Mae’r gorchestion gorau’n cychwyn gyda grŵp cadarnhaol o bobl sy’n malio am yr hyn maen nhw’n ei wneud, a phrif gymhelliad y bobl hyn yw gwneud eu gorau glas dros y bobl y maen nhw’n gweithredu ar eu rhan.
Dyna pam y bydd y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru yn llwyddo.
Mae gennym ni ysgolion, arbenigwyr allanol, sylwebyddion cefnogol a grŵp pwrpasol o swyddogion Llywodraeth Cymru, i gyd yn gyrru ymlaen tuag at yr un nod – sef darparu cwricwlwm ysgol gwych ar gyfer holl bobl ifanc Cymru.
Bydd y blog hwn yn helpu i adrodd yr hanes.
Steve Davies – Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg