Neidio i'r prif gynnwy

Deall ‘dilyniant’ yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd

Read this page in English

CAMAU resized picMae Athrofa Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cydweithio’n llwyddiannus â nifer o sefydliadau.
Un o’i brosiectau cydweithredol mwyaf arwyddocaol yw’r un sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Glasgow, ar ran Llywodraeth Cymru.

Gan adeiladu ar gryfderau ein partneriaeth strategol a chydweithio’n agos â’r rhwydwaith o ysgolion arloesi, mae prosiect CAMAU yn ceisio meithrin dealltwriaeth a rennir o ‘ddilyniant’ yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.


Mae’r cysyniad o ddilyniant wedi’i ymgorffori yng nglasbrint Donaldson ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac mae’n cefnogi’r ddealltwriaeth mai taith yw’r broses o ddysgu i blant, gyda gwyriadau, adegau o aros yn yr unfan ac adegau o ddatblygu’n gyflymach, yn hytrach na’i bod yn broses linol.

Gellir ystyried dilyniant drwy nodi ‘Cyfeirbwyntiau Dilyniant’ y bydd plant yn eu cyrraedd wrth brofi’r cwricwlwm.

Mae CAMAU yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod dysgwyr yn gallu defnyddio ‘mapiau llwybr’ sy’n seiliedig ar wybodaeth dda i’w tywys ar hyd y daith er mwyn iddynt wneud cynnydd yn eu dysgu, yn enwedig mewn cyd-destunau sy’n wahanol iawn i’n gorffennol a’n presennol.

Fel y cyfryw, nod CAMAU, drwy weithio ar y cyd ag eraill, yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu fframweithiau dilyniant – neu fapiau llwybr – ar gyfer pobl ifanc Cymru yn ystod cyfnod o newid sylweddol.

Mae continwwm dysgu pob plentyn yn gweithredu fel taith drwy’r cwricwlwm; bydd y map llwybr yn gyffredin i bob dysgwr, ond dylai’r daith hon ddarparu ar gyfer cyflymder gwahanol, dargyfeirio, ailadrodd a myfyrio, fel sy’n briodol, er mwyn i bob unigolyn wneud cynnydd wrth ddysgu.

Felly, mae mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion ac athrawon i sicrhau bod y broses ddysgu yn canolbwyntio ar y plentyn, gan fod manylion a chyflymder pob taith yn cael eu pennu yn unol â gofynion y dysgwr, er mwyn sicrhau bod proses ddysgu heriol, cynaliadwy ac effeithiol yn mynd rhagddi.

Wrth i blant a phobl ifanc symud drwy’r system addysg yng Nghymru, mae’n bwysig nad ystyrir eu bod yn anelu tuag at y pedwar diben. Yn hytrach, dylid ystyried eu bod yn byw yn unol â’r pedwar diben yn ystod eu hamser yn yr ysgol.

Mae cam cyntaf y prosiect, a ariennir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar ddatblygu fframweithiau dilyniant seiliedig ar dystiolaeth ar y cyd.

Cynlluniwyd yr ail gam i adolygu’r broses o dreialu’r fframweithiau dilyniant drafft a dysgu ohoni, a bydd y trydydd cam yn pennu’r trefniadau hyn yn derfynol.

Ar bob cam o’r prosiect, bydd athrawon, disgyblion, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr yn cyflawni rôl cydymchwilwyr gan rannu’r nod o ddatblygu cwricwlwm, addysgeg a threfniadau asesu o safon i Gymru sy’n seiliedig ar wybodaeth dda.

Caiff y fframweithiau eu cynllunio gan y proffesiwn ac ar ei gyfer ac, o’r cychwyn, cânt eu cynllunio mewn modd sy’n sicrhau eu bod yn gwbl gynhwysol ac yn ystyried pob dysgwr.

Gan ddefnyddio gwahanol fathau o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i ystyried sut y gellid disgrifio a datblygu dilyniant orau mewn perthynas â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, mae gan CAMAU rôl bwysig i’w chyflawni yn y broses o greu ein cwricwlwm cenedlaethol newydd.

Ond mae ei waith yn gyfuniad o lafur llawer o gydweithredwyr, ac rydym yn ddyledus i bob un ohonynt sydd wedi ymuno â ni ar y daith hon.

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn edrych ar y dulliau gweithredu rhyngwladol diweddaraf ac arfer da o Gymru er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio, datblygu a chyflawni gwaith CAMAU.

Mae Dyfodol Llwyddiannus yn torri tir newydd ac nid oes model yn bodoli eisoes ar gyfer diwygio’r cwricwlwm i’r un graddau â’r hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i ffurfio system addysg, sydd â dilyniant dysgwyr yn ganolog iddi, y gall pob un ohonom fod yn wirioneddol falch ohoni.

• Yr Athro Dylan Jones a Dr Jane Waters, Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gadael ymateb