Argymhellodd ‘Dyfodol Llwyddiannus‘ y dylid cynnal gwerthusiad annibynnol o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r gwerthusiad hwn bellach ar waith, ac yn canolbwyntio ar y strwythur newid i ddechrau.
Bydd cam cyntaf y broses werthuso yn darparu adborth amser real ar sut mae model yr Ysgolion Arloesi yn gweithio wrth ddylunio a datblygu’r cwricwlwm. Mae’r egwyddor sybsidiaredd a gymhwysir yn arloesol ac yn wahanol, ac felly mae’n bwysig deall sut mae’r model yn gweithio ac a oes angen newid unrhyw beth cyn bod y broses weithredu’n dechrau. Arad ac ICF yw’r cwmnïau sy’n cynnal y gwaith.
Bydd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar y prosesau a’r ffactorau rhyngddibynnol ar draws y Model Arloesi – ac yn cynnwys y fframwaith cymhwysedd digidol, cynllunio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu a dysgu proffesiynol. Mae allbynnau’r Ysgolion Arloesi y tu hwnt i’r cylch gwaith hwn.
1. Nod
Nod y gwerthusiad hwn yn darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru o sut mae model yr Ysgolion Arloesi’n gweithio’n ymarferol a sut y gellid ei wella.
2. Cwestiynau ymchwil
Mae’r cwestiynau eang a fydd yn cael eu hateb ar draws y prosiect yn cynnwys y canlynol:
- A yw model yr Ysgolion Arloesi’n gweithio’n effeithiol?
- Pa agweddau ar fodel yr Ysgolion Arloesi sy’n gweithio neu ddim yn gweithio cystal?
- A yw’r cysylltiadau rhwng y partneriaid gwahanol wedi gweithio’n dda (h.y. ysgolion, Consortia Addysg Rhanbarthol, Llywodraeth Cymru ac Estyn?)
- A yw model yr Ysgolion Arloesi’n gweithio’n effeithiol mewn perthynas â datblygu un cwricwlwm ar gyfer y sectorau cyfrwng Cymraeg a Saesneg?
- A yw’r rhwydwaith cyfrwng Cymraeg wedi’i integreiddio’n llawn yng ngwaith gweddill y rhwydwaith?
- A yw’r broses yn effeithiol o ran ymgysylltu a chyfathrebu ag ysgolion heblaw Ysgolion Arloesi, lleoliadau nas cynhelir sy’n darparu’r Cyfnod Sylfaen a cholegau Addysg Bellach?
- Ym marn yr Ysgolion Arloesi, beth sy’n gweithio wrth ddatblygu’r cwricwlwm, pam a sut?
- Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion ym mhob cam o’r broses i gyflawni’r allbwn sydd ei angen o’r cam hwnnw a symud ymlaen i’r cam nesaf?
- Ym mha ffordd y gellir gwella’r broses a’r model?
- Beth yw’r gwersi ar gyfer y dyfodol?
3. Dulliau gweithredu
Wrth i’r gwaith ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol fynd rhagddo’n gyflym, mae cyfle i ddefnyddio’r hyn a ddysgir gan yr Arloeswyr Digidol i lywio’r ffrydiau gwaith Dysgu Proffesiynol a’r Cwricwlwm. Felly, mae pob un o’r Arloeswyr Digidol a’r rhanddeiliaid allweddol a gyfrannodd at y Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn y gwerthusiad drwy gymysgedd o gyfweliadau dros y ffôn ac ymweliadau. Caiff papur byr ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ar y gwersi a ddysgwyd o’r gwaith i ddatblygu’r Fframwaith hwn.
Bydd cam nesaf y gwerthuso yn canolbwyntio’n bennaf ar y prosesau ar gyfer dylunio’r cwricwlwm yn strategol. Bydd hyn yn cynnwys cyfweliadau dros y ffôn gyda 35 Ysgol Arloesi a fydd yn canolbwyntio ar y gweithgarwch cychwynnol, y gwaith cynllunio strategol, digwyddiadau ymsefydlu, y cyfarwyddyd a’r cymorth a ddarparwyd, a’u dealltwriaeth o’u rolau o fewn y broses. Bydd 10 ysgol nad ydynt yn rhan o’r gweithgarwch Arloesi hefyd yn cael eu cyfweld er mwyn deall yn well eu disgwyliadau nhw a’u cyfraniad at y broses. Cynhelir cyfweliadau gyda rhanddeiliaid hefyd.
Bydd y cam olaf yn canolbwyntio ar y gwaith o gynllunio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r broses ar gyfer datblygu deunyddiau ategol. Golyga hyn waith maes gyda 35 Ysgol Arloesi newydd ac ailgysylltu â’r un 35 ysgol a gyfwelwyd yn gynharach. Bydd yn cynnwys cyfweliadau ag uwch-reolwyr sy’n gyfrifol am y cwricwlwm a datblygu proffesiynol, a’r ymarferwyr arweiniol sydd wedi bod yn helpu i ddatblygu’r Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r deunyddiau ategol.
Yn ei gyfanrwydd, bydd y gwaith hwn yn rhoi darlun o effeithiolrwydd model yr Ysgolion Arloesi ac yn darparu casgliadau ac argymhellion ar gyfer parhau i ddatblygu’r cwricwlwm newydd drwy ddefnyddio’r model hwn.
Disgwylir i’r gwerthusiad gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2017 a bydd adroddiadau interim yn cael eu cyhoeddi o fewn y cyfnod hwn.