreithiol a disgwyliadau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm ysgol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed o dan y Cwricwlwm i Gymru.
I ategu’r canllawiau, bydd pecyn o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi ysgolion wrth iddynt gynllunio, gweithredu ac adolygu eu cwricwlwm ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11.
Bydd hyn yn cynnwys astudiaethau achos o arferion da, dysgu proffesiynol ar effeithiolrwydd dysgwyr a chymorth wedi’i dargedu ar gynllunio’r cwricwlwm.
Y TGAU newydd
Mae Cymwysterau Cymru wedi diwygio cymwysterau TGAU yng Nghymru i adlewyrchu’r hyn sy’n cael ei addysgu i ddysgwyr fel rhan o’r Cwricwlwm newydd.
Mae’r TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno gam wrth gam, a bydd y don gyntaf yn cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2025.
Bydd gan ysgolion flwyddyn academaidd gyfan i baratoi ar gyfer addysgu’r TGAU newydd ar ôl cyhoeddi’r manylebau terfynol ar gyfer y cymwysterau ym mis Medi 2024 (mae manylebau drafft ar gael yn barod).
Gyda chymorth Adnodd a Llywodraeth Cymru, bydd CBAC yn cynnig pecyn o adnoddau addysgu a chyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i ddarparu’r cymwysterau newydd hyn.
Cymwysterau 14 i 16 cenedlaethol eraill
Mae’r TGAU yn un o nifer o gymwysterau sy’n cael eu diweddaru i adlewyrchu’r cwricwlwm newydd.
Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi ymgynghori ar gyfres ehangach o gymwysterau ar gyfer disgyblion 14-16 oed yng Nghymru a bellach yn bwrw ymlaen â’r gwaith o’u datblygu.
Bydd y rhain yn cynnwys y cymhwyster cyffrous newydd VCSE, Cymwysterau Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau (sef Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a’r Prosiect Personol).
Bydd y cymwysterau hyn ar gael i’w haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2027.
Bydd Adnodd, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff dyfarnu i sicrhau y bydd adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog ar gael i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r cymwysterau cenedlaethol newydd hyn.
Cadw mewn cysylltiad
Mae gan Cymwysterau Cymru safle penodol ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol diwygiedig i ddysgwyr 14 i 16 oed lle mae modd cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf, cael adnoddau a gofyn cwestiynau.