Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Cynllun Gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Heddiw, cyhoeddais Gynllun Gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru – carreg filltir yn ein rhaglen ddiwygio, a cham pwysig ar y daith tuag at wireddu’n Cwricwlwm gweddnewidiol i Gymru. Rwyf am roi syniad i chi o’r hyn sydd yn y Cynllun Gweithredu, a pham ein bod yn ei gyhoeddi nawr.

Ond, cyn i mi gychwyn ar hynny, rwyf am roi gwybod i ymarferwyr fy mod yn deall y cyd-destun sy’n gefndir i’r hyn sy’n cael ei drafod heddiw. Gwn fod pawb yn y gweithlu addysg yn parhau i fod o dan bwysau real a pharhaus, yn gweithio mewn amgylchiadau anghyffredin er mwyn dal ati i wneud y gorau dros ddysgwyr. Diolch i chi i gyd am eich gwytnwch a’ch hyblygrwydd parhaus.

Fe gofiwch, ym mis Hydref, ein bod wedi cyhoeddi Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022. Canllawiau yw’r rhain i helpu gyda’r gwaith o gynllunio gweithgareddau i ddatblygu’r cwricwlwm yn y cyfnod cyn gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Ysgolion Cynradd a dysgwyr Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn adeiladu ar hynny. Mae’n nodi beth fydd Llywodraeth Cymru, y Consortia Addysg, Awdurdodau Lleol ac Estyn yn ei wneud i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth i ni symud at y cwricwlwm newydd gyda’n gilydd. Mae’n cynnwys rolau a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir, gyda chamau gweithredu ar gyfer pob un o’r partneriaid hynny, fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan bob rhan o’r system ehangach yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.

Yn ogystal a nodi beth ydym yn ei wneud, mae’r cynllun hefyd yn esbonio sut y byddwn yn cydweithio er mwyn cyrraedd y nod – mae hynny’n golygu ein bod ni, yn y llywodraeth a’r haen ganol, yn ymrwymo i ddefnyddio’r un ffyrdd o weithio â’r rhai yr ydym yn eu nodi ar gyfer ysgolion a lleoliadau yn y daith i 2022. I mi, y rhan bwysicaf o hyn yw ehangu ac ychwanegu at y broses o ddatblygu ar y cyd sydd wedi caniatáu i ni greu Cwricwlwm i Gymru, am Gymru a chan Gymru.  

Dyna pam mae’r cynllun gweithredu yn nodi ein cynlluniau i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol i ymarferwyr a rhanddeiliaid eleni, ynghyd â rhai o’r heriau y bydd angen i’r rhwydwaith ei ystyried. Rwyf am i holl ymarferwyr Cymru gael cyfle i ddod ynghyd gydag arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach i rannu dealltwriaeth, ysgogi newid a llunio atebion ar y cyd i ddatrys yr heriau sy’n ein hwynebu.

Yn olaf, mae’r cynllun yn nodi ein dyheadau ar gyfer cymdeithas yng Nghymru y bydd y pedwar diben yn helpu i’w gwireddu. Mae hefyd yn nodi rhaglen werthuso glir a hirdymor, a fydd yn caniatáu i ni weld a ydym ar y trywydd iawn i wireddu’r nodau hyn.

Gwn ein bod yn wynebu cyfnod o ansicrwydd parhaus yn ein bywyd o ddydd i ddydd oherwydd y pandemig, ac mae’n anodd iawn gweld llwybr clir i’r dyfodol, sy’n gwireddu ein huchelgais ar gyfer y cwricwlwm newydd. O gofio hynny, felly, rwy’n eich sicrhau nad wyf yn disgwyl i ysgolion a lleoliadau ddechrau ymgymryd a’r Cynllun Gweithredu yn syth.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi ein uchelgais hirdymor, ond ar hyn o bryd, rhaid i ni ganolbwyntio ar wneud ein gorau dros ein dysgwyr yn y cyfnod hwn, gan geisio adfer y dysgu a gollwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Er mwyn bodloni’r blaenoriaethau uniongyrchol hyn, bydd cynllun dysgu o bell yn ei le i egluro’r disgwyliadau a’r gofynion mewn perthynas â dysgu o bell a dull cyfunol o ddysgu. Byddwn, gyda’n rhanddeiliaid, yn datblygu cynllun adfer dysgu – sef y camau y byddwn ni’n eu cymryd i helpu’r holl ddysgwyr i symud ymlaen ar eu llwybr dysgu, a’r cymorth penodol y byddwn yn ei roi yn ei le ar gyfer y grwpiau dysgu hynny sydd wedi bod o dan yr anfantais fwyaf yn sgil y pandemig, gan gynnwys y rheini sydd mewn blwyddyn sy’n sefyll arholiad.

Pan fyddwn yn gadarn ar y ffordd tuag at adferiad, gallwn symud drachefn tuag at y gwaith diwygio. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd gennym nawr i gefnogi’r gwaith o adfer dysgu yn mynd i’n helpu i gyrraedd man lle gallwn ddechrau rhoi’r cynllun gweithredu ar waith, er mwyn gwireddu’r freuddwyd o gwricwlwm gweddnewidiol.

Kirsty Williams A.S.

Y Gweinidog Addysg.

Gadael ymateb