Yn sgil yr holl newidiadau sy’n digwydd mewn addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n bwysig rhoi sicrwydd i athrawon a rhanddeiliaid eraill fod dealltwriaeth ar y cyd ar draws y system. Mae Estyn yn cefnogi diwygio’r cwricwlwm yn llawn, gan gydweithio ag ysgolion, Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, a phartneriaid eraill i’r un perwyl.
Cyfraniadau cynnar
Fe wnaeth ein cysylltiad cynnar â diwygio’r cwricwlwm, trwy weithio gyda’r Athro Donaldson yn 2015, helpu i nodi’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella yn system addysg Cymru. Fe wnaeth helpu i ni ddeall cyfeiriad datblygiadau yn y dyfodol hefyd.
Mae diwygio ein cylch arolygu o chwech i saith mlynedd wedi helpu cefnogi datblygu’r cwricwlwm hefyd. Roedd y newid hwn gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd yn cydnabod yn rhannol yr amser ychwanegol fyddai ei angen ar ysgolion i ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Rhyddhawyd amser hefyd i arolygwyr gyfrannu eu harbenigedd a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau diwygio’r cwricwlwm.
Cefnogi ysgolion
Mae cydweithio ag athrawon a phartneriaid eraill i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn rhan bwysig o’r ffordd rydym yn gweithio. Gallwch weld rhai o’r gwahanol ffyrdd yr ydym yn cefnogi diwygio’r cwricwlwm isod.
Bydd Estyn bob amser yn edrych yn gadarnhaol ar ysgolion y mae lles dysgwyr wrth wraidd datblygu eu cwricwlwm. Rydym wedi ail-bwysleisio hyn yn ein harweiniad arolygu a’n fframwaith arolygu newydd a ddechreuodd ym Medi 2017. Rydym wedi cyfleu ein dull o ddiwygio’r cwricwlwm trwy lawer o gyfryngau.
Chwilio am arloesedd
Rydym am i ysgolion wybod na ddylent chwarae’n saff ar draul arloesedd. Nid oes gan arolygwyr syniadau wedi’u pennu ymlaen llaw am sut beth ddylai’r cwricwlwm fod na beth ddylai ysgolion ei wneud. Nid ydym yn disgwyl gweld dull penodol o addysgu a dysgu. Edrychwn ymlaen at weld sut mae ysgolion yn arfarnu eu cwricwlwm a rhoi cynnig ar ddulliau a syniadau newydd, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r fframwaith arolygu newydd yn canolbwyntio’n gryf ar addysgu a phrofiadau dysgu, arwain newid, a dysgu proffesiynol. Mae arolygwyr yn ystyried sut mae ysgolion yn datblygu dysgwyr gydag agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu.
Trwy ein harolygiadau, gallwn gasglu tystiolaeth am y modd y mae ysgolion yn mynd ati i ddiwygio’r cwricwlwm, cryfderau eu gwaith, yn ogystal â heriau cychwynnol. Gan fod nifer fawr o’n harolygwyr yn cymryd rhan mewn diwygio’r cwricwlwm, gall Estyn gael persbectif eang a darparu adborth amser real am yr hyn sy’n digwydd.
Arfer dda
Hyd yma, un o’r pethau sy’n ein taro am lawer o’n hysgolion arloesi yw eu hagwedd gadarnhaol at ddiwygio, a’u hymrwymiad i gefnogi dysgu proffesiynol eu staff hefyd. Rydym wedi gweld ysgolion fel Ysgol Cynwyd Sant yn gwneud cynnydd da wrth gynllunio’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac mae Ysgol Arbennig Heol Goffa yn creu profiadau dysgu dynamig, difyr a heriol. Ac mae rhaglen gyfoethogi STEM Ysgol Glan-y-Môr wedi cynyddu ymgysylltiad disgyblion, wedi gwella safonau pynciau ac wedi datblygu medrau ehangach disgyblion. Darllenwch ein hastudiaethau achos am fwy o fanylion.
Beth nesaf?
At ei gilydd, mae dealltwriaeth gynyddol o’r cyfleoedd a gyflwynir yn sgil datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ysgolion yn dechrau ystyried sut maent yn arfarnu eu cwricwlwm presennol, sut maent yn creu diwylliant dysgu proffesiynol, a sut mae arweinwyr yn rheoli’r newid sydd ei angen i gyflwyno cwricwlwm sy’n gallu cyflawni’r pedwar diben.
Isod, gallwch weld yr adroddiadau rydym wedi’u cyhoeddi ers y llynedd i gefnogi diwygio’r cwricwlwm, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eleni. Mae ein hadroddiadau thematig 2017 hefyd wedi’u casglu ynghyd mewn un ddogfen hawdd ei darllen.
Ym mis Mai eleni, byddwn yn cynnal dwy gynhadledd ar ddatblygu’r cwricwlwm, ac yn gwahodd ystod o ysgolion cynradd ac uwchradd i rannu eu profiadau o ddiwygio’r cwricwlwm. Cadwch olwg am y cyfle i gofrestru ar gyfer y cynadleddau cenedlaethol hyn.