Yn fy ngyrfa gyfan, alla i ddim cofio blwyddyn brysurach. Mae wedi bod yn flwyddyn llawn heriau ond gydag ymdeimlad o gryn botensial.
Bydd hyn yn ddigon cyfarwydd i athrawon! Ond nid prysurdeb yw’r unig beth sydd gyda ni’n gyffredin.
Rydym oll yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc – mae hynny’n wir amdanoch chi mewn ffordd uniongyrchol iawn wrth gwrs. Ond mae’n wir am y bobl sy’n gweithio ar ddiwygio addysg hefyd, mewn ffordd ychydig llai uniongyrchol (heblaw eich bod chi’n un o athro arloesi’r cwricwlwm wrth gwrs!) Rydw i’n siŵr, pan ddaw’r cwricwlwm newydd y bydd yn rhoi mwy o ryddid ichi, mwy o rym ichi, i wneud gwahaniaeth.
Mae llawer o bethau cadarnhaol wedi digwydd eleni: mae’r cwricwlwm yn dechrau siapio, mae’r amserlen ar gyfer gweithredu’n gliriach, ac mae holl elfennau’r gwaith diwygio addysg yn dod at ei gilydd yn dda.
Felly, er ein bod ni i gyd yn brysur, gobeithio bod pawb yn cytuno ein bod yn gwneud cynnydd da. Mae’r dyfodol yn ddisglair.
Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’n amser blaenoriaethu pethau personol – ymlacio, gorffwys efallai, mwynhau cwmni’r teulu.
Ond cyn gadael am y gwyliau, gadewch i mi ddiolch o galon ichi am eich gwaith a’r gwahaniaeth gwirioneddol yr ydych yn ei wneud. Yn wir, chi yw’r gwahaniaeth!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda