Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, mae canllawiau statudol ar Ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae hyn yn ategu cyhoeddi’r don gyntaf o fanylebau arholiadau TGAU newydd gan CBAC yn ddiweddarach y mis hwn. Eu nod yw cefnogi ysgolion i drefnu a chynllunio eu cwricwlwm ar gyfer y garfan gyntaf o ddysgwyr blwyddyn 10 i gael eu haddysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2025.
Beth nesaf?
O fis Medi 2025 dylid trefnu’r cynnig cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o amgylch pedair elfen yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 ochr yn ochr â’r cymwysterau yn ystod blynyddoedd 10 ac 11.
Beth fydd angen i ysgolion/ymarferwyr ei wneud?
Cynllunio cynnig cwricwlwm 14 i 16 sydd:
- yn sicrhau bod popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben.
- yn cynnwys cymysgedd priodol o gymwysterau cyffredinol, galwedigaethol a rhai seiliedig ar sgiliau ar wahanol lefelau, sy’n seiliedig ar anghenion eu dysgwyr, a phob dysgwr yn elwa ar gymwysterau heriol, ymestynnol ac uchelgeisiol mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a’r Gwyddorau.
- yn darparu amser cwricwlwm pwrpasol i gefnogi eu dysgwyr i ddeall eu cryfderau, ac i gynllunio ar gyfer eu camau nesaf ôl-16.
- yn sicrhau bod eu holl ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn parhau i ddysgu ar draws pob Maes ac elfen orfodol o’r cwricwlwm, a’u bod yn gwneud cynnydd ym mhob un o bedair elfen yr Hawl i Ddysgu.
Wrth i ysgolion gynllunio ar gyfer Medi 2025, byddwn yn darparu adnoddau i gefnogi ymarferwyr ac uwch-arweinwyr i gynllunio eu cynnig cwricwlwm yn unol â’r canllawiau. Bydd hyn yn cynnwys map o broses gynllunio’r cwricwlwm ynghyd ag astudiaethau achos ar arferion da sy’n canolbwyntio ar effeithiolrwydd dysgwyr. Bydd y deunyddiau ategol hyn yn cael eu cyhoeddi drwy gydol tymor yr hydref, a bydd y cyntaf ohonynt ar gael yn ddiweddarach y mis hwn ochr yn ochr â chyhoeddi manylebau TGAU Yn arbennig i Gymru CBAC.
Rydym hefyd yn datblygu pecyn dysgu proffesiynol wedi’i dargedu ar gyfer uwch-arweinwyr i’w cefnogi wrth i gymwysterau newydd a’r Hawl i Ddysgu gael eu cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen. Bydd hyn yn ategu gwaith cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu. A bydd hefyd yn ategu amserlen ddysgu broffesiynol CBAC ar gyfer TGAU Yn arbennig i Gymru. Caiff manylion llawn y pecyn dysgu proffesiynol eu cyhoeddi yn Dysg erbyn diwedd mis Medi.
Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Canllawiau ar Ddysgu 14 i 16 y Cwricwlwm i Gymru (18 Medi 2024)