Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ffilm fer newydd yn dathlu cynnwys llythrennedd ariannol yn rhan o’r cwricwlwm newydd.
Cyfrannodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol dystiolaeth o waith ymchwil a wnaed i’r ysgolion arloesi a oedd yn gweithio ar ddatblygu’r cwricwlwm newydd ac mae wrth ei fodd o weld bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys addysg ariannol yn rhan o’r cwricwlwm.
(O 1 Ionawr 2019, mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi dod yn rhan o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau.)