Mae gwaith ar y gweill yng Nghymru i ddiwygio’r cwricwlwm yn helaeth am y tro cyntaf ers ugain mlynedd. Bydd y cwricwlwm yn un newydd, bydd y gwaith asesu yn parhau i ddatblygu, ac mae’r ffordd y mae hyn yn digwydd yn wahanol iawn i’r hyn sydd wedi digwydd o’r blaen.
Mae gofyn cryn ymdrech i wneud y gwaith, er ei fod yn digwydd dros sawl blwyddyn. Ond rhaid wynebu’r her yn uniongyrchol os ydym am baratoi ein disgyblion yn y ffordd orau ar gyfer eu bywyd a’u gwaith yn y dyfodol.
Mae’r dull yn un beiddgar, un sydd wedi’i seilio ar brofiad yng Nghymru heddiw ac yn y gorffennol, ac un sydd wedi’i ysbrydoli gan y rhai gorau yn y byd. Mae’n rhoi awenau’r broses ddatblygu yn nwylo’r athrawon, a chânt eu helpu gan arbenigwyr a swyddogion allanol.
Mae’n gam dewr i roi cynllun y cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn nwylo’r bobl a fydd yn eu cyflwyno. Yn enwedig, o ystyried bod y ffordd hon o ddatblygu’r cwricwlwm yn un newydd. Ond eto i gyd, pwy sydd mewn gwell sefyllfa ac yn meddu ar y cymhelliad gorau i wireddu ein huchelgais?
Mae’r nodau y maent yn anelu atynt eisoes wedi’u pennu a’u cymeradwyo yn eang. Roedd fy adolygiad a’m hargymhellion wedi nodi pedwar diben clir ar gyfer addysg ein pobl ifanc. Roedd yn pennu fframwaith o chwe Maes Dysgu a Phrofiad a thri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd – ac y mae un ohonynt yn gyfrifoldeb newydd sy’n adlewyrchu’r byd digidol sydd ohoni heddiw.
Mae rhoi sylw i Gymhwysedd Digidol a’i wneud yn drawsbynciol yn yr un modd â llythrennedd a rhifedd yn gam beiddgar arall – un sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran syniadau newydd yn fyd-eang. Yn bwysicaf oll imi, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol oedd elfen gyntaf y cwricwlwm newydd i’w datblygu, ac roedd ar gael yn union fel a drefnwyd fis diwethaf.
Nid yn unig y mae hyn oll yn torri tir newydd i Gymru, ond mae hefyd yn dangos y gall y model yr ydym wedi’i ddewis i ddatblygu’r cwricwlwm hwn weithio’n dda. Nid yw hynny’n golygu bod y broses wedi bod yn un hawdd, ond mae’r canlyniadau mwyaf llwyddiannus yn aml yn cael eu cyflawni drwy sgiliau, penderfyniad a gwaith caled.
Rwy’n gobeithio y bydd ein hathrawon yn yr ysgolion Arloesi yn bwrw ymlaen ar garlam o hyn allan i gynhyrchu cwricwlwm gwych i Gymru sy’n gallu addasu i anghenion y dyfodol erbyn diwedd 2018 – a’r cwricwlwm hwnnw fydd y sefyllfa wirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru dros y tair blynedd ddilynol. Fel sydd eisoes yn digwydd, mae’n hanfodol eu bod yn gweithio mewn partneriaeth ag athrawon ac ymarferwyr yn gyffredinol o bob ysgol yng Nghymru.
Bydd y diwygiadau ehangach ym maes addysg o ran datblygu arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol, ac addysg gychwynnol i athrawon yn cefnogi’r ymdrech hon, ac rwy’n edrych ymlaen at ddweud mwy amdanynt y tro nesaf rwy’n cyhoeddi eitem ar y Blog hwn.
Ond, am y tro, rwy’n rhoi salîwt i Gymru am ei hysbryd beiddgar, ac yn dymuno pob llwyddiant ichi i gyd.
– Yr Athro Graham Donaldson