Mae’r rhaglen MA Gradd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) sy’n cael ei rhedeg gan saith o Brifysgolion yng Nghymru gan ddefnyddio arbenigedd a rennir, yn ehangu ym mis Medi gyda Llwybr Cwricwlwm.
Yn ogystal ag ymchwilio i ddamcaniaeth ac ymarfer wrth gynllunio’r cwricwlwm, bydd yn edrych ar weithredu a modelau arweinyddiaeth. Bydd cyfranogwyr ar y cwrs dysgu cyfunol rhan-amser hefyd yn cael cyfleoedd i wella eu barn broffesiynol, eu hymreolaeth a’u gallu i ymateb yn arloesol i heriau.
Nid yw hynny’n digwydd yn gyflym. Mae’r cwrs, sy’n isafswm o ddwy i dair blynedd (yn ddibynnol ar ddysgu blaenorol) yn caniatáu amser i fynd o dan groen y gwahanol agweddau o ymarfer sy’n cynnwys modiwlau yn ymwneud â Chynllunio’r Cwricwlwm ac Arloesedd, Ymchwil ac Ymholi, ac Archwilio Addysgeg. Mae’r cyfuniad o ddysgu yn cynnwys amser wyneb yn wyneb ond mae ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau cyfnos a diwrnodau cynadledda cenedlaethol.
Mae buddsoddiad sylweddol yn llwyddiant y Cwricwlwm i Gymru yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, a gydweithiodd â’n prifysgolion i ddatblygu’r rhaglen (MA) Gradd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg, yn golygu nad oes angen i nifer o ymgeiswyr dalu ffioedd. Mae hynny’n gwneud hwn yn gyfle prin y dylid manteisio arno.
Dyma eiriau i gloi gan Dr Andrew James Davies am yr hyn y mae’r llwybr Cwricwlwm yn ei gynnig: