Neidio i'r prif gynnwy

Credu mewn athrawon, meincnodi yn erbyn y gorau

Read this page in English

KW portrait 1.png

Gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,

Mae’n hysbys iawn bod Michael Gove, enw sy’n gyfarwydd i chi dw i’n siŵr, wedi cwestiynu gwerth dilyn tystiolaeth a gwrando ar “arbenigwyr” unwaith. Dyw hon ddim yn farn dw i’n ei rhannu. Dw i’n credu bod yn rhaid i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud gan lywodraeth fod wedi ei seilio ar dystiolaeth gadarn.

Am ymhell dros ddeng mlynedd, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi bod ar flaen y gad o ran darparu’r dystiolaeth ryngwladol orau sydd ar gael. Dyna pam y cymerais fantais o’r cyfle i ymweld â’u pencadlys nhw ym mis Mehefin.

Gwnaeth cyfres o gyfarfodydd, gydag Andreas Schleicher, Cyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Addysg a Sgiliau’r OECD ac eraill, ategu’r rhesymau pam ei bod yn hollol hanfodol i ni ganolbwyntio ar roi sgiliau ystyrlon ar gyfer byw eu bywydau i’n pobl ifanc, gan gynnwys sgiliau digidol wrth gwrs.

Fel mae Andreas yn ei ddweud: “Yn y gorffennol, hanfod addysg oedd addysgu pobl am rywbeth. Erbyn hyn, hanfod addysg yw helpu myfyrwyr i ddatblygu cwmpawd dibynadwy a’r sgiliau i lywio eu ffordd drwy fyd sy’n mynd yn fwy ansicr, cyfnewidiol ac amwys o hyd.”

Dw i’n awyddus i’n dulliau presennol ni yng Nghymru fod yn gyson â meddylfryd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Gwnaeth fy rhagflaenwyr eu gwahodd nhw i feincnodi’r hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru yn 2014, fel ein bod yn gallu cymharu ein hunain â’r arfer gorau sydd i’w weld yn rhyngwladol. Dyw hi ddim yn ddigon da i gyfyngu ein huchelgais i edrych dros y ffin yn unig, mae angen i ni ymdrechu i fod i fyny yn yr entrychion, gyda’r goreuon yn y byd. Felly, pan wnes i gyfarfod â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gofynnais iddyn nhw fy nghynghori i ynghylch p’un a yw’r strategaethau gorau ar waith gennym nawr, mewn ymateb i’w Hadolygiad nhw yn 2014.

Byddant yn gweld ein diwygiadau’n uniongyrchol pan fyddan nhw’n ymweld y mis nesaf, gan gynnwys y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd, sy’n cael ei arwain gan ein hathrawon. O’m rhan i, mae’r pwynt olaf yna yn hollbwysig; mae’r rhai sydd agosaf at y dasg o roi’r sgiliau sydd eu hangen i’n plant, yn arwain y gwaith datblygu.

Dw i’n gosod fy ffydd mewn athrawon. Dw i’n gwerthfawrogi eu sgiliau a dwi’n frwd dros ddathlu eu proffesiynoldeb a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn gyntaf o ran datblygiadau ac yn cymryd rhan flaenllaw ynddyn nhw.

Y disgwyl yw y bydd y cwricwlwm newydd ar gael yn 2018 ar gyfer ei roi ar waith yn llawn erbyn 2021, a dw i’n argyhoeddedig y bydd yn ennyn hyder rhieni, disgyblion a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel ei gilydd. Roedd yr elfen gyntaf, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ar gael ym mis Medi. Yn y fideos isod, dw i’n ategu ei bwysigrwydd; yn well byth, cewch glywed yn uniongyrchol gan Lauren ac Amelia o Ysgol Gyfun Cymraeg Bro Edern am y manteision a ddaw yn sgil dim ond yr un elfen newydd hon.


Gadael ymateb