Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Mae adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd y Cwricwlwm i Gymru hyd yma, gyda blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn o fis Medi 2023, wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad eang yn ystyried agweddau allweddol ar weithredu’r cwricwlwm, ac yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chynllun i gynnal gwerthusiad trylwyr a thryloyw o’r diwygiadau cwricwlwm ac asesu dros amser a’r graddau y maent yn cael y dylanwad a ddymunir i bob dysgwr.
Mae cyflwyniad i’r adroddiad blynyddol gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn cyflwyno’r cefndir:

‘Mae’r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi bod yn garreg filltir bwysig o safbwynt ein diwygiadau i’r cwricwlwm. Yn y cyfnod byr ers i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno yn y mwyafrif o ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fis Medi diwethaf, rydym eisoes yn dechrau gweld adroddiadau ynghylch rhai o’r buddiannau rydym yn disgwyl i’r cwricwlwm newydd eu cynnig. Megis dechrau mae’r gwaith o hyd, ond mae rhai arwyddion cynnar a chalonogol.
ae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn rhoi amlinelliad o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn ein system addysg, meysydd y mae angen canolbwyntio mwy arnynt, a blaenoriaethau ar gyfer cymorth ar drothwy blwyddyn academaidd 2023 i 2024; blwyddyn pan fydd pob ysgol a lleoliad yn defnyddio’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ddolenni a gwybodaeth ychwanegol er mwyn helpu i ddwyn rhai o’r agweddau allweddol ar ein diwygiadau ynghyd, a’r modd y maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau gyda’n gilydd.
Rwy’n cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i staff mewn ysgolion a lleoliadau gyda chyfyngiadau cyllidebol, yn ogystal â phwysau llesiant ar ymarferwyr a dysgwyr yn dod i’r amlwg ar ffurf gweithredu diwydiannol a lefelau presenoldeb is. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi maint y dasg a’r gwaith sydd i’w wneud o hyd. Mae’n glir i mi fod angen cefnogaeth gan y llywodraeth a chefnogaeth gan sefydliadau rhanddeiliaid amrywiol er mwyn diwygio’r cwricwlwm.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ysgolion a’r lleoliadau a welais yn defnyddio’r diwygiadau i’r cwricwlwm fel sbardun i ganolbwyntio mwy ar anghenion eu dysgwyr a’u cymunedau penodol wedi creu argraff fawr arnaf. Drwy’r pwyslais hwn, a thrwy weithio mewn clystyrau a thrwy Gymru gyfan, rydym i gyd yn codi dyheadau a safonau dysgu. Mae Estyn yn gweld cynnydd da ar y cyfan, ac mae gwaith ymchwil ar fewnwelediadau cynnar yn dangos bod arweinwyr ysgolion, ymhlith pethau eraill, yn achub ar y cyfle i wella tegwch a chynhwysiant i’w dysgwyr ac yn sicrhau ar yr un pryd fod diwygiadau ADY yn cael eu rhoi ar waith mor effeithiol â phosibl.
Wrth i mi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2023, rwyf hefyd yn cyhoeddi ein cynllun gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru fel dogfen ar wahân. Bydd y cynllun hwn yn darparu’r gwerthusiad ffurfiannol llawn o brif elfennau’r cwricwlwm sydd ei angen arnom er mwyn asesu beth sydd wedi gweithio, a’n helpu hefyd i wneud gwelliannau yn y dyfodol i’r system gyfan.
Yn sail i’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru bob amser fu datblygu ar y cyd a chydweithio, gan gynnwys drwy ein Rhwydwaith Cenedlaethol. Ni all system hunanwella a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd weithio heb gydweithio. Wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd, mae’n hollbwysig o hyd ein bod ni a’n partneriaid yn rhoi’r lle, yr amser a’r cymorth i staff ysgolion weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r cwricwla gorau ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc i gyd.
Rwyf wrth fy modd â’r cynnydd y mae ysgolion a lleoliadau wedi’i wneud hyd yma a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl staff ein system addysg am eu hymdrech ddiwyro i wella profiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc i gyd.’
Gweler hefyd: Datganiad Llafar: Cynnydd ar gyflwyno’r cwricwlwm newydd (11 Gorffennaf 2023) | LLYW.CYMRU