Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar newidiadau i ‘werthuso, gwella ac atebolrwydd’ a fydd yn cefnogi’r cwricwlwm newydd.

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Ystyrir bod system atebolrwydd ddiwygiedig a fframwaith ar gyfer gwella ysgolion yn hanfodol er mwyn gwireddu’r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus mewn ysgolion.

Nawr, ar ôl trafod a modelu’n helaeth gyda phenaethiaid, consortia addysg ac eraill, mae canllawiau gwella ysgolion newydd wedi’u rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad.

Nod y canllawiau drafft newydd yw:

• cryfhau effeithiolrwydd hunanarfarnu ysgolion a chynllunio gwelliant

• disodli’r system gategoreiddio genedlaethol â phroses gymorth nad yw’n cynnwys cyhoeddi categorïau ysgolion

• egluro sut y bydd gweithgareddau gwerthuso a gwella ar wahân i’r system atebolrwydd

• pennu rolau a chyfrifoldebau pob cyfrannwr yn glir i’r system hunan-wella

Mae hon yn garreg filltir bwysig ar daith Cymru i ddiwygio addysg, sy’n arwyddocaol iawn i’r rhai sy’n dechrau gweithio gyda’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.

Croesewir safbwyntiau; mae’r ymgynghoriad yn para tan 15fed Mawrth 2021.

Gadael ymateb