Neidio i'r prif gynnwy

Peilot Cynllunio Cwricwlwm – rhannu’r dysgu

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i’r proffesiwn addysgu feddwl yn wahanol am y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gynllunio – gan symud o fodel cynllunio gwersi a chyflwyno gwersi i ddull mwy soffistigedig o gynllunio dysgu â diben. Er mwyn helpu ymarferwyr i wneud y newid, mae gwaith yn mynd rhagddo i greu astudiaethau achos ac adnoddau trwy gyd-adeiladu.

Fel rhan o hyn, hwylusodd Llywodraeth Cymru beilot cynllunio’r cwricwlwm rhwng Ionawr a Mehefin eleni. Defnyddiodd ysgolion ddull ‘cynllunio tuag yn ôl’ i weld a allai fod o gymorth mewn cyd-destun Cwricwlwm i Gymru.

Mynychodd dau ymarferydd o 30 ysgol 12 o sesiynau 2.5 awr o hyd ar-lein, gan weithio gyda’i gilydd i ddeall egwyddorion y dull cynllunio tuag at yn ôl. Hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon ac arweinwyr a chynghorwyr dysgu proffesiynol rhanbarthol a lleol, mae ymarferwyr wedi defnyddio’r adnodd ar-lein i ddatblygu eu dealltwriaeth.

Gan ddefnyddio’r model ymholi gwerthfawrogol, aeth y grŵp ati i fyfyrio ar yr hyn y mae modd ei gymhwyso i’w cyd-destunau eu hunain a’r hyn a allai fod yn fwy cyffredinol defnyddiol i gefnogi defnydd ymarferol o’n hegwyddorion cynllunio cwricwlwm yng Nghymru.

Bydd y peilot yn parhau yn yr hydref gyda 30 yn rhagor o ysgolion yn cael eu gwahodd i ymuno. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn Dysg, cylchlythyr yr ysgolion. Defnyddiwch y dolenni isod os nad ydych eisoes yn ei dderbyn Dysg:

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddion ynghylch addysg a hyfforddiant (Dysg ôl-11) | LLYW.CYMRU

Tanysgrifiwch ar gyfer newyddion ynghylch addysg a hyfforddiant (Dysg cyn 11) | LLYW.CYMRU

Beth wnaethon ni ei ddarganfod?

Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn. Roedd y dull yn tynnu ymarferwyr oddi wrth ganolbwyntio ar dasgau a gweithgareddau sy’n gyrru dysgu, i ganolbwyntio ar bwrpas pob profiad dysgu. Roedd yn cymeradwyo egwyddorion cynllunio’r cwricwlwm o fewn Cwricwlwm i Gymru a gwerth dull ymholi gwerthfawrogol ynghyd â meddwl ‘cynllunio tuag yn ôl’.

“Mae wedi gwneud i mi ystyried gwir cynllunio cwricwlwm yn hytrach na logisteg pur amserlennu’r cwricwlwm. Mae wedi cadarnhau fy nghred y dylai cynllunio’r cwricwlwm fod wrth wraidd popeth yr ydyn ni’n ei wneud a’i fod yn sail i bob penderfyniad addysgegol yr ydyn ni’n ei wneud.” Arweinydd Canol Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg, De Cymru.

Un pwynt dysgu allweddol oedd cynnwys dau ymarferydd fesul ysgol o fewn y cynllun peilot, gan alluogi cydweithio o fewn ac ar draws ysgolion. Roedd defnyddio’r adnodd asyncronig hefyd yn boblogaidd, gan alluogi ymarferwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth ar eu cyflymder eu hunain.

Yn y rhestr chwarae isod, mae ymarferwyr o amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau yn sôn am yr hyn a oedd yn ddefnyddiol wrth herio eu syniadau am sut maen nhw’n defnyddio ein fframwaith Cwricwlwm i Gymru a deall yn well yr egwyddorion sydd ynddo. Maent yn esbonio sut y gwnaeth eu helpu i ganolbwyntio ar ‘pam’ maen nhw’n addysgu rhywbeth, gan feddwl yn ofalus am ddiben pob profiad dysgu a sut mae’n cefnogi dealltwriaeth ddyfnach ac yn galluogi dysgwyr i drosglwyddo’u dysgu i gyd-destunau newydd yn llwyddiannus. 

Dyma’r rhestr chwarae: Repository – Hwb (gov.wales)

Dyma enghraifft o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl:

Mae podlediadau a fideos hefyd ar gael drwy bodlediad Addysg Cymru a’n sianel YouTube.

Beth oedd yr heriau i’r peilot?

Un o’r heriau mawr a oedd ynghlwm wrth ddefnyddio Understanding by Design oedd ei ffocws ar asesiadau perfformiad. Er bod llawer o’r farn ei bod yn ddefnyddiol iddyn nhw ‘feddwl fel asesydd’ a meddwl yn ddwfn am ba ddangosyddion dysgu y gallan nhw eu gweld yn eu hystafelloedd dosbarth, mae’r ffocws ar ragweld yr holl ddysgu a cheisio cofnodi hyn yn golygu y gallai gwerth yr holl ddysgu a allai ddod i’r amlwg ac sy’n digwydd trwy gydol taith y dysgwr gael ei golli.

Nododd cynghorydd gwella ysgolion:

“Mae wedi amlygu’n glir y gwahaniaeth rhwng gwybod a deall. Fodd bynnag, rwy’n teimlo bod llawer o’r enghreifftiau a roddwyd yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth/cynnwys, lle mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i ni hefyd ystyried gwerthoedd, agweddau, sgiliau a phrosesau i wireddu’r pedwar diben”

Beth nesaf?

Yn gyffredinol, mae’r prosiect peilot hwn wedi darparu llawer o gyfleoedd i ddatblygu ein syniadau am gynllunio cwricwlwm yng nghyd-destun ein Cwricwlwm i Gymru. Diolch i’r holl gyfranogwyr o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru, o’n partneriaid rhanbarthol ac awdurdodau lleol a’n cydweithwyr addysg uwch sy’n gyfrifol am hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

Bydd y cynllun peilot yn cael ei ymestyn yn yr hydref, gan gynnwys 30 yn rhagor o ysgolion. Byddant yn adeiladu ar y gwaith. Trwy gyd-adeiladu, byddwn yn ceisio darparu teclyn dysgu proffesiynol sy’n berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru a byddwn yn rhannu eu dysgu trwy astudiaethau achos o bob cwr o’r wlad. Bydd amseru’r camau nesaf yn cael eu cyhoeddi yn Dysg.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid gwella rhanbarthol i gefnogi dysgu proffesiynol ymhellach ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, a dylai ysgolion gysylltu â’u gwasanaeth gwella ysgolion i gael cymorth pellach.


Gadael ymateb