Mae cysylltedd symudol yn golygu bod modd i mi weithio yn unrhyw le. Ar gyfer y blog hwn rwyf yn fy nghar, mewn cilfan, ar yr A467 ger Parc Dyffryn, Blaenau Gwent. Mae’r tywydd yn anarferol o gynnes am yr adeg hon o’r flwyddyn, ac rwyf newydd gael y pleser o ymweld ag ysgol gynradd leol i gasglu adborth hollbwysig.
Mae hyn wedi bod yn weithgaredd cyffredin ers cael fy mhenodi’n arweinydd strategol Dysgu yn yr 21ain Ganrif gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS).
Rwy’n ymweld â chynifer o ysgolion ag y gallaf, yn ceisio rhoi enwau ac wynebau at ei gilydd, yn cynnig cyngor a chymorth ynghylch defnyddio HWB a diogelwch ar-lein. Ond yn bwysicaf oll, rwy’n ceisio darganfod beth mae ysgolion yn ei wneud gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy gasglu adborth gwerthfawr.
Sut maent yn ymgyfarwyddo â’r Fframwaith? Beth maent wedi rhoi cynnig arno hyd yma? Beth yw barn staff, llywodraethwyr a rhieni? Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio, a pham?
Gwnaeth yr Arloeswyr Digidol waith anhygoel y llynedd yn creu’r Fframwaith o ddim. Caiff eu dull o weithio, sef hyrddiau byr gydag adborth penodol yn arwain at iteriad nesaf y Fframwaith, ei ddangos yn niagram ‘troelli’ gwych Sonny Singh. Mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad #54 yr Athro Donaldson – gweithio hyblyg. Roedd y pwyslais ar adborth yn hollbwysig.
Gofynnwyd i mi sawl tro gan ysgolion pryd y byddant yn cael fersiwn derfynol y Fframwaith. Yr ateb? Nid oes fersiwn derfynol, yn hytrach ceir gwelliannau i iteriadau. Fersiwn 1.0, fersiwn 1.1 a fersiwn 1.2. Mae pob diweddariad yn seiliedig ar adborth o’r un blaenorol.
Rwy’n gweld llawer o arfer creadigol a llawn dychymyg mewn ysgolion. Mae athrawon wedi’u cyffroi gan y cyfle i fod yn rhan o ddatblygu cwricwlwm newydd.
Pan gyrhaeddais yr ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent, cefais fy synnu gan arddangosfa fawr yn yr ystafell gyfarfod. Roedd yn ymwneud â Dyfodol Llwyddiannus, gan egluro sut mae’r ysgol yn rhoi cynnig ar ddulliau newydd o gyflwyno’r cwricwlwm er mwyn rhannu canfyddiadau â’r grŵp arloesi ehangach a llywio’r cwricwlwm newydd, o bosibl.
Roedd hyn yn cynnwys defnyddio’r Fframwaith. Penderfynodd yr ysgol mai meddwl cyfrifiadol oedd yn cynnig y cyfle gorau i ddatblygu ei darpariaeth sgiliau meddwl ymhellach. Mewn un gweithgaredd roedd plant yn ysgrifennu cyfarwyddiadau (‘algorithmau’), yn nodi problemau (‘dadfygio’) ac yna’n ailysgrifennu eu halgorithmau, gan greu, yn y pen draw, set o godau ar gyfer gwneud cwpanaid o de. Roedd yn wych gweld plant yn defnyddio’r cylch adborth mor effeithiol.
Bydd iteriad nesaf y Fframwaith yn defnyddio’r un dull gweithredu. Caiff ei lywio gan adborth a ddarparwyd gennych chi, athrawon Cymru.
Sy’n fy atgoffa… Ydych chi wedi rhoi eich adborth eto? Allwch chi ddim methu’r ddolen – y botwm gwyrdd mawr ar wefan y Fframwaith. Cliciwch arno a rhowch eich barn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfrannu at Fframwaith 1.1.
– Andrew Rothwell