Gwyliwch yr adroddiad newyddion rhyfeddol hwn i gael gwybod popeth sydd ei angen arnoch.
Crewyd yr adroddiad gan ddisgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Bryn Deri yng Nghaerdydd a enillodd gystadleuaeth ‘Senedd Disgyblion’ gyda LitFilmFest ac A Tale Unfolds.
Aeth y disgyblion ati i ymchwilio, sgriptio a ffilmio adroddiad newyddion am y newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm yng Nghymru, gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau. Cyfrannodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru, at eu gwaith ymchwil drwy ymweld â’r ysgol i ateb cwestiynau.
Gwobr y disgyblion oedd diwrnod o ffilmio eu hadroddiad newyddion buddugol yn broffesiynol, profiad y gwnaethant eu fwynhau’n aruthrol, fel y gwelwch.
Gyda diolch i ddisgyblion Ysgol Gynradd Bryn Deri a Mark Eldridge, athro dosbarth Bl5 a wnaeth eu cefnogi gyda’u prosiect.