Neidio i'r prif gynnwy

Cwricwlwm i Gymru – Chwalu’r Mythau, Rhan 2

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Myth buster image cymYn dilyn ein blogiad blaenorol, dyma fwy o gamddealltwriaethau a mythau am y cwricwlwm newydd drafft i Gymru. Bydd rhai’n ymwneud â rhannau o’r cwricwlwm a fydd yn newid yn sgil yr adborth rydym eisoes wedi’i dderbyn, ond dyma’n hymatebion fel y mae pethau ar hyn o bryd.

Myth #1 – Dim ond y Cwricwlwm sy’n newid

Er mai diwygio’r cwricwlwm sydd wedi cael y rhan fwyaf o’r cyhoeddusrwydd, rhaid cofio bod y newidiadau i’r cwricwlwm yn dod o fewn cyfres ehangach o ddiwygiadau, sydd â’r nod o sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei wireddu mewn ysgolion a bod y diwygio’n digwydd mewn ffordd gydlynol, ac ar sail athroniaeth gyson, gref. Mewn gwledydd sydd wedi diwygio addysg yn llwyddiannus, mae ymagwedd holistaidd wedi’i defnyddio i gefnogi newid, gan roi amser a lle i wireddu’r newidiadau, ar draws y system.

Felly mae’r diwygiadau i’r cwricwlwm yn cael eu hategu gan nifer o newidiadau i’r system:

  • Newidiadau i’r system atebolrwydd. Bydd yn ffordd lai ‘llym’ o sicrhau atebolrwydd – bydd mwy o bwyslais ar ysgolion yn hunanwerthuso a hunanwella a darparu dysgu proffesiynol mewn ysgolion.
  • Seibiant o ran arolygu (2020-2021). Bydd hyn yn rhoi amser i Estyn feddwl am ymgysylltiad ysgol â fframwaith y cwricwlwm newydd a’r ffordd y mae’n ei ddatblygu i gychwyn. Bydd hyn yna’n sail ar gyfer arolygu yn y dyfodol.
  • Y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cenedlaethol, a fydd yn darparu mwy o gyfleoedd i ymarferwyr wneud dysgu proffesiynol, a fydd yn cael ei ddarparu gan y rhanbarthau a chan sefydliadau addysg uwch (gan gynnwys opsiynau i ddilyn llwybrau achrededig).
  • Safonau proffesiynol ar gyfer a Addysgu ac Arweinyddiaeth, a fydd yn ffocysu (o ran ymarferwyr mewn rôl arwain ffurfiol ac o ran ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth) ar ddatblygu addysgeg effeithiol, dysgu proffesiynol ac arloesi, i gefnogi’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.
  • Yr ymagwedd ‘ ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu’. Mae hyn yn helpu ysgolion i werthuso eu sefyllfa fel sefydliad sy’n dysgu a chanolbwyntio ar gynllunio gwella’n seiliedig ar y 7 dimensiwn, gyda phob un yn bwysig i wireddu’r cwricwlwm newydd.
  • Newidiadau i addysg gychwynnol athrawon i sicrhau bod newydd-ddyfodiaid wedi’u paratoi i ddarparu’r cwricwlwm newydd.
  • Adolygiad ac ymgynghoriad ar gymwysterau gan Gymwysterau Cymru er mwyn datblygu cymwysterau sy’n dilyn yn naturiol o’r fframwaith Cwricwlwm i Gymru 2022.
  • Diwygio anghenion dysgu ychwanegol

Myth #2 – Ni fydd addysg gorfforol na chwaraeon cystadleuol yn y cwricwlwm newydd

Mae iechyd corfforol yn rhan o’r MDaPh Iechyd a Lles. Un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y MDaPh hwn yw bod “datblygu iechyd a lles corfforol” yn fuddiol drwy oes rhywun. Eir ymlaen i bwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch corfforol rheolaidd.

sports - children.jpg

Mae’r deilliannau cyflawniad ar gyfer yr hyn sy’n bwysig yn y maes hwn yn cyfeirio’n glir at weithgaredd corfforol a chwaraeon. Daw’r dyfyniad hwn o’r deilliannau cyflawniad drafft yng ngham cynnydd 5:

Gallaf werthfawrogi’r buddiannau a ddaw o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cyson ac mae gennyf ddigon o hunangymhelliant i wneud hynny. Gallaf fynd ati’n annibynnol i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu fy arbenigedd mewn gweithgaredd corfforol, chwaraeon ac iechyd corfforol.

Mae rhai wedi sylwi mai dim ond un datganiad o’r hyn sy’n bwysig mewn un MDaPh yw gweithgaredd corfforol. Ond penderfyniad yr ysgol yw faint o amser a roddir i bob MDaPh – nid y cwricwlwm sy’n penderfynu hyn. (Cofiwch hefyd fod dawns yn faes pwnc yn MDaPh y Celfyddydau Mynegiannol.)

Myth #3 – Dylai dysgwyr hŷn ddilyn addysgeg ar gyfer y cyfnod sylfaen (gan gynnwys darpariaeth barhaus a darpariaeth ddatblygedig)

Mae Pennod 5 o Ddyfodol Llwyddiannus yn nodi 12 egwyddor o ran addysgeg sy’n sail i’r cwricwlwm newydd. Egwyddorion eang yw’r rhain, sydd wedi’u dylunio i gefnogi ysgolion i lunio eu cwricwlwm a datblygu addysgeg. Beth sy’n hollol eglur yw y dylai athrawon archwilio amrywiaeth o ymagweddau o ran addysgeg.

Foundation Phase Action Plan - Typesetting - group of children with teac.._.jpgDywedodd Graham Donaldson y dylai’r cwricwlwm adeiladu ar gryfderau’r Cyfnod Sylfaen, ond nid yw hyn yn golygu y dylid ailadrodd ymarferion y cyfnod sylfaen gyda dysgwyr hŷn. Mae’n golygu y gallwn ddysgu gwersi ohono, ond bod angen ystyried dewisiadau addysgeg yn ofalus ar draws y cwricwlwm i ddiwallu anghenion dysgu ac anghenion y meysydd dysgu a phrofiad.

Myth #4 Bydd addysgeg sy’n seiliedig ar ymholiadau a phrosiectau yn dominyddu

Fel y nodir uchod, mae’r cwricwlwm i Gymru’n annog ystod eang o ymagweddau o ran addysgeg.

Mae MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac MDaPh y Dyniaethau yn cynnwys datganiadau o’r hyn sy’n bwysig sy’n gysylltiedig ag ymholi. Ni ddylid drysu’r rhain gyda’r ymagweddau o ran addysgeg – sy’n seiliedig ar ymholi, ond sy’n fwy agored, yn llai strwythuredig. Mae datganiadau o’r hyn sy’n bwysig y Dyniaethau yn ymwneud ag ymholiadau ym maes y Dyniaethau – ymholi am hanes, ymholi am ddaearyddiaeth, am astudiaethau cymdeithasol ac ati. Ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ceir arbrofi, ymchwilio ac ymholi gwyddonol. Ymholi i wybodaeth, sgiliau a phrosesau penodol i faes yw’r fethodoleg sy’n sail i’r meysydd hynny.

 Myth #5 – Rhaid gwneud pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer pob testun, thema neu uned

Wrth galon y myth hwn yw beth yw ‘yr hyn sy’n bwysig’? Dechreuwn drwy ddweud beth nad yden nhw: nid yden nhw’n uned o waith, nid yw’n faes pwnc, nid yw’n rhywbeth ar wahân.

Mae ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ wedi datblygu o’r ymagwedd ‘Syniadau Mawr’ (gweler Yr Arthro Wynne Harlen et al – ‘Big Ideas in Science’). Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn MDaPh yn cynrychioli’r syniadau mawr yn y maes hwnnw – beth yw’r prif syniadau yn y maes dan sylw yr ydym am i’n plant a’n pobl ifanc feddwl amdano? Ond maent yn fwy na hynny – dyma’r pethau sydd o bwys i bobl ifanc yng Nghymru, y pethau sy’n cyfrannu at ddatblygu’r Pedwar Diben.

Felly: ‘yr Hyn sy’n Bwysig’, ynghyd â’r Pedwar Diben, yw’r man cychwyn ar gyfer dylunio’r cwricwlwm. Dylai dysgwyr gael cwricwlwm sy’n eu galluogi i wneud cynnydd o ran pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar bob cam cynnydd. Mae pob cam cynnydd yn 2-3 blynedd, felly nid oes angen bod wrthi’n datblygu pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig o hyd.

Myth #6 – Ni fydd angen inni ddefnyddio’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd na’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gan y bydd popeth yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd.

DCF full image pupilMae Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn gyfrifoldebau trawsgwricwlaidd yn y cwricwlwm newydd. Maent felly’n rhan o gyfrifoldebau pob athro, athrawes a staff cymorth, a hynny ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar hyn o bryd yn cael ei diweddaru i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Bydd y ddau’n parhau fel canllawiau anstatudol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm cyfan. Felly, rhaid rhoi sylw dyledus i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn nyluniad y cwricwlwm ysgol ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

Myth #7 – Y ‘deilliannau cyflawniad’ yw ein ‘lefelau’ newydd

Mae deilliannau cyflawniad yn wahanol i lefelau. Maent yn cynrychioli’r dysgu hanfodol y mae’n rhaid ei wneud yn y gwahanol gyfeirbwyntiau, ni ddylid eu defnyddio fel rhestr dicio neu fodel. Dylent fod yn sail i ddylunio cwricwlwm a datblygu darlun cywir o sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar draws y meysydd dysgu a phrofiad a’r pedwar Diben. Disgrifiadau o ddysgu yw deilliannau dysgu – dylent fod yn ffurfiannol, gan bennu ble mae angen cymorth ar ddysgwyr a beth y dylent ei wneud nesaf. Dylai ymarferwyr gyfeirio’n ôl atynt yn rheolaidd wrth gynllunio’r cwricwlwm ac asesu.

 I gloi…

Bydd llwyddiant y cwricwlwm hwn, neu unrhyw gwricwlwm, yn ddibynnol ar allu athrawon i ymgysylltu â’r fframwaith cwricwlaidd, ei ddeall, a gwneud synnwyr ohono… a’i roi ar waith yn eu harferion. Bydd gofyn am arweinwyr yn y system, o fewn ysgolion, o fewn consortia rhanbarthol a sefydliadau addysg bellach i wneud hyn ac i greu diwylliant a fydd yn cefnogi athrawon i ymwneud â’r cwricwlwm newydd. Bydd angen amser ar athrawon, bydd hefyd angen mynediad cyfleus at ddysgu proffesiynol, a rhwydweithiau cymorth a chefnogaeth er mwyn deall goblygiadau’r cwricwlwm newydd i ddysgwyr. Mae hyn yn dechrau gyda negeseuon clir ac ymgysylltu beirniadol am ddiben, cynnwys, ac arwyddocâd Cwricwlwm i Gymru.

Post gan James Kent, Nicky Hagendyk a Daniel Davies (Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg  I Dde Ddwyrain Cymru)

Gadael ymateb