Darllenwch y dudalen hon yn saesneg
Fis diwetha’, fe wrandawais ar ddadl ar Radio 4 am addysg y celfyddydau yn Lloegr.
Doedd y drafodaeth boenus am greadigrwydd fel sgil allweddol yn economi’r dyfodol a’r ffaith bod angen i bobl ifanc fod yn hyblyg mewn marchnad waith sy’n newid mor gyflym, ddim yn adlewyrchu’n dda ar y sefyllfa yn Lloegr.
Nid ysgrifennu hyn er mwyn ychwanegu at y feirniadaeth o’n annwyl gymdogion ydw i. Ond ni allai’r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o beth fod ddim amlycach. I mi, gellid disgrifio’r ddadl fel dathliad o’r llwybr ry’n ni wedi dewis ei ddilyn gyda’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Ry’n ni’n datblygu cwricwlwm ar gyfer y byd go iawn a fydd yn gymorth i’n pobl ifanc ni ddatblygu yn y celfyddydau mynegiannol. Byddant yn dysgu trwy brofiadau, yn ennill sgiliau ac yn derbyn gwybodaeth o dan arweiniad proffesiwn sydd â mwy o ryddid nawr nag ar unrhyw adeg yn y 30 mlynedd ddiwetha’ i addasu eu dulliau addysgu i weddi i anghenion disgyblion.
Ac mae hynny’n wir am bob rhan o’r cwricwlwm, nid dim ond y celfyddydau mynegiannol.
Yn bendant, bydd angen cyfnod o ail-ddysgu a diweddaru arnom ni i gyd fel ymarferwyr addysgol. Ond rwy’n teimlo y bydd modd cyfiawnhau’r buddsoddiad hwnnw’n llwyr a llawn o weld y budd amlwg i’r dysgwyr – ac i ni.
Diolch i chi am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad yn ystod 2018. Mwynhewch y Nadolig a gobeithio y cewch gyfle i ymlacio.
Steve Davies, Cyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth Addysg