Neidio i'r prif gynnwy

Ein taith i greu’r cynigion Asesu – a pham y mae eich adborth yn bwysig

Read this page in English

Blog - Dilwyn for Assesment item (2)‘Mae pob math o newid yn anodd ar y dechrau, yn anniben yn y canol ac yn hyfryd ar y diwedd.’ (Dienw, neu efallai fy mod wedi bathu hyn fy hun).

Mae’r dyfyniad hwn yn adlewyrchiad cywir o’r profiad o weithio yn y grŵp asesu a oedd â’r dasg o gynllunio cynigion asesu sy’n cyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.

Roedd ein dull gweithredu yn cynnwys lefel uchel o drafodaeth broffesiynol ac yn cynnig cyfleoedd i’r holl randdeiliaid rannu eu barn drwy ddulliau ymgysylltu ystyrlon gyda chyfraniadau gan arbenigwyr yn eu maes. Roedd canolbwyntio ar y dysgwr a phwyslais ar y pedwar diben yn rhan flaenllaw o’n ffordd o feddwl yn gyson.

Gan ddilyn yr argymhellion yn adroddiad Dyfodol Llwyddiannus, rydym yn cynnig y dylid rhoi blaenoriaeth i ddulliau asesu ffurfiannol sy’n hyrwyddo system sydd â’r brif nod o gynhyrchu gwybodaeth at ddefnydd mewnol athrawon am gynnydd disgyblion a’r camau nesaf yn eu dysgu. Gwybodaeth a fydd yn helpu’r disgyblion i wella.

Gallwch weld y cynigion llawn yma.

Mae’n arbennig o arwyddocaol na fydd yr asesu’n gysylltiedig ag atebolrwydd. Mae asesu yn broses gymhleth sy’n seiliedig ar y gydberthynas rhwng y disgybl a’r athro. Ni all fod yn fetrig rhifiadol alffa a allai ddod yn fesur procsi pwysig o effeithiolrwydd athro, pennaeth neu ysgol. Mae angen dileu asesu o’r dirwedd wleidyddol er mwyn caniatáu i ddysgu ffynnu; mae’n golygu y bydd asesu’n broses barhaus a all bellach fod yn wirioneddol rhagweithiol.

Yn nhermau cymedroli (sicrhau cywirdeb a chysondeb), mae athrawon, yn enwedig y rhai hynny sy’n addysgu dosbarthiadau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol a’r rhai hynny mewn ysgolion bach, yn gwybod yn dda fod angen gwneud newidiadau i’r system bresennol gan ei bod yn peri straen ar amser ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, mae wedi bod yn fforwm gwerthfawr i ddeialog proffesiynol a rhannu enghreifftiau o waith dysgwyr. Bydd newid yn gofyn am symud meddylfryd o fodel ‘ffit orau’ i edrych ar ehangder a dyfnder y dysgu yng nghyd-destun y gwaith er mwyn llunio barn gyfannol ar gynnydd dysgu ar draws y pedwar Diben.

Nawr bod ein cynigion ar gael i’r holl ymarferwyr, mae’n bwysig eu cwestiynu a’u herio. Mae ein grŵp yn dal i fod yn awyddus i gael barn ymarferwyr ar y meysydd hyn a rhai meysydd eraill, fel y ffordd y gellid adrodd i rieni. Mae’r potensial sydd gennych fel athrawon ac arweinwyr i arwain y gwaith o fireinio Cwricwlwm i Gymru ac ymgysylltu ag ef mewn amser real yn fawr.

Wrth edrych i’r dyfodol, yn y dosbarth y byddwn yn symud ymlaen o gwricwlwm drafft i’r cwricwlwm a weithredwyd, ac rwy’n hyderus yng nghreadigrwydd athrawon ac arweinwyr Cymru. Yn y pen draw, mewn ysgolion y daw llwyddiant Cwricwlwm i Gymru i’r amlwg.

Felly, rwy’n eich annog i ddefnyddio’ch profiad a’ch arbenigedd i helpu i lunio Cwricwlwm i Gymru, edrych ar y cynigion asesu heb ystyried sut y cawsant eu llunio yn y gorffennol, a rhoi adborth. Rwy’n amau’n fawr y caiff ein cenhedlaeth ni na’r genhedlaeth nesaf o athrawon y lefel hon o ryddid yn ein hamgylchedd proffesiynol eto.
Mae gennym ddyletswydd i’n proffesiwn ac, yn bennaf, i’n plant i achub ar y cyfle hwn i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cwricwlwm o’r radd flaenaf, a luniwyd ar y cyd, i Gymru.

Dilwyn Jones, Pennaeth, Ysgol Bryn Gwalia, Mold

Gadael ymateb